Matthew 9
9
Iachâu y parlysig a maddeu pechod.
[Marc 2:1–12; Luc 5:12–26]
1Ac efe a aeth i fewn i gwch, ac a aeth drosodd, ac a ddaeth i'w Ddinas ei hun#9:1 Dylai yr adnod hon gael ei chyssylltu â'r bennod flaenorol.. 2Ac wele, hwy a ddygasant ato un parlysig, yn gorwedd#9:2 Llyth., wedi ei daflu. ar wely; a'r Iesu yn gweled eu ffydd hwy a ddywedodd wrth y parlysig, Ymwrola#9:2 Neu, Cymmer gysur., fab, maddeuir#9:2 Y mae dy bechodau yn cael eu maddeu [aphientai, pres.] א B La. Ti. Tr. WH. Diw.: Y mae dy bechodau wedi eu maddeu [apheontai, perff.] C Al. dy bechodau. 3Ac wele, rhai o'r Ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu. 4A'r Iesu yn canfod#9:4 Yn gweled (canfod, idon). א C D Δ Al. Ti.; yn gwybod (eidos), B. La. Tr. WH. Diw. eu meddyliau, a ddywedodd, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonau? 5Canys pa un hawddach ai dywedyd, Maddeuir#9:5 Y mae dy bechodau yn cael eu maddeu [aphientai, pres.] א B La. Ti. Tr. WH. Diw.: Y mae dy bechodau wedi eu maddeu [apheontai, perff.] C Al. dy bechodau, ai dywedyd, Cyfod a rhodia? 6Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddeu pechodau (yna y dywed efe wrth y parlysig), Cyfod, cymmer i fyny dy wely, a dos i'th dŷ. 7Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith i'w dŷ ei hun. 8A'r torfeydd pan welsant a ofnasant#9:8 Ofnasant, א B D. Brnd.: A ryfeddasant, C L., a gogoneddasant Dduw, yr hwn a roddasai y fath awdurdod i ddynion.
Galwad Mathew a'r wledd yn ei dy.
[Marc 2:13–17; Luc 5:27–32]
9Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned heibio oddiyno, efe a ganfu ddyn yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Matthew, ac a ddywed wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd ac a'i canlynodd ef. 10A bu, ac efe yn eistedd#9:10 Lledorwedd; Saesneg, recline. i fwyta yn y tŷ, wele, Treth‐gasglwyr lawer a phechaduriaid a ddaethant, ac a eisteddasant#9:10 Lledorwedd; Saesneg, recline. gyda'r Iesu a'i Ddysgyblion. 11A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrth ei Ddysgyblion ef, Paham y bwyty eich Athraw chwi gyda'r Treth‐gasglwyr a'r pechaduriaid? 12A phan glybu#9:12 Yr Iesu, Gad. א B D Brnd. [Efe], efe a ddywedodd, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg, ond i'r rhai cleifion. 13Ond ewch a dysgwch pa beth yw hyn,
“Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth”#Hos 6:6
Canys ni ddaethum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid.#9:13 I edifeirwch, Gad. א B D Δ Brnd. [o Luc 6:32.]
Hen arferiad a'r egwyddor newydd.
[Marc 2:18–22; Luc 5:33–39]
14Yna y mae Dysgyblion Ioan yn dyfod ato, gan ddywedyd, Paham yr ydym ni a'r Phariseaid yn ymprydio,#9:14 Llawer, C D. Gad. א B Brnd on Tr. Al. Diw. ond dy Ddysgyblion di nid ydynt yn ymprydio? 15A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all meibion yr ystafell briodas alaru tra byddo y Priodfab gyda hwynt? Ond y dyddiau a ddeuant pan ddygir y Priodfab oddiarnynt, ac yna yr ymprydiant. 16Ac ni ddyd neb lain#9:16 Neu, ddernyn. o frethyn annhriniedig#9:16 Groeg, agnaphos, heb ei banu, heb ei drin, felly newydd. ar hen ddilledyn, canys yr hyn a leinw#9:16 Groeg, plêroma, llawnder, yr hyn a leinw. a dyn oddiwrth y dilledyn, a'r rhwyg a fydd waeth. 17Ac ni ddodant win newydd mewn hen win grwyn#9:17 Y rhai a ddefnyddid fel potelau neu lestri.; os amgen, y crwyn a rwygir, a'r gwin a red allan, a'r crwyn a gollir; eithr gwin newydd a ddodant mewn gwin‐grwyn newyddion, a chedwir y ddau.
Cyfodiad Merch Jairus ac iachâd y gwaedlif.
