Matthew Lefi 4:18-22

Matthew Lefi 4:18-22 CJW

Yna wrth rodio gèr môr Galilëa, efe á welai ddau o frodyr, Simon à elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, yn taflu tỳnrwyd i’r môr, canys pysgodwyr oeddynt. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Deuwch gyda mi, a mi á ’ch gwnaf yn bysgodwyr dynion. Yn ddiannod hwy á adawsant y rhwydau, ac á’i canlynasant ef. Wrth fyned rhagddo, efe á welai ddau o frodyr ereill, Iägo mab Zebedëus, ac Iöan ei frawd, yn y llong gyda Zebedëus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau, ac efe á’u galwodd hwynt. Hwythau yn ebrwydd, gàn adael y llong a’u tad, á’i canlynasant ef.

อ่าน Matthew Lefi 4