Matthew Lefi 4
4
1-11Yna yr arweiniwyd Iesu gàn yr Ysbryd i’r anialwch iddei demtio gàn y diafol. A gwedi ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, yr oedd efe yn newynog. Yna y temtiwr, gàn ei gyfarch ef, á ddywedodd, Os Mab Duw wyt ti, arch i’r cèryg hyn fod yn dorthau. Iesu gàn ateb, á ddywedodd, Ysgrifenwyd, “Nid drwy fara yn unig y mae dyn yn byw, ond drwy bob peth à welo Duw yn dda ei drefnu.” Yna y dyg y díafol ef i’r ddinas santaidd, a gwedi ei osod ef àr furganllaw y deml, á ddywedodd wrtho, Os Mab Duw wyt ti, tafl dy hun i lawr; canys ysgrifenwyd, “Efe á rydd dy ofal iddei angylion; hwy á’th gynnaliant yn eu breichiau, rhag taro o honot dy droed wrth gáreg.” Iesu á atebodd drachefn, Ysgrifenwyd, “Na phrofa yr Arglwydd dy Dduw.” Drachefn y cymerodd y diafol ef i fynydd tra uchel, ac oddyno á ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd yn eu gogoniant, ac á ddywedodd wrtho, Y rhai hyn oll á roddaf i ti, os ymgrymi i lawr, a’m haddoli i. Iesu á atebodd, Dos ymaith, Satan; canys ysgrifenedig yw, “Yr Arglwydd dy Dduw á addoli, ac ef yn unig à wasanaethi.” Yna, gwedi i’r diafol ei adael ef, angylion á ddaethant, ac á weiniasant iddo.
12-17Ac Iesu, gwedi clywed ddarfod carcharu Iöan, á giliodd i Alilëa, a gwedi gadaw Nasareth, á drigodd yn Nghapernäum, porthladd yn nghyffiniau Zabulon a Naphtali, drwy hyny yn gwireddu geiriau Isaia y Proffwyd; “Cantref Zabulon, a chantref Naphtali, yn gorwedd àr yr Iorddonen, gèr y môr, Galilëa y cenedloedd; y bobl à arosent mewn tywyllwch, á welsant oleuni mawr, ac àr y rhai à breswylient fro cysgodion angeu, y cyfododd goleuni.” O’r pryd hwnw y dechreuodd Iesu gyhoeddi, gàn ddywedyd, Diwygiwch, canys y mae Teyrnasiad y nefoedd yn agosâu.
18-22Yna wrth rodio gèr môr Galilëa, efe á welai ddau o frodyr, Simon à elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, yn taflu tỳnrwyd i’r môr, canys pysgodwyr oeddynt. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Deuwch gyda mi, a mi á ’ch gwnaf yn bysgodwyr dynion. Yn ddiannod hwy á adawsant y rhwydau, ac á’i canlynasant ef. Wrth fyned rhagddo, efe á welai ddau o frodyr ereill, Iägo mab Zebedëus, ac Iöan ei frawd, yn y llong gyda Zebedëus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau, ac efe á’u galwodd hwynt. Hwythau yn ebrwydd, gàn adael y llong a’u tad, á’i canlynasant ef.
23-25Yna yr aeth Iesu dros holl Alilëa, gàn ddysgu yn eu #4:23 Synagogau; llëoedd i ymgynnull.cynnullfëydd, a chyhoeddi Newydd da y Teyrnasiad, ac iachâu pob math o glefyd ac anhwylder yn mhlith y bobl. A’r sôn am dano á ymdaenodd dros holl Syria, a hwy á ddygasant ato eu holl gleifion, à ddèlid ac á flinid gàn amrai anhwylderau, yn gythreuligion, a lloerigion, a rhai parlysig, ac efe á’u hiachâodd hwynt. A thyrfëydd mawrion á’i dylynasant ef o Alilëa, Decapolis, Caersalem, Iuwdëa, ac o lànau yr Iorddonen.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Matthew Lefi 4: CJW
เน้นข้อความ
แบ่งปัน
คัดลอก
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.