Biểu tượng Ứng dụng Kinh Thánh
Biểu tượng Tìm kiếm

Salm 42

42
LLYFR DAU
(Salmau 42–72)
Gweddi ffoadur
I’r arweinydd cerdd: Mascîl gan Feibion Cora.
1Fel hydd yn brefu am ddiod o ddŵr,
dw i’n hiraethu go iawn amdanat ti, O Dduw.
2Mae gen i syched am Dduw, y Duw byw;
O, pryd ga i fynd eto i sefyll o’i flaen yn ei deml?
3Dw i’n methu bwyta, ac yn crio nos a dydd,
wrth iddyn nhw wawdio’n ddiddiwedd,
“Ble mae dy Dduw di, felly?”
4Wrth gofio hyn i gyd dw i’n teimlo mor drist.
Cofio mynd gyda’r dyrfa i dŷ Dduw;
gweiddi a moli’n llawen gyda phawb arall
wrth ddathlu’r Ŵyl!
5F’enaid, pam wyt ti’n teimlo mor isel?
Pam wyt ti mor anniddig?
Rho dy obaith yn Nuw!
Bydda i’n moli Duw eto
am iddo ymyrryd i’m hachub i.
6O fy Nuw, dw i’n teimlo mor isel.
Felly dw i am feddwl amdanat ti
tra dw i’n ffoadur yma.
Yma mae’r Iorddonen yn tarddu
o fryniau Hermon a Mynydd Misar,
7lle mae sŵn dwfn y rhaeadrau
yn galw ar ei gilydd.
Mae fel petai tonnau mawr dy fôr yn llifo drosto i!
8Ond dw i’n profi gofal ffyddlon
yr ARGLWYDD drwy’r dydd;
ac yn y nos dw i’n canu cân o fawl iddo
ac yn gweddïo ar y Duw byw.
9Dw i’n gofyn i Dduw, fy nghraig uchel,
“Pam wyt ti’n cymryd dim sylw ohono i?
Pam mae’n rhaid i mi gerdded o gwmpas yn drist,
am fod y gelynion yn fy ngham-drin i?”
10Mae’r rhai sy’n fy nghasáu i yn gwawdio;
ac mae’n brathu i’r byw
wrth iddyn nhw wawdio’n ddiddiwedd,
“Ble mae dy Dduw di, felly?”
11F’enaid, pam wyt ti’n teimlo mor isel?
Pam wyt ti mor anniddig?
Rho dy obaith yn Nuw!
Bydda i’n moli Duw eto
am iddo ymyrryd i’m hachub i.

Đang chọn:

Salm 42: bnet

Tô màu

Sao chép

So sánh

Chia sẻ

None

Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập