Ioan 2

2
Yr Iesu mewn priodas
1Ymhen dau ddiwrnod roedd priodas yng Nghana yng Ngalilea. Roedd mam yr Iesu yno, 2ac fe gafodd yr Iesu ei wahodd gyda’i ddisgyblion. 3Fe ddaeth y gwin i ben, a dyma fam yr Iesu yn dweud wrtho: “Fe ddaeth y gwin i ben.”
4“Beth sy wnelo hyn â mi, Mam?” meddai’r Iesu. “Dyw fy nghyfle i ddim wedi dod eto.”
5Ond meddai mam yr Iesu wrth y gweision, “Cofiwch wneud beth bynnag fydd ef yn ei ofyn i chi.”
6Nawr mae gan yr Iddewon arferion ymolchi arbennig fel rhan o’u crefydd, ac felly roedd chwech o lestri carreg yn sefyll wrth law, a phob un yn dal rhwng ugain a deg ar hugain o alwyni. 7Meddai’r Iesu wrth y gweision, “Llenwch y llestri â dŵr.”
A dyma’u llenwi nhw i’r ymylon. 8Ac meddai’r Iesu ymhellach, “Codwch dipyn allan, ac ewch ag ef at yr un sy’n gofalu am y wledd.” A dyna a wnaethon nhw. 9Pan brofodd hwnnw’r dŵr oedd wedi ei droi yn win, doedd ganddo ddim syniad o ble y daeth (er bod y gweision oedd wedi codi’r dŵr yn gwybod), ac felly fe alwodd ar y priodfab 10ac meddai wrtho, “Mae pawb arall yn rhannu’r gwin gorau yn gyntaf, ac yna’r peth salach, ar ôl i’r gwahoddedigion feddwi; ond rwyt ti wedi cadw’r gwin gorau hyd yn awr.”
11Fe wnaeth yr Iesu yr arwydd hwn — yr un cyntaf a wnaeth ef — yng Nghana yng Ngalilea. Fe ddangosodd mor ogoneddus oedd ef, ac fe gredodd ei ddisgyblion ynddo.
12Ar ôl hyn aeth yr Iesu a’i fam a’i frodyr a’i ddisgyblion i lawr i Gapernaum, heb aros yno ond am ychydig ddyddiau.
Yr Iesu yn y Deml
13Roedd Gŵyl y Pasg yn agosáu ac fe aeth yr Iesu i fyny i Jerwsalem. 14Ac yng nghyntedd y Deml, o bob man, fe welodd borthmyn yn gwerthu gwartheg, defaid a cholomennod, yn ogystal â rhai oedd yn newid arian yn eistedd wrth eu byrddau. 15Ac fe wnaeth ef chwip o gortynnau a’u gyrru nhw i gyd allan o’r Deml, defaid, gwartheg a phawb. Yna fe sgubodd y newid mân ar hyd y lle a dymchwelodd y byrddau. 16Ac meddai wrth y rheiny oedd yn gwerthu colomennod, “Ewch â’r pethau hyn allan; peidiwch â gwneud Tŷ fy Nhad yn farchnad.” 17Yna fe gofiodd ei ddisgyblion eiriau’r Ysgrythur: ‘Fe fydd sêl am dy dŷ di yn fy nifa i.’ 18Heriodd yr Iddewon ef, ac medden nhw, “Pa warant sydd gennyt ti dros wneud peth fel hyn?”
19“Dinistriwch chi’r Deml hon,” atebodd yr Iesu, “ac fe’i codaf hi ymhen tri diwrnod.”
20Ac meddai’r Iddewon, “Fe gymerodd hi chwech a deugain o flynyddoedd i’w chodi, ac a wyt ti’n mynd i’w hail-adeiladu mewn tri diwrnod?”
21Ond siarad roedd ef am Deml ei gorff ei hun. 22Ac fe gofiodd ei ddisgyblion ei eiriau ar ôl iddo atgyfodi, a bu iddyn nhw gredu yr Ysgrythur a’r geiriau a ddywedodd yr Iesu.
23Pan oedd yr Iesu yn Jerwsalem yn ystod Gŵyl y Pasg fe gredodd llawer iawn ynddo wrth weld yr arwyddion roedd yn eu gwneud. 24Doedd yr Iesu yn bersonol ddim yn barod i’w roi ei hun yn eu dwylo nhw am ei fod yn eu hadnabod nhw i gyd. 25Doedd dim angen i neb ddweud wrtho am ddyn, gan ei fod yn deall y natur ddynol.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Ioan 2: FfN

เน้นข้อความ

แบ่งปัน

คัดลอก

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้