Hosea 3

3
PENNOD III.
1A dywedodd yr Arglwydd wrthyf eilwaith, —
Dos, câr wraig, cariad cyfaill, ac yn odinebus,
Yn ol cariad yr Arglwydd tuag at blant Israel,
Er eu bod yn troi at dduwiau estronol,
Ac yn caru costrelau gwin.#3:1 Mae yr ail orchymyn hwn yn cadarnhau y dyb, mai drychwel neu weledigaeth, neu ynte adroddiad dammegawl, yw yr hyn a gynnwysir yn nechreu y bennod gyntaf. Nid oes un sail i feddwl, fel y dywed rhai, mai “Gomer” yw y wraig yma. Nid yw y gair am “wraig” yn dynodi priod, ond benyw; er yr arferir ef weithiau am wraig briod, eto nid yw felly yma, gan y dywedir i’r prophwyd ei “phrynu;” yr hyn nis gwnai, pe buasai eisoes yn wraig iddo. “Costrelau gwin:” yfent win yn nhemlau eu heilunod; Barn, 9:27; Amos 2:8.
2A phrynais hi i mi fy hun am bymtheg o arian, a homer o
3Haidd, a latac o haidd;#3:3 Y “latac” oedd hanner homer; homer oedd ynghylch wyth bushel. “Pymtheg,” sef, shacel fel y tybir. Yr oedd shacel ynghylch hanner coron. Felly nid oedd yr arian yn ddwy bunt; a’r haidd oedd yn ddeuddeg pecaid. Gwel Gen. 34:12. a dywedais wrthi, —
Dyddiau lawer yr arosi am danaf;
Na phuteinia, na fydd yn eiddo neb,
Ac felly mi a fyddaf yn eiddo i ti:
4Canys dyddiau lawer yr erys plant Israel
Heb frenin ac heb dywysog,
Ïe, heb aberth, ac heb ddelw,
Heb ephod chwaith, na Theraphim.#3:4 Dywedir yma am ddefodau Israel, fel yr oeddynt cyn y caethiwed. “Teraphim” oeddynt ddelwau teuluaidd. Gwel Gen. 32:19, 20.
5Wedi hyn, dychwel plant Israel,
A cheisiant yr Arglwydd eu Duw,
A Dafydd eu brenin;
Ac ofnant,#3:5 “Ofni” yma a ddynoda holl deimladau a gweithredion gwir grefydd — addoli, gweddïo, talu dïolch, &c. Parchent ac anrhydeddent Dduw o herwydd ei fawrhydi, a diolchent iddo o herwydd ei haelionus ddaioni. o herwydd yr Arglwydd,
Ac o herwydd ei ddaioni, yn y dyddiau diweddaf.

目前选定:

Hosea 3: CJO

高亮显示

分享

复制

None

想要在所有设备上保存你的高亮显示吗? 注册或登录