YouVersion 標識
搜索圖示

Genesis 31

31
PEN. XXXI.
Plant Laban yn grwgnach yn erbyn Iacob. 3 Duw yn gorchymyn iddo ddychwelyd iw wlad. 5 Efe yn mynegu ei helynt iw wragedd priod. 13 Gofal Duw tros Iacob. 19 Rahel yn lledratta delwau ei thad. 23 Laban yn canlyn ar ol Iacob. 44 Y cyfammod rhwng Laban ac Iacob.
1Ac efe a glybu eiriau meibion Laban yn dywedyd, Iacob a ddûg yr hyn oll [oedd] i’n tâd ni, ac o’r hyn [ydoedd] i’n tâd ni y gwnaeth efe yr holl anrhydedd hyn.
2Hefyd Iacob a welodd wyneb-pryd Laban, ac wele nid [ydoedd] tu ag attaw ef megis cynt.
3A’r Arglwydd a ddywedase wrth Iacob, dychwel i wlad dy dadau, ac at dy genhedl dy hun, ac mi a fyddaf gyd a thi.
4A Iacob a anfonodd, ac a alwodd Rahel, a Lea i’r maes, at ei braidd.
5Ac a ddywedodd wrthynt, myfi a welaf wyneb-pryd eich tâd chwi, mai nad fel cynt [y mae] efe tu ag attafi: a Duw fy nhâd a fu gyd a’m fi.
6A chwi a wyddoch mai a’m holl allu y gwasanaethais gyd a’ch tâd.
7Onid eich tâd a anghywirodd a’m fi, ac a newidiodd fyng-hyflog i ddeng-waith: ond nis goddefodd Duw iddo wneuthur i mi ddrwg.
8Os fel hyn y dywede: y man-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a heppilient fân-frithion: ond os fel hyn y dywede: y traed-frithion a fydd dy gyflog di, yna’r holl braidd a heppilient [rai] traed-frithion.
9Felly Duw a ddûg anifeiliaid eich tâd chwi, ac ai rhoddes i mi.
10Bu hefyd yn amser cyfebru o’r praidd, dderchafu o honof fy llygaid, ac mewn breuddwyd y gwelais, ac wele yr hyrddod, (y rhai oeddynt yn llammu y praidd,) yn draed-frithion, yn fân frithion, ac yn faŵr frithion.
11Yna y dywedodd angel Duw wrthif mewn breuddwyd, Iacob: minne a attebais, wele fi.
12Yntef a ddywedodd, derchafa weithian dy lygaid, a gwêl di yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llammu y praidd yn draed-frithion, yn fân-frithion, ac yn fawr-frithion, o blegit gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti.
13My fi [yw] y Duw o Bethel, #Genes.28.18.lle ’r eneniaist golofn [ac] lle’r addunaist adduned i mi, cyfot ti bellach dos allan o’r wlâd hon, dychwel i wlad dy genhedl dy hun.
14Yna’r attebodd Rahel a Lea, ac a ddywedasant wrtho, a [oes] etto i ni rann, neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tâd?
15Onid yn estronesau y cyfrifodd efe nyni? o blegit efe a’n gwerthodd, a chan dreulio a dreuliodd hefyd ein harian ni.
16Canys yr holl olud yr hwn a ddûg Duw oddi a’r ein tâd ni, ny ni a’n meibion ai piau: bellach yr awr hon gwna di yr hyn oll a ddywedodd Duw wrthit.
17Yna Iacob a gyfododd, ac a ossododd ei feibion, ai wraged, ar y camelod.
18Ac a ddûg ymmaith ei holl anifeiliaid, ai holl gyfoeth yr hwn a enillase, [sef] ei anifeiliaid meddiānol, y rhai a enillase efe ym Mesopotamia, i fyned at Isaac ei dâd, i wlâd Canaan.
