Ioan 2
2
Iesu in troi dŵr in win
1-12I trididd dwarnod we priodas in Cana ing Galilea, a we mam Iesu 'na. We Iesu a'i ddisgiblion wedi câl u gofyn i'r briodas. Pan fenodd i gwin gwedodd mam Iesu wrtho fe, 'Sdim gwin 'da nhwy ar ôl.’ Gwedo Iesu, 'Be sy mlân 'da ti, mam, in hanlo'n fusnes i? Seno'n amser i wedi dwâd 'to.’ Gwedodd i fam wrth i gweishon, 'Newch chi'n gowir fel mae e'n gweu 'tho chi?' Nawr we whech stên bridd fan 'ny sy'n câl u hiwso 'da'r Iddewon i ddala dýr i olchi ar gownt u crefydd, a ma bob stên in dala rhiw bwmtheg galwn, os na mwy. Gwedo Iesu wrthon nhwy, 'Llanwch bob stên 'da dýr.’ Llenwon nhwy bob un hyd i fil. Wedyn wedodd e wrthon nhwy, 'Tinwch beth mas o'r stên, a rhoiwch e i fishtir i wledd.’ A nethon nhwy jwst fel wedodd e. Tastodd mishtir i wledd i dýr, we wedi câl i droi in win erbyn 'ny, ond wedd e ddim in gwbod o ble wedd e wedi dwâd, ond we'r gweishon in gwbod in iawn. Galwodd ar i dyn we'n priodi a gweu 'tho, 'Fel arfer ma bob un sy'n trefnu gwledd in dwâd â'r gwin gore mas ginta, a wedyn i gwin gwâl pan ma pob un in feddw; ond wit ti wedi cadw'r gwin gore hys nawr.’ Nâth Iesu hyn in Cana in Galileia fel i cinta o'i seinz e bo Duw i'w weld ar i ddeiar; a fe gredodd i ddisiblion indo fe.
Iesu in clau'r Demel
13-25Wedi hyn, âth e, i fam, i frodyr a'i ddisgiblion lawr i Capernaum, a aros fan 'ny am gwpwl o ddwarnode.
We Gýyl Pasg ir Iddewon in agos, a fe âth Iesu lan i Jeriwsalem. In i demel gwelodd e bobl in gweerthu da, defed a colomenod, a we dinion in newid arian 'na 'fyd. So nâth e whip mas o dwein a'u hala nhwy i gyd mas o'r demel gida'u defed a'u da. Towlodd e newid mân i rhei we'n newid arian ar i llorie, diwel u fordydd nhwy, a gwedodd e wrth i rhei we'n gwerthu colomenod, 'Cewch â'r pethe 'ma o fan 'yn; peidwch troi tÿ in Dad in farcet ôl.’ Cofiodd i ddisgiblion bo'r Isgrithur in gweud, 'Bydd gofalu am di dÿ in drech na ti.’ Gwedo'r Iddewon wrtho fe, 'Beth alli di neud i ddangos i ni bo ti'n neud in iawn fan 'yn?' Atebo Iesu nhwy, 'Tinnwch chi'r demel 'ma lawr, a fe goda i 'ddi 'to miwn tri dwarnod.’ Gwedo'r Iddewon, 'On mae i wedi cwmrid whech mline a deugen i gofi'r demel. Neu di ddim i chodi 'ddi mewn tri dwarnod, neu di?' Ond wedd e'n sharad am i gorff fel temel. Pan gas e i godi o farw, wedyn cofiodd i ddisgiblion beth wedd e wedi'i weud; a credon nhwy'r isgrithur, a'r gair we Iesu wedi'i weud.
Pan wedd e'n Jeriwsalem ar gownt Gýyl i Pasg credodd lot o bobol indo fe pan welon nhwy'r pethe wedd e'n u neud. Ond we Iesu ddim in galler mentro tystio i 'unan iddon nhwy, achos wedd e'n 'nabod pobol in iawn a we ddim ishe i neb weu 'tho fe am bobol, achos wedd e'n gwbod beth wedd indon nhwy.
Поточний вибір:
Ioan 2: DAFIS
Позначайте
Поділитись
Копіювати
Хочете, щоб ваші позначення зберігалися на всіх ваших пристроях? Зареєструйтеся або увійдіть
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies