Ioan 5
5
Crist yn iachâu ar y Sabbath yr hwn fu glaf ddeunaw mlynedd‐ar-hugain.
1Wedi y pethau hyn yr oedd Gŵyl#5:1 Gwyl A B D La. Tr. Al. WH. Diw.: yr Wyl א C L Δ Ti. Os gadewir allan y fannod, y mae yn amlwg mai nid y Pasc a olygir. Yn mhob enghraifft arall, pan y dygwyddai Gŵyl y Pasc, gwna Ioan ei henwi. Ac y mae hanes am dri Pasc yn ei Efengyl. Tebygol mai Gŵyl y Purim neu y Coel‐brenau oedd hon. Gweler hanes ei sefydliad, Esther 3:7; 9:24, 26, 28. yr Iuddewon; a'r Iesu a aeth i fyny i Jerusalem. 2Ac y mae yn Jerusalem, wrth Borth y Defaid#5:2 Groeg probatikê, perthynol i ddefaid (ansoddair): felly rhaid cyflenwi gair, a diameu mai Porth yw y gair priodol, ac nid Marchnad. Yr oedd y Porth hwn yn agos i'r Deml, o du y Dwyrain, Neh 3:1, 32; 12:39., lyn#5:2 Kolumbêthra (o kolumbaô, nofio, tàn‐nofio: S. dive: Act 27:43) cronfa o ddwfr, pwll, llyn. Yma yn unig a 9:7. a gyfenwir#5:2 gyfenwir (yr hyn a ddengys fod iddi enw arall, efallai, Llyn y Defaid) Prif‐lawysgrifau ond א D; a elwir א D Ti. yn yr Hebraeg#5:2 Sef y dafodiaith Aramaeg. Defnyddir Hebraisti yn unig gan Ioan., Bethesda#5:2 Sef Ty Trugaredd. Bethzatha, Ty Olew‐wydd.#5:2 Bethesda A C Δ Tr. Diw.: Bethsaida B; Bethzatha א L Ti. WH., ag iddo bum cyntedd#5:2 Stoa, rhodfa golofnog, cyntedd diddos, porth colofnog, lle y dyogelid y cleifion.: 3,4yn y rhai y gorweddai lluaws#5:3 lawer neu mawr [polu] A. Gad. א B C D L Brnd. o rai cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion.#5:3 “Yn dysgwyl am gynhyrfiad y dwfr. Canys angel oedd ar amserau yn disgyn i'r llyn, ac yn cynhyrfu y dwfr, yna yr hwn a elai i mewn yn gyntaf ar ol cynhyrfu y dwfr, a ai yn iach o ba glefyd bynag a fyddai arno.” Nid yr un awdurdodau sydd dros ran olaf o adn 3 ag sydd dros adn 4, ac y mae yn amlwg na chafodd y ddwy eu hychwanegu ar yr un pryd. D yw y brif lawysgrif a gynnwysa y blaenaf, a L yr olaf. Chrysostom yw y cyntaf o'r Tadau Groegaidd i wneyd sylw o honynt. Y mae א B C yn eu gadael allan. Y mae A L yn gadael allan y rhan uchod o adn 3, a D. yr oll o adn 4. Y mae tair o lawysgrifau prif‐lythyrenol, a thua phymtheg o rai rhedegog, yn nodi adn 4 fel un amheus Yn ffafr yr adnodau uchod y mae E F G, yr Hen Gyfieithiad Lladinaidd, a'r Vulgate, y Syriaeg a'r Memphitaeg, Tertullian, Chrysostom, Didymus, Emrys, Theophylact, ac Euthemius. Wrth gymmeryd i ystyriaeth y dystiolaeth allanol a thufewnol, y mae yn eglur ei bod yn rhaid eu gadael allan. Ystyriai yr adysgrifenwyr fod eisieu ychydig o esboniad a chaboliad ar yr hanes er ei wneyd yn eglur, ac er mwyn taflu ychydig o oleuni ar adn 7fed. I un oedd bresenol ac yn ymwybyddus o'r oll, ni fyddai y geiriau hyn ond ychwanegiad diangenrhaid. I hanes cyflawn a pherffaith, byddai rhyw ychwanegiad o'r fath yn angenrheidiol; ond nid hanesion o'r fath yw yr Efengylau, ond rhyw ddarnau prydferth o ddarluniau byw. Y mae yn amlwg mai y rhan olaf o adn 3 a ddygwyd i mewn i'r testyn gyntaf, ac mai yn mhen amser ar ol hyn yr ychwanegwyd adn 4, fel esboniad ar ‘gynhyrfiad y dwfr.’ Ni ysgrifenwyd y ddwy gan yr un, fel y mae y geiriau gwahanol am ‘gynhyrfu’ yn dangos. Gellir nodi yn y fan hon yr hyn ellir ystyried fel un o reolau beirniadaeth, sef, os bydd y llawysgrifau, cyfieithiadau, &c., yn amrywio yn fawr yn ngeiriad a threfn adnodau, i fod hyny yn ein cyfiawnhâu i goleddu y dybiaeth fod yr adnodau hyny yn ffugiol. Yn yr adnodau uchod, y mae y ddamcaniaeth a gyfoda oddiwrth amrywiaeth mater ac arddull y llawysgrifau yn dyfod yn brawf diymwad trwy gymhorth ystyriaethau ereill. 5Ac yr oedd rhyw ddyn yno a fuasai yn#5:5 yn ei afiechyd א B C D L Brnd.; mewn afiechyd A. ei afiechyd dri‐deg ac wyth o flynyddau. 6Yr Iesu, pan welodd hwn yn gorwedd, ac yn gwybod#5:6 Neu, wedi cael arddeall. Dynoda ginôskô y wybodaeth a enillir. ei fod ef felly weithian amser maith, a ddywed wrtho, A fyni di ddyfod yn iach? 7Y claf a atebodd iddo, Syr#5:7 Llyth.: Arglwydd., nid oes genyf ddyn, pan gynhyrfer y dwfr, i'm bwrw i'r llyn: ond tra yr wyf fi yn dyfod, arall a ddisgyn o'm blaen i. 8Yr Iesu a ddywed wrtho, Cyfod, cymmer i fyny dy wely#5:8 glwth, (S. pallet)., a rhodia#5:8 Llyth.: rhodia o amgylch.. 9Ac yn ebrwydd y dyn a ddaeth yn iach, ac a gyfododd i fyny ei wely, ac a rodiodd. Yn awr, yr oedd y Sabbath ar y dydd hwnw.
Achwyniad yr Iuddewon.
10Am hyny dywedodd yr Iuddewon wrth yr hwn oedd wedi ei wellhâu, Y Sabbath ydyw: ac nid cyfreithlawn i ti gyfodi i fyny y gwely. 11Efe a atebodd iddynt, Yr hwn a'm gwnaeth i yn iach, efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod dy wely, a rhodia. 12Am hyny hwy a ofynasant iddo, Pwy yw y dyn a ddywedodd wrthyt ti, Cyfod i fyny dy wely#5:12 dy wely A D Δ La. [Tr.] Ti.; gad. א B C L Al. WH., a rhodia? 13A'r hwn a iachasid ni wyddai pwy ydyw efe: oblegyd yr Iesu a ymneillduodd#5:13 ekneuo Llyth.: troi pen naill ochr, yna, osgoi ergyd, myned allan o'r ffordd, (myned yn mlaen heb gael ei ganfod, Alford). Rhai a ddeilliant y gair o ekneô, nofio allan, sef i Grist fyned allan o'r dyrfa yn ddyogel, fel y nofia un allan o blith y tonau cynddeiriog. Y mae y meddylddrych yn naturiol i bysgotwr, ond ni chredwn fod sylfaen iddo yma., gan fod tyrfa yn y lle. 14Ar ol y pethau hyn y mae yr Iesu yn ei gael ef yn y Deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, yr ydwyt wedi dyfod yn iach: na phecha mwyach, fel na ddygwyddo i ti beth a fyddo gwaeth. 15Y dyn a aeth ymaith, ac a fynegodd#5:15 fynegodd A B Tr. Al. ddywedodd א C L Ti. WH. i'r Iuddewon mai yr Iesu yw yr hwn a'i gwnaethai ef yn iach.
Cyhuddiad yr Iuddewon, ac ateb Crist.
