YouVersion 標識
搜索圖示

Genesis 6

6
PEN. VI.
Achos dwfr diluw. 8 Hanes Noah. 14 Gwnevthuriad yr Arch.
1Yna y bû pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaiar, a geni merched iddynt,
2Weled o feibion Duw ferched dynion mai teg [oeddynt] hwy, a hwynt a gymmerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasant.
3Yna y dywedodd yr Arglwydd nid ymrysona fy yspryd i a dŷn yn dragywydd, o blegit mai cnawd yw efe: ai ddyddiau fyddant ugain mlhynedd, a chant.
4Cawri oeddynt ar y ddaiar y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd, pan ddaeth meibion Duw at ferched dynion, a phlanta [o’r rhai hynny] iddynt: dymma y cedyrn y rhai [a fuant] wŷr enwoc gynt.
5A’r Arglwydd a #Gen.8.21.|GEN 8:21. Mat.15.19.welodd mai aml oedd drygioni dŷn ar y ddaiar, â [bod] holl fwriad, meddyl-fryd ei galon yn unic yn ddrygionus bôb amser.
6Yna yr edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur o honaw efe ddyn ar y ddaiar, ac efe a ymofidiodd yn ei galon.
7A’r Arglwydd a ddywedodd, deleaf ddŷn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaiar, o ddŷn, hyd anifail, hyd yr ymlusciad, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennif eu gwneuthur hwynt.
8Ond Noah a gafodd ffafor yng-olwg yr Arglwydd.
9Dymma genhedlaethau Noah, Noah [oedd] ŵr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyd a Duw y rhodiodd Noah.
10A Noah a genhedlodd dri o feibion, Sem, Cam a Iapheth.
11A’r ddaiar a lygreasyd ger bron Duw, llanwasyd y ddaiar hefyd a thrawsedd.
12Yna yr edrychodd Duw ar y ddaiar, ac wele hi a lygreasyd, canys pôb cnawd a lygrease ei lwybr ar y ddaiar.
13A Duw a ddywedodd wrth Noah, diwedd pôb cnawd a ddaeth ger fy mron: o blegit llanwyd y ddaiar a thrawsedd oi herwydd hwynt: ac wele myfi ai difethaf hwynt gyd ar ddaiar.
14Gwna di it Arch o goed Gopher, yn gellau y gwnei’r Arch, a phyga hi oddi fewn, ac oddi allan a phŷg.
15Fel hyn y gwnei hi, try chan cufydd [fydd] hŷd yr Arch, dec cufydd a deûgain ei llêd, a dec cufydd ar hugain ei huchter.
16Gwna Fenestr i’r Arch, a gorphenn [hi] yn gufydd oddi arnodd: a gosot ddrws yr Arch yn ei hystlys: o drî [uchder] y gwnei di hi.
17O herwydd wele fi yn dwyn dyfroedd diluw ar y ddaiar, i ddifetha pob cnawd, yr hwn [y mae] anadl enioes ynddo, oddi tann y nefoedd: yr hyn oll [sydd] ar y ddaiar a drenga.
18Ond a thi y cadarnhaf fyng-hyfammod, ac i’r Arch yr ei di, a’th feibion, a’th wraig, a gwragedd dy feibion gyd a thi.
19Ac o bôb [peth] byw, o bôb cnawd, y dygi ddau o bôb [rhyw] i’r arch iw cadw [hwynt] yn fyw gyd a thi, gwryw a banyw fyddant.
20O’r ehediaid wrth eu rhywogaeth, ac o’r anifailiaid wrth eu rhywogaeth, o bôb ymlusciad y ddaiar wrth ei rywogaeth, dau o bôb [rhywogaeth] a ddeuant attat iw cadw yn fyw.
21A chymmer di it, o bôb bwyd yr hwn a fwytteir, a chascl attat, a bydded yn ymborth iti, ac iddynt hwythau.
22 # Hebr.11.7. Felly y gwnaeth Noah, yn ol yr hyn oll a orchymynnase Duw iddo, felly y gwnaeth efe.

目前選定:

Genesis 6: BWMG1588

醒目顯示

分享

複製

None

想要在所有設備上保存你的醒目顯示嗎? 註冊或登入