Luc 19

19
1Ac aeth i mewn, ac yn ei flaen trwy Iericho. 2A dyma ŵr a elwid wrth yr enw Sacheus; yr oedd ef yn brif drethwr, ac yn gyfoethog. 3Ac yr oedd yn ceisio gweled p’run oedd yr Iesu, ac nis gallai o achos y dyrfa, canys bychan oedd o gorffolaeth. 4A rhedodd rhagddo yn ei flaen, a dringo sycamorwydden i gael ei weled, canys yr oedd ef i ddyfod y ffordd honno. 5A phan ddaeth hyd y fan, edrychodd yr Iesu i fyny, a dywedodd wrtho, “Sacheus, disgyn ar frys, canys heddiw rhaid imi aros yn dy dŷ.” 6A disgynnodd ar frys, a derbyniodd ef yn llawen. 7A phan welsant, dechreuodd pawb rwgnach, gan ddywedyd, “Aeth i mewn i letya gyda gŵr pechadurus.” 8A safodd Sacheus, a dywedodd wrth yr Arglwydd, “Dyma fi’n rhoddi hanner fy eiddo i’r tlodion, Arglwydd; ac os dygais ddim oddi ar neb drwy gamachwyn, dyma fi’n dychwelyd cymaint bedair gwaith.” 9A, dywedodd yr Iesu wrtho, “Heddiw daeth iachawdwriaeth i’r tŷ hwn, gan ei fod yntau’n fab i Abraham; 10canys daeth Mab y dyn i geisio ac i gadw’r hyn a gollwyd.”
11A hwythau’n gwrando ar y pethau hyn, fe aeth rhagddo i ddywedyd dameg, am ei fod yn agos i Gaersalem a’u bod hwy’n tybied bod teyrnas Dduw i ymddangos yn y fan. 12Dywedodd, ynteu, “Aeth rhyw bendefig i wlad bell i gael brenhiniaeth iddo’i hun, ac i ddychwelyd. 13A galwodd ddeg o’i weision, a rhoddes iddynt ddeg punt, a dywedodd wrthynt, ‘Marchnatewch hyd oni ddelwyf.’ 14Ond yr oedd ei ddinaswyr yn ei gasáu, ac anfonasant genhadau ar ei ôl, gan ddywedyd, ‘Ni fynnwn ni i hwn ddyfod yn frenin arnom ni.’ 15Ac ar ôl iddo ddychwelyd wedi cael y frenhiniaeth, dywedodd am alw ato’r gweision hynny y rhoesai’r arian iddynt, fel y caffai wybod beth a elwasai pob un wrth farchnata. 16A daeth y cyntaf gan ddywedyd, ‘Arglwydd, enillodd dy bunt ddeg punt.’ 17A dywedodd wrtho, ‘Campus, was da! Am i ti fod yn ffyddlon mewn ychydig, boed gennyt awdurdod ar ddeg dinas.’ 18A daeth yr ail, gan ddywedyd, ‘Gwnaeth dy bunt, arglwydd, bum punt.’ 19A dywedodd wrtho yntau, ‘Bydd dithau dros bum dinas.’ 20A’r llall a ddaeth, gan ddywedyd, ‘Arglwydd, dyma dy bunt, a oedd gennyf wedi ei dodi mewn napcyn; 21yr oedd arnaf dy ofn di, am dy fod yn ŵr llym — yr wyt yn codi’r hyn ni osodaist i lawr, ac yn medi’r hyn ni heuaist.’ 22Eb ef wrtho, ‘O’th enau dy hun yr wyf yn dy farnu, was drwg; ti wyddit fy mod yn ŵr llym, yn codi’r hyn ni osodais i lawr ac yn medi’r hyn ni heuais. 23A phaham na roddaist fy arian mewn ariandy? A minnau, wedi dyfod, cawswn ef allan gyda llog.’ 24A dywedodd wrth y rhai a oedd yn sefyll gerllaw, ‘Cymerwch y bunt oddi arno, a rhowch i’r hwn sydd ganddo’r deg punt.’ 25A dywedasant wrtho, ‘Arglwydd, y mae ganddo ddeg punt.’ 26‘Yr wyf yn dywedyd i chwi, i’r neb sydd ganddo y rhoddir, ond oddi ar yr hwn nid oes ganddo y cymerir hyd yn oed yr hyn sydd ganddo. 27Eithr am fy ngelynion, y rhai ni fynasent i mi ddyfod yn frenin arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch hwynt ger fy mron’.” 28Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn cychwynnodd yn ei flaen, gan fynd i fyny i Gaersalem.
29A phan nesaodd at Fethphage a Bethania ger y mynydd a elwir Olewydd, anfonodd ddau o’r disgyblion, 30gan ddywedyd, “Ewch i’r pentref gyferbyn, ac yno wrth fynd i mewn chwi gewch ebol yn rhwym, un nad eisteddodd neb dyn erioed arno, a gollyngwch a dygwch ef. 31Ac os gofyn neb i chwi, ‘Paham yr ydych yn ei ollwng?’ fel hyn y dywedwch, ‘Mae ar yr Arglwydd ei eisiau’.” 32Ac aeth y rhai a anfonwyd, a chawsant fel y dywedasai wrthynt. 33A phan oeddent yn gollwng yr ebol, dywedodd ei berchnogion wrthynt, “Paham y gollyngwch yr ebol?” 34Dywedasant hwythau, “Mae ar yr Arglwydd ei eisiau.” 35A dygasant ef at yr Iesu, ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, dodasant yr Iesu arno. 36Ac fel yr oedd ef yn mynd, taenent eu dillad ar y ffordd. 37A phan oedd bellach yn nesáu, wrth y goriwaered o Fynydd yr Olewydd, dechreuodd yr holl liaws disgyblion glodfori Duw yn llawen â llef uchel am yr holl rymusterau a welsent, 38gan ddywedyd:
Bendigedig yw’r un sy’n dyfod,
Y Brenin, yn enw’r Arglwydd;
Yn y nef tangnefedd
A gogoniant yn y goruchafion.”
39A dywedodd rhai o’r Phariseaid o’r dyrfa wrtho, “Athro, cerydda dy ddisgyblion.” 40Ac atebodd yntau, “Yr wyf yn dywedyd i chwi, Os bydd y rhain yn ddistaw, gwaedda’r cerrig.” 41A phan nesaodd a gweled y ddinas, wylodd drosti, 42gan ddywedyd, “O na wybuasit tithau y dydd hwn y pethau a berthyn i heddwch! Ond yn awr fe’u cuddiwyd o’th olwg. 43Canys daw arnat ddyddiau pryd y cyfyd dy elynion glawdd i’th erbyn, ac y’th amgylchant, a gwarchae arnat o bobtu, 44a’th fwrw di i’r llawr a’th blant o’th fewn, ac ni adawant ynot faen ar faen, am nad adnabuost amser dy ymweliad.” 45Ac wedi iddo fynd i mewn i’r deml, 46dechreuodd fwrw allan y gwerthwyr, gan ddywedyd wrthynt, “Y mae’n ysgrifenedig, A bydd fy nhŷ i yn dŷ gweddi, ond gwnaethoch chwi ef yn ogof lladron.”
47Ac yr oedd yn dysgu beunydd yn y deml; ond ceisiai’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r gwŷr blaenaf o’r bobl ei ddifetha, 48a methent wybod beth i’w wneud, canys yr oedd yr holl bobl yn dal ar bob gair wrth wrando arno.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Luc 19: CUG

เน้นข้อความ

แบ่งปัน

คัดลอก

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้