16Ac o herwydd hyn yr oedd yr Iuddewon yn erlid#5:16 Y ddwy ferf yn yr amser anmherffaith: yr Iuddewon a barhasant i erlid gan fod Crist yn arfer iachâu ar y Sabbath. yr Iesu,#5:16 ac a geisiasant ei ladd ef A Δ La.; gad. א B C D Brnd. ond La., oblegyd ei fod yn gwneuthur#5:16 Y ddwy ferf yn yr amser anmherffaith: yr Iuddewon a barhasant i erlid gan fod Crist yn arfer iachâu ar y Sabbath. y pethau hyn ar y Sabbath. 17Ond yr Iesu a'u hatebodd hwynt, Y mae fy Nhâd yn gweithio hyd yn awr, ac yr ydwyf finau yn gweithio. 18O herwydd hyn yr oedd yr Iuddewon yn ceisio yn fwy ei ladd ef, canys nid yn unig yr oedd efe yn dirymu#5:18 luô, gollwng, datod, dyddimu, tori i fyny. Yn ngolwg yr Iuddewon, yr oedd ymddygiad Crist, nid yn unig yn tori ar gadwraeth y Sabbath, ond hefyd yn tueddu i ddirymu yn hollol y ddyledswydd o'i gadw. y Sabbath, ond hefyd dywedodd mai ei Dâd ei hun oedd Duw, gan ei wneuthur ei hun yn gyd‐radd â Duw. 19Yr Iesu gan hyny a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ni ddichon y Mab wneuthur dim o hono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tâd yn ei wneuthur: canys pa beth bynag y mae efe yn ei wneuthur, y pethau hyn hefyd y mae y Mab yr un modd yn eu gwneuthur. 20Canys y Tâd sydd yn caru#5:20 Phileô, hoffi, caru, fel y gwna un ei gyfaill [philos]. Dynoda y ferf, serch personol seiliedig ar berthynas neillduol. Y mae agapaô yn golygu cariad seiliedig ar reswm, ar adnabyddiaeth o wrthrych. Cariad Duw at ddyn, neu dyn at Dduw, a ddynodir gan y ferf hon. Rhaid adnabod Duw cyn ei garu. Yn phileô y mae elfenau teimladol, yn agapaô y mae elfenau meddyliol yn fwyaf amlwg. Y mae perthynas yn eglur yn y blaenaf, dewisiad [Lladin, diligere, dewis allan, caru] yn yr ail. Gweler ar Ofyniad Crist i Petr 21:15–17. y Mab, ac yn dangos iddo yr holl bethau y mae efe yn eu gwneuthur: a gweithredoedd mwy na'r rhai hyn a ddengys efe iddo, fel y rhyfeddoch chwi.
Hawliau a gwaith y Mab.
21Oblegyd megys y mae y Tâd yn cyfodi y meirw, ac yn eu bywhâu#5:21 Llyth.; gwneuthur yn fyw., felly hefyd y mae y Mab yn bywhâu y rhai a fyno. 22Canys nid yw hyd y nod y Tâd yn barnu neb; ond y mae efe wedi rhoddi y Farn gyfan i'r Mab: 23fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu y Tâd. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu y Mab, nid yw yn anrhydeddu y Tâd, yr hwn a'i hanfonodd ef. 24Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn gwrando fy ngair, ac yn credu i'r hwn a'm hanfonodd i, sydd ganddo fywyd tragywyddol, ac nid yw yn dyfod i Farn, eithr y mae efe wedi myned trosodd allan o farwolaeth i fywyd. 25Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae yr awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo y Meirw lais Mab Duw, a'r rhai a glywant a fyddant byw. 26Canys megys y mae gan y Tâd fywyd ynddo ei hun, felly hefyd i'r Mab y rhoddodd efe i gael bywyd ynddo ei hun: 27ac efe a roddodd iddo awdurdod i wneuthur barn#5:27 hefyd D.; gad א A B L Brnd., oblegyd ei fod yn Fab dyn#5:27 Pwysleisir ei hawl i wneuthur barn, nid am ei fod y Messia, Mab y Dyn, cynnrychiolydd Dynolryw, ond am ei fod yn meddianu y natur ddynol. Y mae dyn i gael ei farnu gan Ddyn. Y mae y fannod yn absenol yma, pan y defnyddir hi gyd â y ddau enw yn (y) Mab y Dyn. (Gweler Dad 1:13; 14:14).#Dan 7:13. 28Na ryfeddwch at hyn: canys y mae yr awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb sydd yn eu beddau glywed ei lais ef, 29ac a ddeuant allan: y rhai a wnaethant bethau da i Adgyfodiad bywyd, ond y rhai a ymarferasant bethau isel‐wael#5:29 Gweler 3:20. i Adgyfodiad barn. 30Ni allaf fi wneuthur dim o honof fy hun: fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu: a'm barn i sydd gyfiawn, canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys yr hwn a'm danfonodd i#5:30 y Tâd E.; gad א A B D L Brnd..
Tystiolaeth Crist.
31Os ydwyf fi yn tystiolaethu am danaf fy hun, nid yw fy nhystiolaeth i yn wir#5:31 Yn ol cyfraith tystiolaeth.. 32Arall#5:32 Nid y Bedyddiwr, ond y Tâd, 7:28; 8:26. ydyw yr hwn sydd yn tystiolaethu am danaf fi, ac mi wn mai gwir yw y dystiolaeth y mae yn ei thystiolaethu am danaf fi.
Tystiolaeth Ioan Fedyddiwr.
33Chwychwi ydych wedi anfon at Ioan, ac y mae efe wedi tystiolaethu i'r gwirionedd: 34ond myfi nid ydwyf yn derbyn y dystiolaeth oddiwrth ddyn#5:34 Neu, y dystiolaeth yr wyf fi yn ei derbyn, nid yw oddiwrth ddyn.: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y'ch achuber. 35Efe oedd y llusern sydd yn llosgi ac yn goleuo, a chwithau a fynasech am dymhor byr#5:35 Llyth.: am awr. orfoleddu#5:35 llawenychu yn orfoleddus, ymhyfrydu. “At‐dynwyd hwy gan ei ddysglaerdeb ond nid gan ei wres,” Bengel. yn ei oleuni ef.
Tystiolaeth y Tâd.
36Ond y mae genyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan: canys y gweithredoedd y mae y Tâd wedi eu rhoddi i mi, fel eu gorphenwyf, y gweithredoedd hyny yr wyf yn eu gwneuthur sydd yn tystiolaethu am danaf fi, mai y Tâd sydd wedi fy anfon i. 37A'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd i, efe sydd wedi tystiolaethu am danaf fi. Nid ydych erioed naill nac wedi clywed ei lais ef, nac wedi gweled ei wedd#5:37 eidos [yr hwn sydd yn taro y llygad] ymddangosiad allanol, ffurf, dull, gwedd. ef. 38A'i air ef nid yw genych yn aros ynoch: canys yr hwn a anfonodd efe, hwnw nid ydych chwi yn ei gredu. 39Yr ydych yn chwilio#5:39 Y mae y ferf o'r un ffurf yn y modd gorchymynol ag yn y modd dangosol. Yr oedd yr Iuddewon yn chwilio yr Ysgrythyrau, ond collent yr yspryd yn y llythyren. Nid oedd Crist yn eu beio am nad oeddynt yn chwilio, ond am eu bod yn gwneuthur hyn i gyn lleied o ddyben. yr Ysgrythyrau: canys yr ydych yn tybied cael ynddynt hwy fywyd tragywyddol; a hwynthwy yw y rhai sydd yn tystiolaethu am danaf fi: 40ac ni fynwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd. 41Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion. 42Yr ydwyf wedi eich adnabod#5:42 Neu, wedi dyfod i'ch adnabod [egnôka]. chwi, nad oes genych gariad Duw ynoch. 43Yr ydwyf wedi dyfod yn enw fy Nhâd, ac nid ydych yn fy nerbyn i; os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnw a dderbyniwch. 44Pa fodd y gallwch chwi gredu, gan dderbyn gogoniant oddi wrth eich gilydd, ac heb geisio y gogoniant sydd oddi wrth yr Unig Dduw#5:44 Dduw’ gad B. [La] [yr unig un].? 45Na thybiwch y cyhuddaf#5:45 katêgoreuô, cyhuddo yn gyhoeddus, o flaen llys barn; diaballô, cyhuddo yn faleis‐ddrwg, yn ddirgelaidd, felly Diabolos, Cyhuddwr, Diafol. chwi wrth y Tâd: y mae un a'ch cyhudda chwi, Moses, yn yr hwn yr ydych wedi gobeithio#5:45 Neu. ar yr hwn yr ydych wedi gosod eich gobaith.. 46Canys pe credasech i Moses, chwi a gredasech i minau; canys am danaf fi yr ysgrifenodd efe. 47Ond os chwi ni chredwch ei Ysgrifeniadau#5:47 grammata, ei Ysgrifeniadau, yn enwedig yn y llythyren o honynt, yr hon a barchai yr Iuddewon, ac â'r hon y cysylltent gysegredigrwydd ofergoelus Felly, y mae yma gyferbyniaeth, nid yn unig rhwng Moses a Christ, ond rhwng Ysgrifeniadau Moses, fel eu deonglid gan yr Iuddewon, a geiriau byw ac ysprydol Crist. ef, pa fodd y credwch fy ngeiriau i?
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Ioan 5: CTE
เน้นข้อความ
แบ่งปัน
คัดลอก
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.