[Marc 5:20–43; Luc 8:40–56]
18Tra yr oedd efe yn llefaru y pethau hyn wrthynt, wele, daeth#9:18 Daeth un [heis elthon,] neu daeth i fewn [eiselthon.] rhyw Lywodraethwr ac a'i haddolodd ef, ac a ddywedodd, Bu farw fy merch yr awrhon; eithr tyred a gosod dy law arni, a hi a fydd byw. 19A'r Iesu a gyfododd, ac a'i canlynodd ef, a'i Ddysgyblion.
20Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd a ddaeth o'r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd âg ymyl#9:20 Neu, siobyn, twff; Saesneg, tassel, fringe. ei wisg ef: 21canys hi a ddywedasai ynddi ei hun, Os caf yn unig gyffwrdd â'i wisg ef, iach#9:21 Dynoda y ferf hefyd, achub — “achubir fi,” “Y mae dy ffydd wedi dy achub,” &c. fyddaf. 22A'r Iesu a drodd, ac a'i gwelodd hi, ac a ddywedodd, Ferch, ymgalonoga: y mae dy ffydd wedi dy iachau#9:22 Dynoda y ferf hefyd, achub — “achubir fi,” “Y mae dy ffydd wedi dy achub,” &c.; a'r wraig a iachawyd#9:22 Dynoda y ferf hefyd, achub — “achubir fi,” “Y mae dy ffydd wedi dy achub,” &c. o'r awr hono. 23A phan ddaeth yr Iesu i dŷ y Llywodraethwr, a gweled y cerddorion#9:23 Llyth., chwibanogion, canwyr pibellau, flute‐players. a'r dyrfa yn terfysgu, 24efe a ddywedodd, Ciliwch, canys ni fu farw y llances, ond cysgu y mae. A hwy a'i gwatwarasant ef. 25Ond wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i fewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi, a'r llances a gyfododd. 26A'r hanes#9:26 Neu, clod. hwn a aeth dros yr holl wlad hono.
Iachâd dau ddeillion.
27Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned heibio oddiyno, dau ddeillion a'i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Fab Dafydd, trugarha wrthym. 28Ac wedi iddo ddyfod i'r tŷ, y deillion a ddaethant ato; ac y mae yr Iesu yn dywedyd wrthynt, A ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Dywedant hwythau wrtho, Ydym, Arglwydd. 29Yna y cyffyrddodd efe â'u llygaid hwynt, gan ddywedyd, Yn ol eich ffydd bydded i chwi. 30A'u llygaid a agorwyd. A'r Iesu a orchymynodd#9:30 Embrimaomai. [Llyth., ffroeni fel ceffylau,] cyffroi gan lid; yna, gorchymyn trwy rybuddio yn ddifrifol. Y mae yr ystyr olaf yn gyfyngedig i'r Testament Newydd. iddynt yn bendant gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb. 31Ond wedi iddynt ymado, hwy a daenasant ei glod drwy yr holl wlad hono.
Adferu y mudan cythreulig.
32Ac â hwy yn myned allan, wele, hwy a ddygasant ato ddyn mud#9:32 Neu ddyn mud a byddar. Golyga kôphos y ddau., wedi ei feddiannu gan gythraul. 33Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan; a'r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni ymddangosodd y cyffelyb erioed yn Israel. 34Ond y Phariseaid a ddywedasant, Trwy#9:34 Neu Yn enw tywysog. Dywysog#9:34 Neu, llywodraethwr, penaeth. y cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan y cythreuliaid.
Y cynauaf a'r gweithwyr.
[Marc 6:6–11; Luc 9:1–9]
35A'r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a'r pentrefi, gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu Efengyl y Deyrnas, ac iachau pob clefyd a phob afiechyd#9:35 Yn mhlith y bobl C3 L X; gad. אb B C D Brnd..
36Ond pan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd o'u herwydd, am eu bod wedi#9:36 Wedi diffygio [blino, gwanhau, eklelumenoi] L.; wedi eu trallodi [eskulmenoi] א B C D Brnd. eu trallodi#9:36 Llyth., rhwygo, dryllio, briw‐dori; Saesneg, mangle, rend, worry., a'u taflu ar wasgar, fel defaid heb fugail. 37Yna y dywed efe wrth ei Ddysgyblion, Y cynauaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml. 38Am hyny, atolygwch i Arglwydd y cynauaf anfon gweithwyr i'w gynauaf.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Matthew 9: CTE
เน้นข้อความ
แบ่งปัน
คัดลอก
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.