Salm 70
70
Gweddi am help
(Salm 40:13-17)
I’r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. I’th atgoffa.
1O Dduw, achub fi!
O ARGLWYDD, brysia i’m helpu!
2Gwna i’r rhai sydd am fy lladd i
deimlo embaras a chywilydd.
Gwna i’r rhai sydd am wneud niwed i mi
droi yn ôl mewn cywilydd.
3Gwna i’r rhai sy’n chwerthin ar fy mhen
droi yn ôl mewn cywilydd.
4Ond gwna i bawb sy’n dy geisio di ddathlu’n llawen!
Gwna i’r rhai sy’n mwynhau dy weld ti’n achub ddweud,
“Mae Duw mor fawr!”
5Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn;
O Dduw, brysia ata i!
Ti ydy’r un sy’n gallu fy helpu a’m hachub.
O ARGLWYDD, paid oedi!
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Salm 70: bnet
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
© Cymdeithas y Beibl 2023