Luk 22
22
PENNOD XXII.
Yr Iudaion yn cyd-fwriadu yn erbyn Christ. Satan yn parattôi Iudas. Yr apostolion yn arlwyo y pasg. Christ yn rhag-ddywedyd am y bradychwr: yn annog y rhan arall o’i apostolion i ochelyd rhyfyg: yn sicrhâu Pedr na phallai ei ffydd ef: ac er hynny y gwadai efe ef dair gwaith: yn gweddïo yn y mynydd: yn cael ei fradychu â chusan: yn iachâu clust Malchus: yn cael ei wadu gan Pedr, ai ammherchi; ac yn cyfaddef ei fod yn Fab Duw.
1A NESAODD gwledd y bara croyw, yr hon a elwir y pasg. 2A’r arch-offeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegyd yr oedd arnynt ofn y bobl. 3A Satan a aeth i mewn i Iudas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o nifer y deuddeg. 4Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd â’r archoffeiriaid a’r blaenoriaid, pa fodd y bradychai efe ef iddynt. 5Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gyttunasant ar roddi arian iddo. 6Ac efe a addawodd, ac a geisiodd amser cyfaddas i’w fradychu ef iddynt yn absen y bobl. 7A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y pasg. 8Ac efe a anfonodd Pedr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, parattôwch i ni y pasg, fel y bwyttaom. 9A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni barottoi o honom? 10Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddelech i mewn i’r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i’r tŷ lle yr el efe i mewn. 11A dywedwch wrth wr y tŷ, Y mae yr Athraw yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae’r lletty, lle y gallwyf fwytta’r pasg gyd â’m disgyblion? 12Ac efe a ddengys i chwi oruwch ystafell fawr, wedi eu thanu: yno parattôwch. 13A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt; ac a barattoisant y pasg. 14A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a’r deuddeg apostol gyd ag ef. 15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a chwennychais yn fawr fwytta y pasg hwn gyd â chwi cyn dioddef o honof. 16Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwyttâf fi mwyach o hono, hyd oni chyflawner yn freniniaeth Duw. 17Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoddi dïolch, efe a ddywedodd, Cymmerwch hwn, a rhennwch yn eich plith: 18Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwŷdden, hyd oni ddel breniniaeth Duw. 19Ac wedi iddo gymmeryd bara, a rhoi dïolch, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorph yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf. 20Yr un modd y cwppan hefyd wedi bwyta, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw y cyfammod newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch. 21Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyd â mi ar y bwrdd. 22Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae’r dyn hwnnw trwy yr hwn y bradychir ef. 23Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy o honynt oedd yr hwn a wnai hynny. 24A bu ymryson yn eu plith, pwy o honynt a gae fod yn fwyaf. 25Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion. 26Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a’r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini. 27Canys pa un fwyaf, ai yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai yr hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu. 28A chwi yw y rhai a arhosasoch gyd â mi yn fy mhrofedigaethau. 29Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi freniniaeth, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau; 30Fel y bwyttaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy mreniniaeth, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel. 31A’r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a’ch ceisiodd chwi, i’ch nithio fel gwenith: 32Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y’th droër, cadarnhâ dy frodyr. 33Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gydâ thi i garchar, ac i angau. 34Yntau a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Pedr, Na chân y ceiliog heddyw, nes i ti wadu dair gwaith yr adweini fi. 35Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan eich anfonais heb na phwrs, na chod, nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim? A hwy a ddywedasant, Na fu ddim. 36Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs, cymmered; a’r un modd god: a’r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf. 37Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, Fod yn rhaid etto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifenwyd; sef, A chyd â’r anwir y cyfrifwyd ef. Canys y mae diben i’r pethau am danf fi. 38A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw. 39Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ol ei arfer, i fynydd yr Olewŷdd; a’i ddisgyblion, a’i canlynasant ef. 40A phan ddaeth i’r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth. 41Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tu ag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd, 42Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwppan hwn oddi wrthyf; er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. 43Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef. 44Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach: a’i chwŷs ef oedd fel defnynau gwaed yn disgyn ar y ddaear. 45A phan gododd ef o’i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a’u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch; 46Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth. 47Ac efe etto yn llefaru, wele dyrfa; a hwn a elwir Iudas, un o’r deuddeg, oedd yn myned o’u blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu, i’w gusanu ef. 48A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Iudas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn? 49A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a darâwn ni â chleddyf? 50A rhyw un o honynt a darawodd was yr arch-offeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddehau ef. 51A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Goddefwch fi, yn hyn; ac a gyffyrddodd â’i glust, ac a’i hiachaodd ef. 52A’r Iesu a ddywedodd wrth yr arch-offeiriaid, a blaenoriaid y deml, a’r henuriaid, y rhai a ddaethent atto, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau ac â ffyn? 53Pan oeddwn beunydd gyd â chwi yn y deml, nid estynasoch ddwylaw i’m herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu y tywyllwch. 54A hwy a’i daliasant ef, ac a’i harweiniasant, ac a’i dygasant i mewn i dŷ yr arch-offeiriaid. A Phedr a ganlynodd o hirbell. 55Ac wedi iddynt gynneu tân ynghanol y nauadd, a chyd-eistedd, Pedr yntau a eisteddodd yn eu plith. 56A phan ganfu rhyw langces ef yn eistedd wrth y tan, a dal sulw arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gyd ag ef. 57Yntau a’i gwadodd, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef. 58Ac ychydig wedi, un arall a’i gwelodd, ac a ddywedodd, Yr wyt tithau hefyd yn un o honynt. A Phedr a ddywedodd, O ddyn, nid ydwyf. 59Ac ar ol megis yspaid un awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gyd ag ef: canys Galilaia yw. 60A Phedr a ddywedodd, Y dyn, ni’s gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe etto yn llefaru, canodd y ceiliog. 61A’r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr. A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith. 62A Phedr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost. 63A’r gwŷr oedd yn dal yr Iesu, a’i gwatwarasant ef, gan ei daro. 64Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, hwy a’i tarawsant ef ar ei wyneb, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Prophwyda, pwy yw yr hwn a’th darawodd di? 65A llawer o bethau eraill, gan gablu, a ddywedasant yn ei erbyn ef. 66A phan dyddhaodd, ymgynhullodd henuriaid y bobl, a’r arch offeiriaid, a’r ysgrifenyddion, ac a’i dygasant ef i’w cynghor. 67Gan ddywedyd, Ai ti yw Christ? dywed i ni. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch: 68Ac os gofynaf hefyd i chwi, ni’m hattebwch, ac ni’m gollyngwch ymaith. 69Ar ol hyn y bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw. 70A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hynny ydwyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn dywedyd fy mod. 71Hwythau a ddywedasant, Pa raid i ni mwyach wrth dystiolaeth? canys clywsom ein hunain o’i enau ef ei hun.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Luk 22: JJCN
เน้นข้อความ
แบ่งปัน
คัดลอก
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Y Cyfammod Newydd gan John Jones. Argraffwyd gan John Williams, Llundain 1808. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.