Biểu tượng Ứng dụng Kinh Thánh
Biểu tượng Tìm kiếm

Salm 91

91
Duw sy’n ein cadw’n saff
1Bydd y sawl mae’r Duw Goruchaf yn ei amddiffyn
yn aros yn saff dan gysgod yr Hollalluog.
2Dywedais, “ARGLWYDD, rwyt ti’n gaer ddiogel,
yn lle hollol saff i mi fynd.
Ti ydy fy Nuw i, yr un dw i’n ei drystio.”
3Bydd Duw yn dy achub di o drap yr heliwr,
a rhag y pla marwol.
4Bydd e’n rhoi ei adain drosot ti,
a byddi’n saff o dan blu ei adenydd.
Mae’r ffaith fod Duw yn dweud y gwir
yn darian sy’n dy amddiffyn di.
5Paid bod ag ofn dim sy’n dy ddychryn yn y nos,
na’r saeth sy’n hedfan yn y dydd;
6yr haint sy’n llechu yn y tywyllwch,
na’r dinistr sy’n taro’n sydyn ganol dydd.
7Gall mil o ddynion syrthio ar dy law chwith,
a deg mil ar y dde,
ond fyddi di ddim yn cael dy gyffwrdd.
8Byddi’n cael gweld drosot ti dy hun –
byddi’n gweld y rhai drwg yn cael eu cosbi.
9Wyt, rwyt ti’n lle saff i mi guddio, ARGLWYDD!
Gad i’r Duw Goruchaf fod yn hafan ddiogel i ti,
10a fyddi di ddim yn cael unrhyw niwed.
Fydd dim haint yn dod yn agos i dy gartref di.
11Achos bydd e’n gorchymyn i’w angylion
dy amddiffyn di lle bynnag rwyt ti’n mynd.
12Byddan nhw’n dy ddal yn eu breichiau
fel na fyddi’n taro dy droed ar garreg.
13Byddi di’n sathru’r llew a’r cobra dan draed;
fydd llewod ifanc a nadroedd ddim yn beryg i ti.
14“Dw i’n mynd i gadw’r un sy’n ffyddlon i mi yn saff,” meddai’r ARGLWYDD;
“bydda i’n amddiffyn yr un sy’n fy nabod i.
15Pan fydd e’n galw arna i, bydda i’n ateb.
Bydda i gydag e drwy bob argyfwng.
Bydda i’n ei achub e ac yn ei anrhydeddu.
16Bydd e’n cael byw i oedran teg,
a mwynhau bywyd, am fy mod wedi’i achub.”

Đang chọn:

Salm 91: bnet

Tô màu

Sao chép

So sánh

Chia sẻ

None

Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập