Genesis 5

5
1Dyma lyfr cenedlaethau dynion: yn y dydd y gwnaeth Duw Adda, ar lun Duw y gwnaeth Efe ef: 2yn wryw ac yn fanyw y gwnaeth Efe hwynt, ac a’u bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y gwnaeth Efe hwynt.
3Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a deugant, ac a genedlodd fab ar ei lun a’i ddelw ei hun; ac a alwodd ei enw ef Seth. 4A dyddiau Adda, y rhai y bu efe fyw wedi iddo genedlu Seth, oeddynt saith can mlynedd; ac efe a genedlodd feibion a merched. 5A holl ddyddiau Adda, y rhai y bu efe fyw, oeddynt ddeng mlynedd ar hugain a naw cant; ac efe a fu farw.
6A Seth a fu fyw bum mlynedd a deucant, ac a genedlodd Enos. 7A Seth a fu fyw, wedi iddo genedlu Enos, saith mlynedd a saith cant, ac a genedlodd feibion a merched. 8Felly holl ddyddiau Seth oeddynt ddeuddeng mlynedd a naw cant; ac efe a fu farw.
9Ac Enos a fu fyw ddeng mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genedlodd Cainan. 10Ac Enos a fu fyw, wedi iddo genedlu Cainan, bymtheng mlynedd a saith cant, ac a genedlodd feibion a merched. 11Felly holl ddyddiau Enos oeddynt bum mlynedd a naw cant; ac efe a fu farw.
12Cainan hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain a chant, ac a genedlodd Maleleel. 13A bu Cainan fyw, wedi iddo genedlu Maleleel, ddeugain mlynedd a saith cant, ac a genedlodd feibion a merched. 14Felly holl ddyddiau Cainan oeddynt ddeng mlynedd a naw cant; ac efe a fu farw.
15A Maleleel a fu fyw bum mlynedd a thrigain a chant, ac a genedlodd Iared. 16A Maleleel a fu fyw, wedi iddo genedlu Iared, ddeng mlynedd ar hugain a saith cant, ac a genedlodd feibion a merched. 17Felly holl ddyddiau Maleleel oeddynt bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth cant; ac efe a fu farw.
18A Iared a fu fyw ddwy flynedd a thrigain a chant, ac a genedlodd Enoch. 19A Iared a fu fyw, wedi iddo genedlu Enoch, wyth can mlynedd, ac a genedlodd feibion a merched. 20Felly holl dyddiau Iared oeddynt ddwy flynedd a thrigain a naw cant; ac efe a fu farw.
21Enoch hefyd a fu fyw bum mlynedd a thrigain a chant, ac a genedlodd Mathusala. 22Ac Enoch a ryngodd fodd Duw, wedi iddo genedlu Mathusala, ddau can mlynedd, ac a genedlodd feibion a merched. 23Felly holl ddyddiau Enoch oeddynt bum mlynedd a thrigain a thri chant. 24Ac Enoch a ryngodd fodd Duw; ac ni chaed ef, canys Duw a’i symmudodd ef.
25Mathusala hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genedlodd Lamech. 26A Mathusala a fu fyw, wedi iddo genedlu Lamech, ddwy flynedd a phedwar ugain a saith cant, ac a genedlodd feibion a merched. 27Felly holl ddyddiau Mathusala, y rhai y bu efe fyw, oeddynt naw mlynedd a thrigain a naw cant; ac efe a fu farw.
28A Lamech a fu fyw wyth mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genedlodd fab; 29ac a alwodd ei enw ef Nöe, gan ddywedyd, “Hwn a rydd i ni esmwythder oddi wrth ein gwaith, a llafur ein dwylaw, ac oddi wrth y ddaiar, yr hon a felltigodd yr Arglwydd Dduw”. 30A Lamech a fu fyw, wedi iddo genedlu Nöe, bum mlynedd a thrigain a phum cant, ac a genedlodd feibion a merched. 31Felly holl ddyddiau Lamech oeddynt dair blynedd ar ddeg a deugain a saith cant; ac efe a fu farw.
32A Nöe ydoedd bum can mlwydd; ac efe a genedlodd dri mab, Sem, Cham, a Iapheth.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Genesis 5: YSEPT

เน้นข้อความ

แบ่งปัน

คัดลอก

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้