Y Salmau 9
9
SALM IX
Confitebor tibi.
Diolch am orfoledd, a deisyf ar Dduw ei ymddiffyn rhag llaw.
1Clodforaf fi fy Arglwydd Ion,
o’m calon, ac yn hollawl:
Ei ryfeddodau rhof ar led,
ac mae’n ddyled eu canmawl.
2Byddaf fi lawen yn dy glod,
ac ynod gorfoleddaf:
I’th enw (o Dduw) y canaf glod,
wyd hynod, y Goruchaf.
3Tra y dychwelir draw’n ei hol,
fy holl elynol luoedd,
Llithrant o’th flaen, difethir hwy,
ni ddon hwy mwy iw lleoedd.
4Cans rhoist fy marn yn fatter da,
gwnaethost eisteddfa union:
Eisteddaist ar y gwir, yn siwr,
tydi yw’r barnwr cyfion.
5Ceryddaist, a distrywiaist di
y cenhedlaethi cyndyn:
Diwreiddiaist ynfyd yn y bon,
ni bydd byth son am danyn.
6Distrywiaist dithau (elyn glâs)
do lawer dinas hyfryd:
Darfu dy nerth byth, darfu hyn,
a’r cof o honyn hefyd.
7Ond yr Arglwydd iw nerth a fydd,
ac yn dragywydd pery:
A pharod fydd ei faingc i farn,
a chadarn ydyw hynny.
8Cans efe a farna y byd,
a’r bobl i gyd sydd yntho:
Trwy gyfiownder, heb ofni neb,
a thrwy uniondeb rhagddo.
9Gwna’r Arglwydd hefyd hyn wrth raid,
trueiniaid fo’i hymddiffyn:
Noddfa a fydd i’r rhai’n mewn pryd,
pan fo caledfyd arnyn.
10A phawb a’th edwyn rhon eu cred,
a’i holl ymddiried arnad:
Cans ni adewaist (Arglwydd) neb,
a geisio’i wyneb attad.
11Molwch chwi’r Arglwydd, yr hwn sydd
yn sanctaidd fynydd Seion:
A dwedwch i’r bobl fal yr oedd
ei holl weithredoedd mowrion.
12Pan chwilio efe am waed neu drais,
fe gofia lais y truain:
Pan eisteddo a’r faingc y frawd
fe glyw y tlawd yn germain.
13Dy nawdd Arglwydd, dydi ym’ sydd
dderchafydd o byrth angau,
A gwel fy mlinder gan fy nghâs,
y sydd o’m cwmpas innau.
14Fel y mynegwyf dy holl wyrth,
a hyn ymhyrth merch Seion:
Ac fel y bwyf lawen a ffraeth,
i’th iechydwriaeth dirion.
15Y cenhedloedd cloddiasent ffos
lle’i suddent, agos boddi:
I arall lle cuddiasant rwyd,
eu traed a faglwyd ynthi.
16Yr Arglwydd nef fal hyn yn wir,
adwaenir wrth ei farnau:
A’r annuwiol a wnaethai’r rhwyd,
yn hon y daliwyd yntau.
17Yr annuwiol i uffern aed,
ac yno gwnaed ei wely:
A’r rhai ollyngant Duw dros gof,
bydd yno fyth eu lletty.
18Cans byth y gwirion a’r dyn tlawd
hyd dyddbrawd nis anghofir:
Y gweiniaid a’r trueiniad, hwy,
eu gobaith mwy ni chollir.
19O cyfod Arglwydd yn dy wyn,
na âd i ddyn mo’th orfod:
Barna’r cenhedloedd gar dy fron,
a’th farn yn union gosod.
20Gyrr arnynt Arglwydd ofn dy rym,
yn awchlym i’th elynion.
Fel y gwybyddont, pe baent mwy,
nad ydynt hwy ond dynion.
Поточний вибір:
Y Salmau 9: SC
Позначайте
Поділитись
Копіювати
Хочете, щоб ваші позначення зберігалися на всіх ваших пристроях? Зареєструйтеся або увійдіть
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017