Iöb 7

7
VII.
1 # 7:1 blin yw bywyd dyn, g. h. naturiol yw iddo chwennych gorphwysdra. Onid milwriaeth (sydd) i adyn ar y ddaear,
Ac fel dyddiau cyflog-ddyn, ei ddyddiau ef?
2Fel gwas y dyheua efe am gysgod,
Ac fel cyflog-ddyn y gobeithia efe am wobr ei waith:
3Felly, mi a gefais im’ fy hun fisoedd blinder,
A nosweithiau trallod a ranwyd i mi;
4Pan orweddwyf, y dywedaf “Pa bryd y codaf?”
A’r nos yn ymestyn, mi a orlenwir o ymluchiadau hyd y wawr:
5Gorchuddio fy nghnawd y mae pryfed a tholchau priddellaidd,
# 7:5 yn torri allan o newydd. Fy nghroen sy’n cramenu ac a aiff yn ddiferlif:
6 # 7:6 mor fyr yw bywyd fel na cheir byth y gorphwysdra hwnnw oni ddêl yn fuan. Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd,
Ac yn darfod mewn ymbeidiad gobaith.
7Cofia, (O Dduw,) mai gwŷnt (yw) fy hoedl,
Nad adchwel fy llygad i weled daioni,
8Na thremia arnaf lygad y neb sydd yn fy ngweled i.
Dy lygad Di (sydd) arnaf ac nid wyf (mwy)!
9Darfod y mae cwmmwl ac yn myned ymaith,
Felly, yr hwn a ddisgyn i annwn nid esgyn (oddi yno),
10Ni ddychwel efe mwyach i’w dŷ,
A’i le nid adnebydd ef etto.
11Gan hynny myfi, ni warafunaf i’m genau,
Llefaraf ynghyfyngder fy yspryd,
Cwynaf yn chwerwder fy enaid.
12Ai môr myfi? Ai morfil (wyf),
Am i Ti osod arnaf #7:12 sef ei ddoluriauwyliedydd?
13Pan ddywedwyf, “Fe gysura fy ngwely fi,
Esmwythâd fy nghwynfan fy ngorweddfa a rydd,”
14Yna y’m brawychi â breuddwydion,
Ac â gweledigaethau y’m dychryni;
15Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu,
# 7:15 ysgerbwd oedd efe yn awr (Ië) marwolaeth yn fwy na ’m hesgyrn:
16Ymdoddais, nid yn dragywydd y byddaf byw,
Paid â mi, canys tarth (yw) fy nyddiau.
17Pa beth (yw) dyn i Ti ei fawrhâu,
Ac i Ti roddi Dy feddwl arno,
18Ac ymweled ag ef bob bore,
A phob amrant ei brofi ef?
19Pa hŷd y byddi heb edrych oddi wrthyf,
Ac heb fy ngollwng #7:19 diareb yn arwyddocâu ychydig amsertra y llyngcwyf fy mhoeryn?
20Os pechais, pa beth a wnaethum i Ti, Ardremiwr dyn?
Pa ham y gosodaist fi yn nôd i Ti,
Fel yr ydwyf i mi fy hun yn faich;
21A pha ham na faddeui fy nghamwedd,
Ac na fwri heibio fy anwiredd?
22Canys, yn awr, yn y llwch yr wyf ar fedr gorwedd,
A Thi a chwili am danaf, ond ni byddaf mewn bod.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Iöb 7: CTB

เน้นข้อความ

แบ่งปัน

คัดลอก

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้