Marc 14:22-26

Marc 14:22-26 DAW

Pan oedden nhw'n bwyta, cymerodd Iesu ddarn o fara, ac wedi'i fendithio fe'i torrodd, a'i roi iddyn nhw, gan ddweud, “Cymerwch, dyma fy nghorff.” Yna cymerodd gwpan o win, ac wedi diolch, fe'i rhoddodd iddyn nhw, ac yfodd pawb o'r cwpan. Dwedodd Iesu, “Dyma fy ngwaed i, hwn ydy gwaed y cyfamod sy'n cael ei dywallt dros lawer. Credwch fi, wna i ddim yfed eto hyd nes y bydda i yn nheyrnas Dduw.” Ar ôl iddyn nhw ganu emyn, aethon nhw allan i Fynydd yr Olewydd.

Прочитати Marc 14