Ioan 3:22-36
Ioan 3:22-36 DAFIS
Wedi hyn dâth Iesu a'i ddisgiblion i wlad Jiwdea; a arhosodd e gida nhwy a bididdio. We Ioan 'fyd in bididdio in Ainon, ar bwys Salim, achos we lot o ddýr man 'ny; a we pobol in dwâd a'n câl u bididdio; achos we Ioan ddim wedi câl i roi in shâl 'to. A dachreuodd rhei o ddisgiblion Ioan a Iddew bledo â'i gily obitu lle golchi in u cred. Dethon nwy at Ioan a gweu 'tho, 'Rabbi, dricha! Mae e, ir un we 'da ti ochor arall i afon Iorddonen, ir un nes di weu 'thon ni amdano fe, in bididdio, a ma pob un in mynd mas ato fe.’ Atebo Ioan, 'Gall neb gâl ddim byd os nadi e wedi'i roi iddon nhwy in i nefodd. Gallwch chi'ch hunen weud amda i, nes i weud, “Ddim fi yw'r Meseia, ond dwi wedi câl in hala o'i flân e. “Ir un sy gida'r fenyw sy'n priodi yw'r dyn sy'n priodi; ond ma ffrind i dyn sy'n priodi, sy'n sefyll a'n grondo arno fe, wrth i fodd i gliwed llaish i dyn sy'n priodi. A nawr, o achos 'na, wi wrth in fodd. Rhaid iddo fe fynd in bwysicach, a rhaid i fi fynd in llai pwysig.’ Mae e sy'n dwâd o lan in fishtir dros bob peth; mae e sy'n dwâd o'r ddeiar in un o'r ddeiar, a mae e'n sharad fel byse fe'n dwâd o'r ddeiar. Mae e sy'n dwâd o'r nefodd in fishtir dros bob peth. Mae e'n gweud am beth mae e wedi'i weld a wedi'i gliwed; ond sneb in credu beth mae e'n i weud. Ma bob un sy wedi credu beth mae e wedi'i weud in gweud fod Duw in wir. Ma'r un ma Duw wedi'i hala yn sharad geire Duw, achos seno Duw in gweud taw dim ond rhei sy'n câl ir Isbryd. Ma unrhiw un sy'n credu in i Crwt in byw am byth; bydd unrhiw un sy ddim in credu in i Crwt ddim in byw am byth, in lle 'ny ma Duw in ddig 'da nhwy.