Mathew 7

7
1-6“Peidwch barnu, fel bo chi ddim in câl ich barnu nôl; achos fel ych chi'n barnu dinion erill cewch chi'ch barnu 'ich unen. A'r un mesur ych chi'n iwso i bobol erill geith i iswo arnoch chi. Pam wit ti'n silwu ar i smotyn in lligad di frawd, a senot ti'n silwu ar i stillen in di ligad di unan? Neu shwt alli di weud wrth di frawd, 'Gad fi dinnu'r smotyn mas o di ligad di', a wedyn wêth bo stillen 'da ti di ligad di unan? Wyt ti'n ddim byd mwy na un sy'n showan-off! Tynn i stillen mas o di ligad di unan i ddachre, a wedyn galli di weld in ddigon clir i gwmrid i smotyn mas o ligad di frawd. “Peidwch â rhoi beth sy pia Duw i'r cŵn, a peidwch â towlu perle o flân moch; os newch chi 'ny, biddan nhwy'n damshel arnyn nhwy a'n troi arnoch chi a'ch rhico'n bishys.
7-12“Gofinnwch a geith e i roi i chi; whiliwch a fe ffeindwch chi; cnocwch a geith i drws i agor ichi. Achos bydd bob un syn gofyn in câl, bydd i sawl sy'n whilio in ffeindo, a bydd ir un sy'n cnoco in gweld i drws in agor iddo. Wes un o'chi fise'n rhoi carreg i'w grwt a hwnnw wedi holi am gâl bara? Neu a roiech chi neidir iddo fe os bise fe'n pofyn am bisgodyn? Os ych chi, sy'n bobol ddrwg, in gwbod shwt i roi pethe da i'ch plant, faint in fwy bydd 'ich Tad in i nefodd in rhoi pethe da i'r rhei sy'n gofyn wrtho fe!
“Beth binnag ych chi moyn i ddinion neud i chi, newch chi iddyn nhw 'fyd; achos tina beth yw istyr i Gifreth a'r Proffwydi.
13“Cerwch miwn trw'r iet gul. Achos ma'r feidir sy'n arwen i ddistryw in un llidan a mae'n rhwydd i'w dilyn. Ma pŵer o ddinion in mind trw'r iet lidan, a ma pŵer in mind ar i feidir lidan. Ond ma'r feidir sy'n arwen i fowid trw iet mor gul a mae mor galed i fynd arni fel bo'r rhei sy'n i ffeindo in sobor o fach.
14-20“Watshwch mas am brigethwyr sy'n twyllo! Dewn nw atoch chi in isgus 'u bo nhwy'n ddefed, ond tu fiwn man nw'n fleiddied cas sy wedi dwâd i'ch bita chi. Gallwch weld pwy siort yw nhwy wrth beth man nhw'n neud. Senoch chi'n pigo grêps ar ddreonen, na ffigs ar isgall? Ma llwyn da in rhoi ffrwyth da, a llwyn drwg in rhoi ffrwyth drwg. Seno llwyn da in galler rhoi ffrwyth drwg, na llwyn drwg roi ffrwyth da. Ceith bob llwyn sy ddim in rhoi ffrwyth da 'u torri lawr a'u towlu miwn i'r tân. So wedyn 'te, nabiddwch nhwy wrth 'u ffrwythe.
21-23“Ddim pob un sy'n gweud 'Mishtir, Mishtir' wrtha i, fydd in câl mynd miwn i Deyrnas Nefodd; ond dim ond rheiny sy'n neud beth ma'n Dad in i nefodd moyn iddyn nhwy neud. Bydd peil in gweud ar i Dwarnod 'ny, 'Mishtir, Mishtir, nethon ni brigethu in di enw di, a hala cithreiled mas in di enw di, a neud pob mathe o bethe mowr in di enw di.’ Wedyn bidda'n gweu 'thyn nhwy, 'Nes i ddim ich nabod chi ariôd; cerwch mas o'ng ngolwg i, chi bobol ddrwg!”
24-27“Bydd unriw un sy'n cliwed beth dwi'n disgu a'n neud rwbeth amdanyn nhw in debyg i'r dyn 'ny â sens 'dag e nâth godi 'i dŷ ar graig. Bwrodd i glaw, cododd ir afonydd, a whithodd i gwynt in erbyn i tŷ; ond nâth i tŷ ddim cwmpo achos we'i silfen in saff ar i graig. Bydd unriw un sy'n cliwed i geirie 'ma dwi'n disgu a ddim in neud ddim amdanyn nhwy fel i dyn twp a gododd 'i dŷ ar i twod. Bwrodd i glaw, cododd ir afonydd, whithodd i gwynt in erbyn i tŷ; a disghinodd hwnnw gida sŵn ofnadw.”
28-29Nawr pan we Iesu wedi pennu gweud i pethe 'ma, we'r crowde in sinnu at beth wedd e'n 'i ddisgu, achos wedd e'n disgu fel un â comands 'dag e, a ddim fel i rhei we'n disgu'r Gifreth.

Currently Selected:

Mathew 7: DAFIS

Qaqambisa

Share

Copy

None

Ufuna ukuba iimbalasane zakho zigcinwe kuzo zonke izixhobo zakho? Bhalisela okanye ngena