19Laban hefyd a aethe i gneifio ei ddefaid, a Rahel a ladrattaodd y delwau y rhai [oeddynt] gan ei thâd hi.
20Felly Iacob a aeth yn lledradaidd oddi wrth y Syriad, canys ni fynegodd iddo mai ffoî yr oedd efe.
21Felly y ffôdd efe a’r hyn oll [oedd] ganddo, ac a gyfododd, ac a aeth drwy’r afon, ac a gyfeiriodd [at] fynydd Gilead.
22A mynegwyd i Laban, ar y trydydd dydd, mai ffôi a wnaethe Iacob.
23Yna y cymmerth efe ei frodyr gyd ag ef, ac a erlidiodd ar ei ôl ef daith saith niwrnod, ac ai goddiweddodd ef ym mynydd Gilead.
24Onid Duw a ddaethe at Laban y Syriad liw nôs, mewn breuddwyd, ac a ddywedase wrtho, ymgadw arnat, rhag yngen o honot wrth Iacob na da na drwg.
25Yna Laban a oddiweddodd Iacob, ac Iacob a osododd ei babell yn y mynydd: Laban hefyd a wersyllodd yng hyd ai frodyr ym mynydd Gilead.
26Yna Laban a ddywedodd wrth Iacob, pa beth a wnaethost? o blegit ti a aethost yn lladradaidd oddi wrthif i, a chludaist fy merched, fel caethglud cleddyf.
27Am ba beth y ffoaist yn ddirgel, ac y lledratteaist oddi wrthi fi, ac ni fynegaist i mi, fel yr hebryngaswn dydi a llawenydd, ac a chaniadau, a thympan, ac a thelyn?
28Hefyd ni adewaist i mi gusanu fy meibion, a’m merched, gwnaethost yr awran yn ffôl.
29Mae a allwn wneuthur i chwi ddrwg: ond Duw eich tâd chwi a lefarodd wrthif neithwyr gan ddywedyd, ymgadw arnat rhac yngen wrth Iacob, na da, na drwg.
30Weithian gan hynny, gan fyned yr aethost ymmaith, o blegit gan hiraethu yr hiraethaist am dy dâd. [Ond] pa ham y lledratteaist fy nuwiau i?
31Yna Iacob a attebodd, ac a ddywedodd wrth Laban, am ofni o honof: o blegit meddyliais rhac dwyn o honot dy ferched oddi wrthyf.
32Gyd a’r hwn y ceffych dy dduwiau na chaffed fyw ger bron ein brodyr, mynn di wybod pa beth [o’r eiddot sydd] gyd a’m fi, a chymmer i ti: ac nis gwydde Iacob mai Rahel ai lledrattase hwynt.
33Laban gan hynny a aeth i mewn i babell Iacob, ac i babell Lea, ac i babell y ddwy lawforwyn, ac ni cafodd hwynt: yna yr aeth allan o babell Lea, ac y daeth i babell Rahel.
34A Rahel a gymerase y delwau, ac ai gosodase hwynt yn sadell y camel, ac a eisteddodd arnynt, a Laban a deimlodd yr holl babell ac nis cafodd [hwynt.]
35O blegit dywedase hi wrth ei thâd, na ddigied fy arglwydd, am nas gallaf gyfodi ger dy fron di, canys arfer gwragedd a [ddigwyddodd] i mi, yna y chwiliodd efe, ac ni chafodd y delwau.
36Yna Iacob a ddigiodd, ac a ymrysonodd a Laban: o blegit Iacob a attebodd ac a ddywedodd wrth Laban, pa beth [yw] fyng-hamwedd i? pa beth [yw] fy mhechod? gan erlid o honot ar fy ôl?
37Canys teimlais fy holl ddodrefn i, pa beth a gefaist o holl ddodrefn dy dŷ di? gosot [ef] ymma ger bron fy mrodyr i a’th frodyr dithe, fel y barnant rhyngom ni ein dau.
