Tytws 1

1
Y Cytpen Kyntaf
1Pawl gwasnaythwr duw: ag Apostol iesu grist: ar ol ffydd dewisedigion dûw: ag ar ol gwybodaeth y gwirionedd: rhon sydd yn gytûn a duwioliaeth: 2y fewn gobaith y bowyd tragwyddol: rhwn a addawodd y sydd ddiaû dûw ymblaen dechreuad y byd: 3eithr a egorawdd eu air y fewn eû amser: trwy bregethû: yr hyn a orchmynwyd i myfi: o rym nawdd eyn keidwad ni dûw: 4at tytws eû wir fab ar ol y gyffredinawl ffydd: Gras trugaredd a thenghefedd y can dduw tad ar arglwydd iesu grist eyn keidwad 5Or achos hwn i gadewais i dydi y fewn Creta: mal i gallyt [ragor] ddewgiaw hyn sy yn ol, ag ordiniaw henafgwyr ym hob dinas: megis ag i poyntiais i tydi: 6os bydd vn a fo difai: gwr vn wraig: ag iddaw blant ffyddlawn: ni bo gogan vddynt am anllyfodraeth: 7neû eu bod yn anhowaith Cans rhaid yw i escop fod yn ddifai: megis [ynad] styward i ddûw: nid afrowiog: nid dikllon: nid rheibiwr gwin nid ymladdwr, nid chwannog i fudr elw: 8Eythr a fon (lettowr) kynal tyy: vn a garo dayoni: prudd: sobr: kyfion duwiol tymhoraidd (ardymherus): 9yn glynû wrth ffyddlawn ymadrodd yr addysc: fal i botho hefyd abl i gynghori trwy bybyr athraweth ag i orfod yrhai a font yn gwrthnebû: 10Cans may rhai yn anhowaith: overaidd eû siarad: hudolion y meddwl: ag yn benna yrhai sy or anwaydiad 11Safnay yrhai a fydd rhaid i [stopio] hargaû: yrhai syn dymchwelyd teiaû kyfanedd yn dyscu pethaû [[nis dylent]] ni fferthynai vddynt: ir mwyn budr elw: 12vn o honyntwy, proffwyd or euddynt eu hûn a ddyfawd: y Cretiniaid kelwddog fyth: pryfed drwg: boliaû muscrell: 13gwir ywr testiolaeth hyn: ag am hynny kyrydda di hwynt yn dost: mal i gallont fod yn iach y fewn y ffydd 14nid yn ystyriaeth chwedlay eiddewaidd: a gorchmynion dynion a dry heibio r gwirionedd: 15Ir rhai pûr pob peth sydd bûr eithr irhai sy lygredig ag anffyddlon: ni bydd dim pûr: namyn llygredig yw pob vn eu meddwl hwynt ai kydwybod: 16kyfaddaû (proffessû) i maynt eu bod yn ednabod dûw: eithr ai gweithredoedd eu wadu i maynt: can i bod hwynt yn ffiaidd ag yn anûfydd ag yn anghyson i bob gweithred dda:

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Tytws 1: RDEB

เน้นข้อความ

แบ่งปัน

คัดลอก

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้