Lyfr y Psalmau 8
8
1O Arglwydd Dduw ein Ior,
Mor brydferth ac mor fawr
Yw d’ Enw sanctaidd Di
Ar wyneb daear lawr!
D’ ogoniant gwych a roist uwch ben
Uchelder eitha’r nefoedd wen.
2Drwy enau bychain blant
Ordeiniaist itti rym,
A thrwy rai ’n sugno ’r fron,
I faeddu ’r gelyn llym;
I lwyr ostegu tafod fflwch
Y gelyn a’r dïalydd trwch.
3Wrth edrych ar y nef
A wnaeth dy fysedd gynt,
Y gannaid loer a’r ser
A drefnaist yn eu hynt
4Beth yw mab dyn i Ti, Dduw nef,
Pan gofit, pan ofwyit ef?
5Fe’i gwnaed ychydig îs
Na chôr angylion nen;
Ond rhoist ogoniant hardd
Yn goron ar ei ben;
6Yn arglwydd ar dy waith fe ’i gwnaed,
Gosodaist bob‐peth dan ei draed:
7Defaid ac ychen oll,
Ac anifeiliaid fil,
8Adeiniog adar nef,
A physg y môr a’u hil,
A phob rhyw beth a luniodd Ior
Ag sy ’n tramwyo llwybrau ’r môr.
9O Arglwydd Dduw ein Ior,
Mor brydferth ac mor fawr
Yw d’ Enw sanctaidd Di
Ar wyneb daear lawr!
D’ ogoniant gwych a roist uwch ben
Uchelder eitha’r nefoedd wen.
Поточний вибір:
Lyfr y Psalmau 8: SC1850
Позначайте
Поділитись
Копіювати
Хочете, щоб ваші позначення зберігалися на всіх ваших пристроях? Зареєструйтеся або увійдіть
Y Psallwyr gan y Parch. Morris Williams (Nicander). Cyhoeddwyd gan H. Hughes, Llundain 1850. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.