Luc 14
14
A.D. 33. —
2 Crist yn iacháu y dropsi ar y Saboth: 7 yn dysgu gostyngeiddrwydd; 12 a gwneuthur ciniawau i’r tlodion: 16 wrth ddameg y swper mawr, yn dangos pa fodd y cauir dynion â meddyliau bydol, y rhai a ddiystyrant air Duw, allan o’r nef. 25 Rhaid i’r rhai a fynnai fod yn ddisgyblion iddo, ddwyn eu croes, a gwneuthur eu cyfrifon ymlaen llaw; rhag iddynt trwy gywilydd syrthio oddi wrtho ar ôl hynny, 34 a myned yn gwbl ddi‐les, fel halen wedi colli ei flas.
1Bu hefyd, pan ddaeth efe i dŷ un o benaethiaid y Phariseaid ar y Saboth, i fwyta bara, iddynt hwythau ei wylied ef. 2Ac wele, yr oedd ger ei fron ef ryw ddyn yn glaf o’r #14:2 dyfrglwyf.dropsi. 3A’r Iesu gan ateb a lefarodd wrth y cyfreithwyr a’r Phariseaid, gan ddywedyd, #Mat 12:10Ai rhydd iacháu ar y Saboth? 4A thewi a wnaethant. Ac efe a’i cymerodd ato, ac a’i hiachaodd ef, ac a’i gollyngodd ymaith; 5Ac a atebodd iddynt hwythau, ac a ddywedodd, #Exod 23:5; Deut 22:4; Pen 13:15Asyn neu ych pa un ohonoch a syrth i bwll, ac yn ebrwydd nis tyn ef allan ar y dydd Saboth? 6Ac ni allent roi ateb yn ei erbyn ef am y pethau hyn.
7Ac efe a ddywedodd wrth y gwahoddedigion ddameg, pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd uchaf; gan ddywedyd wrthynt, 8Pan y’th wahodder gan neb i neithior, nac eistedd yn y lle uchaf, rhag bod un anrhydeddusach na thi wedi ei wahodd ganddo; 9Ac i hwn a’th wahoddodd di ac yntau ddyfod, a dywedyd wrthyt, Dyro le i hwn; ac yna dechrau ohonot ti trwy gywilydd gymryd y lle isaf. 10#Diar 25:6, 7Eithr pan y’th wahodder, dos ac eistedd yn y lle isaf; fel pan ddelo’r hwn a’th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthyt, Y cyfaill, eistedd yn uwch i fyny: yna y bydd i ti glod yng ngŵydd y rhai a eisteddant gyda thi ar y bwrdd. 11#Job 22:29; Diar 29:23; Mat 23:12; Pen 18:14; Iago 4:6; 1 Pedr 5:5Canys pob un a’r a’i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a’r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.
12Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a’i gwahoddasai ef, Pan wnelych ginio neu swper, na alw dy gyfeillion, na’th frodyr, na’th geraint, na’th gymdogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti. 13Eithr #Neh 8:10, 12pan wnelych wledd, galw’r tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion: 14A dedwydd fyddi; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: canys fe a delir i ti yn atgyfodiad y rhai cyfiawn.
15A phan glywodd rhyw un o’r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, #Dat 19:9Gwyn ei fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw. 16Ac yntau a ddywedodd wrtho, #Mat 22:2Rhyw ŵr a wnaeth swper mawr, ac a wahoddodd lawer: 17Ac #Diar 9:2, 5a ddanfonodd ei was bryd swper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch; canys weithian y mae pob peth yn barod. 18A hwy oll a ddechreuasant yn unfryd ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais dyddyn, ac y mae’n rhaid i mi fyned a’i weled: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol. 19Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bum iau o ychen, ac yr ydwyf yn myned i’w profi hwynt: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol. 20Ac arall a ddywedodd, Mi a briodais wraig; ac am hynny nis gallaf fi ddyfod. 21A’r gwas hwnnw, pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i’w arglwydd. Yna gŵr y tŷ, wedi digio, a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a’r anafus, a’r cloffion, a’r deillion. 22A’r gwas a ddywedodd, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchmynnaist; ac eto y mae lle. 23A’r arglwydd a ddywedodd wrth y gwas, Dos allan i’r priffyrdd a’r caeau, a chymell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ. 24Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr un o’r gwŷr hynny a wahoddwyd, brofi o’m swper i.
25A llawer o bobl a gydgerddodd ag ef: ac efe a droes, ac a ddywedodd wrthynt, 26#Deut 13:6; 33:9; Mat 10:37Os daw neb ataf fi, ac ni chasao ei dad, a’i fam, a’i wraig, a’i blant, a’i frodyr, a’i chwiorydd, ie, a’i einioes ei hun hefyd, ni all efe fod yn ddisgybl i mi. 27A #Mat 16:24; Marc 8:34; Pen 9:23phwy bynnag ni ddyco ei groes, a dyfod ar fy ôl i, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.
28Canys #Diar 24:27pwy ohonoch chwi â’i fryd ar adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf, a bwrw’r draul, a oes ganddo a’i gorffenno? 29Rhag wedi iddo osod y sail, ac heb allu ei orffen, ddechrau o bawb a’i gwelant ei watwar ef, 30Gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allodd ei orffen. 31Neu pa frenin yn myned i ryfel yn erbyn brenin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all efe â deng mil gyfarfod â’r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef ag ugain mil? 32Ac os amgen, tra fyddo efe ymhell oddi wrtho, efe a enfyn genadwri, ac a ddeisyf amodau heddwch. 33Felly hefyd, pob un ohonoch chwithau nid ymwrthodo â chymaint oll ag a feddo, ni all fod yn ddisgybl i mi.
34 #
Mat 5:13; Marc 9:50 Da yw’r halen: eithr o bydd yr halen yn ddiflas, â pha beth yr helltir ef? 35Nid yw efe gymwys nac i’r tir, nac i’r domen; ond ei fwrw ef allan y maent. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Luc 14: BWM1955C
เน้นข้อความ
แบ่งปัน
คัดลอก
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society