1
Psalmau 34:18
Psalmæ Dafydh 1595 (William Middleton) - Agraffiad 1603
Y mae ’r Arglwydh, rhwydh yw ’r hynt, A’i swydh, yn agos idhynt, Sydh a chalon, bron ir brig, Ddidwyll a chystudhiedig; Ag a achub o gychwyn Y claf ysbryd, dhybryd dhwyn.
Qhathanisa
Hlola Psalmau 34:18
2
Psalmau 34:4
Ceisiais yr Arglwydh cyson, Coeliodh Duw, — clywodh y dôn; O’m holl ofn, ammhwyllaw hawdh, Gwir ydyw, fe’m gwaredawdh.
Hlola Psalmau 34:4
3
Psalmau 34:19
Mawr yw trallod, gormod gwaith, Y cyfion, ni’s cai afiaeth; Duw a’i gweryd, gloywbryd glan, O hyn oll heno allan.
Hlola Psalmau 34:19
4
Psalmau 34:7-8
Ag angel Duw (nag yngan) Adeilai luestai ’n lan O’i gylch, fab, a’i amgylch fo, Fwyn afiaeth, a’i hofn efo.
Hlola Psalmau 34:7-8
5
Psalmau 34:5
Edrychant o drachwant draw, Iawn ytoedh, rhedan’ attaw; Cywilydh ni bydh heb au, Hoen obaith, yw hwynebau.
Hlola Psalmau 34:5
6
Psalmau 34:17
Cofus fe grïa ’r cyfion, A Duw Sant a wrendy’u son; A gweryd, gwỳnfyd nid gau, Trwy welliad, o’u trallodau.
Hlola Psalmau 34:17
7
8
Psalmau 34:14
Gochel y drwg, a chlod Ri, Gwên dhawnus, gwna dhaioni; Cais hedhwch, nid trwch nôd trin, Ydolwg it’, gwna’i dilin.
Hlola Psalmau 34:14
9
Psalmau 34:13
Cadw, a rhag drwg y cedwi, I’th geudawd dy dafawd di, A’th enau glan a’th wyneb A wnai, rhag ofn twyllo neb.
Hlola Psalmau 34:13
10
Psalmau 34:15
Golwg Duw, digilwg dôn, A rannwyd ar yr union; Gwrendy’u cri, dewrgri, yn deg A’i glustiau, mewn gloyw osteg.
Hlola Psalmau 34:15
11
Psalmau 34:3
A molwch Arglwydh miloedh Gyda mi, a gwawd im’ oedh; A chyd‐fawrygwn a cherdh I enw iawngamp, mewn angerdh.
Hlola Psalmau 34:3
Ikhaya
IBhayibheli
Amapulani
Amavidiyo