Genesis 40

40
Dehongli Breuddwydion yn y Carchar
1Wedi'r pethau hyn, troseddodd trulliad a phobydd brenin yr Aifft yn erbyn eu meistr, brenin yr Aifft. 2Ffromodd Pharo wrth ei ddau swyddog, y pen-trulliad a'r pen-pobydd, 3a'u rhoi yn y ddalfa yn nhŷ pennaeth y gwarchodwyr, sef y carchar lle'r oedd Joseff yn gaeth. 4Trefnodd pennaeth y gwarchodwyr i Joseff ofalu amdanynt a gweini arnynt. Wedi iddynt fod yn y ddalfa am ysbaid, 5cafodd trulliad a phobydd brenin yr Aifft, a oedd yn gaeth yn y carchar, freuddwyd yr un noson, pob un ei freuddwyd ei hun, ac i bob breuddwyd ei hystyr ei hun. 6Pan ddaeth Joseff atynt yn y bore, ac edrych arnynt a'u gweld yn ddi-hwyl, 7gofynnodd i swyddogion Pharo a oedd gydag ef yn y ddalfa yn nhŷ ei feistr, “Pam y mae golwg ddigalon arnoch heddiw?” 8Atebasant, “Cawsom freuddwydion, ac nid oes neb i'w dehongli.” Yna dywedodd Joseff wrthynt, “Onid i Dduw y perthyn dehongli? Dywedwch yn awr i mi.”
9Felly adroddodd y pen-trulliad ei freuddwyd i Joseff, a dweud wrtho, “Yn fy mreuddwyd yr oedd gwinwydden o'm blaen, 10ac ar y winwydden dair cangen; yna blagurodd, blodeuodd, ac aeddfedodd ei grawnsypiau yn rawnwin. 11Yn fy llaw yr oedd cwpan Pharo; cymerais y grawnwin, eu gwasgu i gwpan Pharo, a rhoi'r cwpan yn ei law.” 12Dywedodd Joseff wrtho, “Dyma'r dehongliad: y tair cangen, tri diwrnod ydynt; 13ymhen tridiau bydd Pharo'n codi dy ben ac yn dy adfer i'th swydd, a byddi dithau'n rhoi cwpan Pharo yn ei law, yn ôl yr arfer gynt pan oeddit yn drulliad iddo. 14Os bydd iti gofio amdanaf pan fydd yn dda arnat, fe wnei gymwynas â mi trwy grybwyll amdanaf wrth Pharo, a'm cael allan o'r tŷ hwn. 15Oherwydd cefais fy nghipio o wlad yr Hebreaid; ac nid wyf wedi gwneud dim yma chwaith i haeddu fy ngosod mewn cell.”
16Pan welodd y pen-pobydd fod y dehongliad yn un ffafriol, dywedodd wrth Joseff, “Cefais innau hefyd freuddwyd: yr oedd tri chawell o fara gwyn ar fy mhen. 17Yn y cawell uchaf yr oedd pob math o fwyd wedi ei bobi ar gyfer Pharo, ac adar yn ei fwyta o'r cawell ar fy mhen.” 18Atebodd Joseff, “Dyma'r dehongliad: y tri chawell, tri diwrnod ydynt; 19ymhen tridiau bydd Pharo'n codi dy ben—oddi arnat!—ac yn dy grogi ar bren; a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd.”
20Ar y trydydd dydd yr oedd pen-blwydd Pharo, a gwnaeth wledd i'w holl weision, a dod â'r pen-trulliad a'r pen-pobydd i fyny yng ngŵydd ei weision. 21Adferodd y pen-trulliad i'w swydd, a rhoddodd yntau'r cwpan yn llaw Pharo; 22ond crogodd y pen-pobydd, fel yr oedd Joseff wedi dehongli iddynt. 23Eto ni chofiodd y pen-trulliad am Joseff, ond anghofio'n llwyr amdano.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Genesis 40: BCND

เน้นข้อความ

แบ่งปัน

คัดลอก

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้