S. Ioan 9
9
1Ac wrth fyned heibio, gwelodd ddyn dall o’i enedigaeth. 2A gofyn Iddo a wnaeth Ei ddisgyblion, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn ai ei rieni, fel mai dall y genid ef? 3Attebodd yr Iesu, Hwn ni phechodd nac ei rieni; eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo. 4I ni y mae rhaid gweithio gweithredoedd yr Hwn a’m danfonodd tra y mae’r dydd: dyfod y mae’r nos, pan ni all neb weithio. 5Tra yn y byd yr wyf, goleuni’r byd ydwyf. 6Wedi dywedyd y geiriau hyn, poerodd ar lawr, a gwnaeth glai o’r poeryn, ac enneiniodd y clai ar ei lygaid ef, a dywedodd wrtho, Dos; 7ymolch yn llyn Shiloam (yr hwn a gyfieithir Danfonedig). Gan hyny yr aeth efe ymaith, ac ymolchodd, a daeth yn gweled. 8Y cymmydogion, gan hyny, ac y rhai a’i gwelent ef o’r blaen mai cardotyn ydoedd, a ddywedasant, Onid hwn yw’r dyn oedd yn eistedd ac yn cardotta? 9Eraill a ddywedasant, Nage, eithr tebyg iddo yw. Efe a ddywedodd, Myfi yw efe. 10Dywedasant, gan hyny, wrtho, Pa fodd, gan hyny, yr agorwyd dy lygaid di? 11Attebodd efe, Y dyn a elwir Iesu, clai a wnaeth Efe, ac enneiniodd fy llygaid i, a dywedodd wrthyf, “Dos i Shiloam ac ymolch.” Wedi myned, gan hyny, ac wedi ymolchi, fy ngolwg a gefais. 12A dywedasant wrtho, Pa le y mae Efe? Dywedodd, Nis gwn.
13Dygasant ef at y Pharisheaid, sef yr hwn oedd gynt yn ddall. 14A Sabbath oedd y dydd yn yr hwn y gwnaeth yr Iesu y clai, ac yr agorodd ei lygaid ef. 15Trachefn, gan hyny, y gofynodd y Pharisheaid iddo pa fodd y cawsai ei olwg. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd Efe ar fy llygaid i, ac ymolchais, a gweled yr wyf. 16Gan hyny y dywedodd rhai o’r Pharisheaid, Nid yw y dyn hwn o Dduw, gan mai y Sabbath ni cheidw. Ac eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y fath arwyddion? 17Ac ymraniad oedd yn eu plith. Dywedasant, gan hyny, drachefn wrth y dall, Pa beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am Dano Ef, am agoryd o Hono dy lygaid di? 18Ac efe a ddywedodd, Prophwyd yw. Gan hyny, ni chredodd yr Iwddewon am dano, mai dall fuasai, a chael o hono ei olwg, nes galw o honynt rieni yr hwn a gawsai ei olwg, 19a gofyn iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab, am yr hwn yr ydych chwi yn dweud mai dall y ganwyd ef? Pa fodd, gan hyny, y gwel efe yn awr? 20Attebodd ei rieni, a dywedasant, Gwyddom mai hwn yw ein mab, ac mai dall y ganwyd ef; 21ond pa fodd y mae efe yr awrhon yn gweled, nis gwyddom; neu pwy a agorodd ei lygaid ef, nyni nis gwyddom. Gofynwch iddo ef ei hun; mewn oedran y mae. Efe a lefara am dano ei hun. 22Hyn a ddywedodd ei rieni, oherwydd ofni o honynt yr Iwddewon, canys eisioes y cyttunasai yr Iwddewon, os cyfaddefai neb Ef yn Grist, y cai ei roi allan o’r sunagog. 23O achos hyn ei rieni a ddywedasant, Mewn oedran y mae; gofynwch iddo ef ei hun. 24Gan hyny, galwasant y dyn eilwaith, sef yr hwn a fuasai ddall, a dywedasant wrtho, Dyro ogoniant i Dduw. Nyni a wyddom fod y dyn hwn yn bechadur. 25Gan hyny yr attebodd efe, Ai pechadur yw, nis gwn. Un peth a wn, lle yr oeddwn yn ddall, yn awr y gwelaf. 26Dywedasant, gan hyny, wrtho, Pa beth a wnaeth Efe i ti? Pa fodd yr agorodd dy lygaid di? 27Attebodd iddynt, Dywedais wrthych eisoes, ac ni wrandawsoch. Paham yr ewyllysiwch glywed drachefn? A ydych chwi yn ewyllysio myned yn ddisgyblion iddo? 28A difenwasant ef, a dywedasant, Tydi sydd ddisgybl Iddo Ef, ond nyni, i Mosheh yr ydym yn ddisgyblion. 29Nyni a wyddom mai wrth Mosheh y llefarodd Duw; ond am Hwn, nis gwyddom o ba le y mae. 30Attebodd y dyn, a dywedodd wrthynt, Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd, nad ydych chwi yn gwybod o ba le y mae, ac agorodd Efe fy llygaid i. 31Gwyddom ar bechaduriaid nad yw Duw yn gwrando, ond os addolwr yw neb, ac Ei ewyllys Ef a wnelo efe, hwnw y mae yn ei wrando. 32Ni chlybuwyd erioed agoryd o neb lygaid un a anesid yn ddall. 33Oni bai Hwn o Dduw, ni allasai wneuthur dim. 34Attebasant, a dywedasant wrtho, Mewn pechodau y’th anwyd di oll; a thydi wyt yn ein dysgu ni! A bwriasant ef allan.
35Clywodd yr Iesu y bwriasant ef allan; a phan gafodd ef, dywedodd, A wyt ti yn credu ym Mab Duw? 36Attebedd efe a dywedodd, A phwy yw Efe, Arglwydd, fel y credwyf Ynddo? 37Dywedodd yr Iesu, Gwelaist Ef, ac yr Hwn sy’n llefaru â thi, Hwnw yw Efe. 38Ac efe a ddywedodd, Credu yr wyf, Arglwydd; ac addolodd Ef. 39A dywedodd yr Iesu, I farn Myfi a ddaethum i’r byd hwn, fel y bo i’r rhai na welant weled, ac i’r rhai sy’n gweled fyned yn ddeillion. 40Clywodd rhai o’r Phariseaid y pethau hyn, sef y rhai oedd gydag Ef, a dywedasant Wrtho, A ydym ninnau hefyd yn ddeillion? 41Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Pe deillion fyddech, ni fyddai genych bechod: ond yn awr y dywedwch, “Gwelwn,” a’ch pechod sy’n aros.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
S. Ioan 9: CTB
เน้นข้อความ
แบ่งปัน
คัดลอก
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.