Psalmau 3
3
Y drydedh Psalm. Englyn Vnodl vnion.
1GElynion dynion sy yn ymdanu ar gais;
I geisio fy maglu;
Gwnn fod nifer llawer llu
Am golchynt i’m amgylchu.
2Drwg yw ton dynion, dewiniaeth dadwrdh
A d’wedyd yn helaeth:
Duw ni rydh er dawn yr aeth,
Deirawr ym iechydwriaeth.
3Wyd geiod wad godiad Duw gwedi im penn;
Rhag poen im hamgylchi;
Wyd fy mwcled mewn kledi
Ion teg am gogoniant i.
4Gelwais llef oerais lleferydh wirnych,
Arglwydh arnad bevnydh:
Gwrandewaist rhodhaist fi yn rhydh
F’enaid oth santaidh fynydh.
5Gor wedhais kysgais, fo ’m kad yn dhifai,
Yn dhiofal fwriad:
Yno wedi deffco dad,
I’m kedwi Dvwim kodiad.
6Nid ofnaf Dvw naf da nod oferbwyll,
Sy ’n ferbyn yn dyfod:
Er i fyrdh o filwyr fod
Yn y maes yn ymosod.
7Rhaid tad wyt geid wad yt godi vchod,
Am achub rhag cledi:
Torr i dannedh ryfedh ri
Kernodia i kernav wedi.
8Iechyd dawn hefyd wyd Duw nefoedh pur
Vwchlaw pawb or bobloedh:
A r ath gar vwch daearoedh,
Fal gwlith dy fendith dwf oedh.
Đang chọn:
Psalmau 3: SC1595
Tô màu
Chia sẻ
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.