38My fi bellach [a fûm] ugain mlhynedd gyd a thi, dy ddefaid a’th eifr ni erthylasant, ac ni fwytteais hyrddod dy braidd.
39Ni ddygwn sclyfaeth attat ti, my fi ai gwnawn ef yn dda, o’m llaw i y gofynnit hynny: yr hyn a ladrateid y dydd, a’r hyn a ladrateid y nos, [a fynnit hefyd.]
40Bûm [lle] i’m treuliodd gwrês trwy yr dydd, a rhew trwy yr nôs: a’m cwsc a gilie o’m llygaid.
41Bellach [y cerddodd] i mi ugain mlhynedd yn dy dŷ di, pedair blynedd ar ddec y gwasanaethais di am dy ddwy ferched, a chwe blynedd am dy braidd; a thi a newidiaist fyng-hyflog ddec o weithiau.
42Oni buase [fod] Duw fy nhâd, Duw Abraham, ac arswyd Isaac gyd a’m fi, diau yr awr hon y gollyngasit fi ymmaith yn waglaw: onid Duw a welodd fyng-hystudd a llafur fy nwylaw, ac a’th geryddodd [di] neithiwyr.
43Yna Laban a attebodd, ac a ddywedodd, wrth Iacob, y merched [hyn ydynt] fy merched mau fi, a’r meibion [hyn ynt] fy meibion mau fi, a’r praidd [yw] fy mhraidd mau fi: a’r hyn oll a weli eiddo fi oedd, ond heddyw pa beth a wnaf i’m merched hyn fy hun? ac iw meibion hwynt, y rhai a escorasant.
44Tyret gan hynny yn awr, gwnawn gyfammod mi a thi, a bydded yn destiolaeth rhyngofi a thithe.
45A Iacob a gymmerth garrec ac ai cododd hi yn golofn.
46Hefyd Iacob a ddywedodd wrth ei frodyr cesclwch gerric, a hwynt a gymmerasant gerric, ac a wnaethant garnedd, ac a fwyttasant yno ar y garnedd.
47A Laban ai galwodd hi Iegar Sahadutha: ac Iacob ai galwodd hi Gilead.
48O blegit Laban a ddywedase: y garnedd hon a fydd dyst rhyngofi a thithe heddyw: am hynny y galwodd [Iacob] ei henw hi Gilead.
49A Mispah hefyd, o blegit efe a ddywedase, edryched yr Arglwydd rhwngofi a thithe, pan fôm ni bob vn o olwg ei gilydd.
50Os gorthrymmi di fy merched, neu os cymmeri wragedd heb law fy merched i: nid [oes un] gŵr gyd a ni, edrych, Duw [sydd] dŷst rhyngofi a thithe.
51Dywedodd hefyd Laban wrth Iacob: wele y garnedd hon, ac wele y golofn hon, ac wele y golofn yr hon a osodais rhyngofi a thi.
52Tŷst [a fydd] y garnedd hon, a thŷst [a fydd] y golofn na ddeuafi tros y garnedd hon attat ti, ac na ddoi dithe tros y garnedd hon, neu’r golofn hon attafi, er niwed.
53Duw Abraham, a Duw Nachor a farno rhyngom ni ([sef] Duw eu tadau hwynt) felly y tyngodd Iacob i ofn ei dâd Isaac.
54Hefyd Iacob a aberthodd aberth yn y mynydd, ac a alwodd ar ei frodyr i fwytta bara, a hwynt a fwyttasant fara, ac a drigasant tros nôs yn y mynydd.
55A Laban a gyfododd yn foreu, ac a gusanodd ei feibion, ai ferched ef, ac ai bendithiodd hwynt: felly Laban a aeth ymmaith, ac a ddychwelodd iw frô ei hun.

目前選定:

Genesis 31: BWMG1588

醒目顯示

分享

複製

None

想要在所有設備上保存你的醒目顯示嗎? 註冊或登入