Psalmau 16
16
Y Psalm. XVI. Cywydd Deuair Hirion.
1Cadw fyfi, Geli, ar gais;
’Rioed itti ymdhiriedais.
2Fy enaid dywaid yn d’ŵydh
Fawrglod, Ydwyt fy Arglwydh:
Nid son am fy haelioni,
Aruth wyt, Iôr, wrthyt ti.
3Fy nidhanwch, fwyn dhynion,
Fu ’n dy saint, f’enaid a’i sôn:
Gwyr parchus, gwedhus, gwiwdhawn,
Sydh ar y dhaear o dhawn.
4A êl at arall, gwall gur,
Mal y del aml y dolur:
Nid offrymaf, medhaf, i’m oes,
Greulawn un aberth groywloes;
A’m genau ni’s mag ennyd
Eu henwau, ganiadau gwŷd.
5Diau waith un Duw weithian
Ddigwydhodh i’m rhodh a’m rhan:
Duw fy lot, da wybod dawn,
Duw a’i gynnal ’n deg uniawn.
6Daeth fy rhandir, gwir, gwiw lôn,
Olud têr, i le tirion:
Perffeithlan yw ’r fan, wir faeth,
Etto fydh f’etifedhiaeth.
7Bendigaf fy Naf, o’i nawdh,
A hwyred i’m cynghorawdh:
Ni’s haedhais y nos hydhysg,
Fy nghalon dirion a’m dysg.
8Rhois f’Arglwydh i’m gŵydh, o’m gwir,
Ys mwy ydyw, ni’m s’mudir:
A phob amser, da Nêr, daw
Duw hylwydh i’m deheulaw.
9Gogoniant gwiw a genais
O’m calon, yn llon, a’m llais:
A’m cnawd o burwawd lle b’ai,
Yn dhiofal yn dhifai.
10F’anwyl, ni adewi f’enaid
I ’r bedhau llawngau, a ’r llaid;
Na gwr union, gwiw rinwedh,
I fethu neu bydru mewn bedh.
11Yno dysgi i mi fy myd,
Lwybrau a beiau ’r bywyd;
Ger dy fron, gwir, Duw freinniawl,
Llawnedh mae llawenydh mawl;
A hyfrydwch, heb freuder,
I ni ar dheheulaw Nêr.
Đang chọn:
Psalmau 16: SC1595
Tô màu
Chia sẻ
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.