Mathew 9

9
1-38Âth e miwn i'r cwch a dwâd i’w dre i hunan. Dethon nhwy â rhiwun we wedi parlisu ato fe in gorwe ar welyn, a pan welo Iesi u ffydd nhwy gwedodd e wrth i'r un parlish, “Coda di galon, ‘acha! Ma di bechode wedi cal u madde.” Wedo rhei o'r rhei we'n disgu'r Gifreth rhynt i gily, “Ma'r boi 'ma'n cablu.” We Iesu'n gwbod beth wen nhwy'n meddwl amdano so wedodd e, “Pam ŷch chi'n â'r holl feddile drwg 'ma? Beth sy rwydda: gweud, ‘Ma di bechode di wedi câl u madde’, neu gweud, ‘Cod a cerdda’? Ond dangosa i ichi bo awdurdod 'da Crwt i Dyn ar i ddeiar i fadde pechode.” Wedyn wedodd e wrth i dyn parlish, “Coda, cidja di wely a cer gatre.” Cododd e a mynd gatre. Pan welo'r crowde hyn gethon nhwy u llenwi â rhifeddod a rhoi gogoniant i Dduw we wedi rhoi shwt gomands i ddinion.
Gado Iesu'r lle 'na, a wrth iddo fynd ar i ffordd gwelodd e ddyn o'r enw Mathew in ishte in lle wen nhwy'n casglu trethi, a gwedodd e wrtho, “Dilyna fi.” Cododd Mathew a'i ddilyn e.
We Iesu in ishte wrth i ford in i dŷ, a dâth lot o'r rhei we'n casglu trethu a'r rhei we ddim in barchus miwn a ishte lawr gidag e a'i ddisgiblion. Pan welo'r Ffariseied hyn wedodd e wrth i ddisgiblion, “Pan bo’ch misthir chi in bita 'da'r rhei sy'n casglu trethi a rhei sy ddim in barchus?” Cliwodd e hyn a gweud, “Ddim i rhei sy'n iach sy ishe doctor, ond i rhei sy ddim in dda. Cerwch chi a digu beth ma hyn in goligu, ‘Trugaredd dw i moyn a ddim aberth’. Des i ddim i allw rhei cifion, ond pechaduried.”
Wedyn dâth disgiblion Ioan ato fe a gweud, “Ŷn ni a'r Ffariseied in mynd heb fwyd in amal fel part o'n cred, ond seno di ddisgiblion di in mynd heb fwyd. Gwed pam wrthon ni.” Gwedo Iesu wrtho nhwy, “Gall ffrindie'r dyn sy'n mynd i briodi fwrno cyd â bo fe gida nhwy? Ond daw amser pan fydd i priodfab in câl i gwrmid bant wrthyn nhwy; biddan nhwy in mynd heb fwyd amser 'ny. Sneb in rhoi patshyn newy ar hen bilyn, achos bydd i patshyn in tinnu ar i pilyn a neud i twll in wath. A seno dinion in rhoi gwin newy miwn heb gwren-gwin; os newn nwhy, bydd i cwren-gwin in bosto, bydd i gwin in rhedeg mas a'r crwen in câl u distrywo; ond man nhwy'n rhoi gwin newi mewn cwren-gwin newy, a ma'r ddou in câl u cadw.”
Fel wedd e'n gweud u pethe 'ma, dâth dyn we'n flaenor in i sinagog a towlu i unan ar i llawr o'i flân e a gweud, “Ma'n rhoces i newy farw; ond dere a rhoi di law arni, a bydd hi byw 'to.” Cododd Iesu gida'i ddisgibion a mynd ar i ôl e.
Dâth menyw we wedi bod â hemrêj am ddouddeg mline lan tu ôl iddo a twtsh in i wishg e; achos wedd i wedi gweud wrth i hunan, “Dim ond ifi dwtsh a'i ddillad e, ga'n neud in iawn.” Troio Iesu rownd a'i gweld hi; a gwedodd e, “Cwmra gisur, in rhoces i! Ma di ffydd di wedi neud ti'n well.” A dâth i fenyw in well o'r awr 'ny mlân.
Dâth Iesu at dŷ i blaenor, a wrth weld i rhei'n canu ffliwts a'r crowd in neud shwt stwr, gwedodd e, “Cerwch bant. Seno'r rhoces wedi marw; cysgu ma i.” Neud sbort i ben e nethon nwhy; ond pan we'r crowd wedi câl i hala mas, âth e miwn a cidjo'n i llaw hi, a cododd i rhoces. Âth ir hanes am hyn drw'r wlad 'na i gyd.
Gado Iesu fan 'ny, a fel wedd e'n mynd ar i jant dâth dou ddyn dall ar i ôl e, in gweiddi a gweud, “Ca dreni arnon ni, Crwt Dafydd.” Pan âth e miwn i rhyw dŷ dâth i dinion dall miwn 'fyd, a gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Ŷch chi'n credu galla i neud hyn?” Gwedon nhwy wrtho fe, “Odyn, Mishtir.” Wedyn nâth e gwrdd â'i lliged nhwy a gweud, “Gadwn ni i bethe fod i chi in ôl ich ffydd chi.” Câs u lliged nhwy u hagor. Sharadodd Iesu in sharp 'da nhwy, a gweud, “Newch in shŵr bo neb in gwbod.” Ond ethon bant a gweud ir hanes in i wlad 'na i gyd.
Pan wen nhwy'n mynd dâth rhei â dyn we'n ffilu sharad â cithrel indo fe ato fe. Wedi i'r cithrel gâl i hala mas sharadodd i dyn we'n ffilu sharad. Câs i crowde u sinnu a gweud, “Sdim byd fel hyn wedi câl i weld in Isrel ariôd o'r blân.” Gwedo'r Ffariseied, “Mae e'n iwso'r cithrel mowr i dowlu mas cithreilied.”
Âth Iesu rown i'r trefi a'r pentrefi, in disgu in u sinagoge nhwy, in gweud am i Newyddion Da am i Deyrnas a'n gwella pob un we ddim in iawn 'da pob math o salwch a chlefided.
Pan welodd e'r crowde deimlodd e dreni drotyn nhwy, achos wen nhwy in câl u nichu a heb newb i helpu nhwy, fel defed heb fugel. Wedyn gwedodd e wrth i ddisgiblion, “Ma'r cinheia in fowr, ond sdim lot i weitho arno fe. So gweddïwch ar Ddyn Mowr i cinheia hala gweithwyr mas i'w ginheia.”

Поточний вибір:

Mathew 9: DAFIS

Позначайте

Поділитись

Копіювати

None

Хочете, щоб ваші позначення зберігалися на всіх ваших пристроях? Зареєструйтеся або увійдіть