Marc 12:13-17

Marc 12:13-17 DAW

Cafodd rhai o'r Phariseaid a'r Herodianiaid eu hanfon at Iesu i geisio'i ddal â chwestiynau. Dwedon nhw wrtho, “Athro, rydyn ni'n gwybod dy fod ti'n ddiffuant, a dwyt ti ddim yn hidio am farn pobl nac am eu golwg allanol. Rwyt ti'n dysgu ffordd Duw yn gwbl ddidwyll. Ydy hi'n iawn talu treth i Gesar, ai peidio?” Deallodd Iesu eu twyll a dwedodd, “Pam rydych chi'n ceisio fy nal i? Dewch â darn o arian i mi.” Wedi ei gael, gofynnodd iddyn nhw, “Llun ac enw pwy sy arno?” Atebon nhw, “Cesar.” Dwedodd Iesu, “Talwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” Roedden nhw yn rhyfeddu ato.

Прочитати Marc 12