Ac fe wnaeth ef chwip o gortynnau a’u gyrru nhw i gyd allan o’r Deml, defaid, gwartheg a phawb. Yna fe sgubodd y newid mân ar hyd y lle a dymchwelodd y byrddau. Ac meddai wrth y rheiny oedd yn gwerthu colomennod, “Ewch â’r pethau hyn allan; peidiwch â gwneud Tŷ fy Nhad yn farchnad.”