Biểu tượng Ứng dụng Kinh Thánh
Biểu tượng Tìm kiếm

Deuteronomium 27

27
Cyfraith Duw wedi’i hysgrifennu ar garreg
1Yna dyma Moses, ac arweinwyr Israel gydag e, yn dweud wrth y bobl, “Cadwch y gorchmynion dw i’n eu rhoi i chi heddiw. 2Pan fyddwch chi’n croesi afon Iorddonen i’r wlad mae’r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, rhaid i chi godi cerrig mawr ac yna rhoi plastr drostyn nhw. 3Yna ysgrifennu copi o’r gorchmynion yma arnyn nhw. Wedyn gallwch fynd i mewn i’r wlad – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo, fel gwnaeth yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ddweud wrthoch chi. 4Mae’r cerrig yma i gael eu codi ar Fynydd Ebal, a’u gorchuddio gyda phlastr. 5Yna dylech adeiladu allor yno i’r ARGLWYDD eich Duw – allor o gerrig sydd heb eu naddu gydag offer haearn. 6Defnyddiwch gerrig cyfan i adeiladu’r allor, yna cyflwyno offrymau arni – offrymau i’w llosgi’n llwyr i’r ARGLWYDD eich Duw. 7Hefyd offrymau i gydnabod daioni’r ARGLWYDD, a gallwch wledda a dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw. 8Peidiwch anghofio ysgrifennu copi o’r gorchmynion yma ar y cerrig sy’n cael eu gosod i fyny, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw i’w gweld yn glir.”
9Yna dyma Moses, gyda’r offeiriaid o lwyth Lefi, yn dweud wrth bobl Israel: “Distawrwydd! Gwrandwch arna i, bobl Israel. Heddiw, dych chi wedi’ch gwneud yn bobl i’r ARGLWYDD. 10Rhaid i chi wrando arno, a chadw’r rheolau a’r canllawiau dw i’n eu rhoi i chi.”
Canlyniad bod yn anufudd
11Yr un diwrnod, dyma Moses yn gorchymyn i’r bobl: 12“Ar ôl i chi groesi afon Iorddonen, mae’r llwythau canlynol i sefyll ar Fynydd Gerisim a bendithio’r bobl: Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Joseff a Benjamin. 13Yna, mae’r llwythau eraill i sefyll ar Fynydd Ebal tra mae’r melltithion yn cael eu cyhoeddi: Reuben, Gad, Asher, Sabulon, Dan a Nafftali.
14“Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi’n uchel wrth bobl Israel:
15‘Melltith ar rywun sy’n cael crefftwr i gerfio delw neu i wneud eilun o fetel tawdd, ac yna’n ei osod i fyny i’w addoli (hyd yn oed o’r golwg) – mae peth felly yn hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
16‘Melltith ar rywun sy’n dangos dim parch at ei dad a’i fam.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
17‘Melltith ar bwy bynnag sy’n symud terfyn i ddwyn tir oddi ar rywun arall.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
18‘Melltith ar bwy bynnag sy’n dweud wrth rywun dall am fynd y ffordd rong.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
19‘Melltith ar bwy bynnag sy’n gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
20‘Melltith ar rywun sy’n cael rhyw gyda gwraig ei dad. Byddai hynny’n amharchu ei dad.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
21‘Melltith ar rywun sy’n cael rhyw gydag anifail.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
22‘Melltith ar rywun sy’n cael rhyw gyda’i chwaer – merch i’w dad neu’i fam.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
23‘Melltith ar rywun sy’n cael rhyw gyda’i fam-yng-nghyfraith.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
24‘Melltith ar bwy bynnag sy’n llofruddio rhywun arall.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
25‘Melltith ar bwy bynnag sy’n derbyn tâl i lofruddio rhywun diniwed.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
26‘Melltith ar bawb sydd ddim yn gwneud pob peth mae’r gyfraith yma’n ei ddweud.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

Tô màu

Sao chép

So sánh

Chia sẻ

None

Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập