Mathew 6
6
1-4“Watshwch bo chi ddim in neud show mas o fod in dda o flân dinion erill fel bo nhwy'n galler gweld beth ych chi'n neud; os newch chi, peidwch dishgwyl gwobor wrth ich Tad sy in i nefodd. “Pan wit ti'n rhoi i'r bobol llwm, paid clochdar obitu'r peth. Fel 'na ma'r rhei sy'n showan-off in i neud in i tai cwrdd a'r hewlydd fel bo dinion in 'u canmol nhwy. Man nhwy wedi câl 'u gwobor in barod. Pan wit ti'n rhoi i'r bobol llwm, ddile di law whith ddim gwbod beth ma di law dde in 'i neud, fel bo ti'n rhoi heb i neb arall wbod. Bydd di Dad sy'n gwbod beth sneb arall in 'i wbod in talu iti.
5-8“Pan ych chi'n gweddïo, ddilet ti ddim bod fel i rhagrithwyr, achos man nhwy'n leico sefyll lan a gweddio in i tai cwrdd a mas ar gornel ir hewlydd fel bo dinion in 'u gweld nhwy. Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, man nhwy wedi câl 'u gwobor in barod.
Ond pan wit ti'n gweddïo, cer i'r rŵm pella ar ben di 'unan, ca'r drws, a gweddïa ar di Dad heb in wbod i neb arall; a bydd di Dad sy'n gwbod beth sneb arall in i wbod in rhoi gwobor iti.
“Pan fyddwch chi'n gweddïo peidwch rhaffu geire fel ma'r paganied in neud. Man nhw'n credu bo Duw in mynd i rondo arnyn nhwy achos bo nhw'n iwso lot o eire. Peidwch bod in debyg iddyn nw, achos mach Tad in gwbod beth sy ishe arnoch chi cyn ichi ofyn.
9-13“Fel hyn ddilech chi weddïo:
In Tad in i nefodd,
Helpa ni i barchu di enw di'n iawn,
Dere i fod in frenin arnon ni,
fel bo pob un ar i ddeiar in grondo arnot ti,
in gowir fel man nhw'n neud in i nefodd.
Rho ddigon o fwyd i ni am heddi;
Madde in am neud pethe sy'n rong,
fel yn ni wedi madde ddinion erill;
A paid gadel i ni gâl in testo,
ond cadw'n ni'n saff wrth i drwg.
14-15“Achos os newch chi fadde i ddinon, bydd 'ich Tad nefol in madde i chi 'fyd. Ond os na newch chi fadde i ddinion, neith ich Tad ddim madde 'ich pechode chi whaith.
16-18“Pan fiddwch chi'n mynd heb fita fel part o'ch crefydd, peidwch drych in ddiflas fel i rhai sy'n showan-off, achos man nhwy'n neud pob math o shape 'da'u wmede fel bo pob un in galler gweld bo nhwy'n mynd heb fita. Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, man nhwy wedi câl 'u gwobor in barod. Pan fiddi di'n mynd heb fwyd, criba di wallt a golcha di wmed, fel bo'i ddim in blaen i ddinion erill bo ti'n mynd heb fwyd. Bydd di Dad sy'n gweld beth sneb arall in 'i weld in gwbod, a gei di wobor 'dag e.
19-21“Paid casglu trisor iti di unan ar i ddeiar, lle ma moths a rhwd in galler 'u distrywo, a lle ma lladron in galler torri miwn a dwyn. In lle 'ny casgla di drisor i ti di unan in i nefodd, lle na wes moths na rhwd i gâl i ddistrywo, a lle gall ddim lladron dorri miwn a dwyn pethe. Achos lle ma di drisor di, fan'ny 'fyd ma di galon di.
22-23“Ma di liged di fel ffenest miwn i di gorff di. Os yw di ligad di'n iawn bydd 'da ti'r gole sy ishe arnot ti. Ond os yw di liged di'n wâl bydd popeth in dewill arnot. A os yw'r gole sy indo ti in dewillwch, 'na ti dewillwch mowr yw hwnnw!
24“Sneb in galler gwasneithu dou fishtir! Ti'n un ai'n ffeilu haru un a'n caru'r llall, neu parchu un a'n drych i lawr ar i llall. Allwch chi ddim gwasneithu Duw a Arian.
25-34“So dw i'n gweu 'thoch chi i beido becso obitu pethe, beth ych chi mynd i fita neu hifed, na beth ichi mynd i wishgo. Senoch bowid chi'n fwy na bwyd? Seno'r corff in fwy na dillad? Drichwch ar adar ir awyr! Senyn nhwy'n hou na'n cwên, na'n rhoi dim mewn sguborie; ond wedyn wêth ma'ch Tad nefol in 'u bwydo nhwy. Senoch chi'n werth llawer mwy na adar?
“Pwy onoch chi sy'n galler mistyn 'i fowid wrth fecso? A pam ŷch chi'n becso am ddillad? Meddiliwch am shwt ma lilis gwyllt in tiddu. Senyn nhwy'n gweitho, senyn nhwy'n niddu, ond dw i'n gweu 'thoch chi weno Solomon hyd 'nôd gida'r holl arian we 'dag e wedi'i wishgo in debyg i un o rhein. Os yw Duw in gwishgo'r plans sy'n tiddu in i perci, pethe sy 'ma 'da ni heddi a sy'n câl 'u losgi fory, fel 'na, seno fe'n lot mwy shŵr o'ch gwishgo chi? Pam sy'm mwy o ffydd 'da cgu?
“So peidwch becso, a holi'ch unen, 'Beth ŷn ni'n myn i fita' neu 'Beth ŷn ni myn i hifed?' neu 'Beth ŷn ni myn i wishgo?' I pethe 'ma sy'n poeni'r paganied. Ma'ch Tad nefol in gwbod fod ishe'r pethe 'ma i gyd arnoch chi. Whilwch in i lle cinta am Deyrnas Duw a'i gifionder, a bydd i pethe 'ma in câl i rhoi i chi in egstra.
“Peidwch 'te â becso am fory, achos bydd fory in becso am 'i unan. Ma digon 'da chi fecso amdano heddi.
Поточний вибір:
Mathew 6: DAFIS
Позначайте
Поділитись
Копіювати
Хочете, щоб ваші позначення зберігалися на всіх ваших пристроях? Зареєструйтеся або увійдіть
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies