Salm 3
3
Gweddi yn y bore
Salm gan Dafydd pan oedd yn ffoi oddi wrth ei fab Absalom.#2 Samuel 15:13–17:22
1O ARGLWYDD, mae gen i gymaint o elynion!
Mae cymaint o bobl yn ymosod arna i.
2Mae cymaint ohonyn nhw’n dweud,
“Fydd Duw ddim yn dod i’w achub e!”
Saib
3Ond ARGLWYDD, rwyt ti fel tarian o’m cwmpas.
Ti ydy’r Un dw i’n brolio amdano!
Ti ydy’r Un sy’n rhoi hyder i mi.
4Dim ond i mi weiddi’n uchel ar yr ARGLWYDD,
bydd e’n fy ateb i o’i fynydd cysegredig.
Saib
5Dw i wedi gallu gorwedd i lawr, cysgu a deffro,
am fod yr ARGLWYDD yn gofalu amdana i.
6Does gen i ddim ofn y miloedd o filwyr
sy’n ymosod arna i o bob cyfeiriad.
7Cod, ARGLWYDD!
Achub fi, O fy Nuw.
Rho glatsien iawn i’m gelynion i gyd.
Torra ddannedd y rhai drwg.
8“Yr ARGLWYDD sy’n achub!”
Rwyt ti’n bendithio dy bobl!
Saib
Đang chọn:
Salm 3: bnet
Tô màu
Sao chép
So sánh
Chia sẻ
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
© Cymdeithas y Beibl 2023