Marc 4:35-41

Marc 4:35-41 DAW

Fel roedd hi'n nosi, dwedodd Iesu, “Gadewch i ni groesi i'r ochr draw.” Felly, gadawson nhw'r dyrfa, a mynd gydag e yn y cwch; roedd cychod eraill yno hefyd. Yn sydyn, cododd gwynt cryf, ac roedd y tonnau'n llifo i mewn i'r cwch, nes ei fod bron yn llawn. Roedd Iesu yng nghefn y cwch yn cysgu ar glustog. Daeth ei ddisgyblion ato i'w ddeffro a dweud, “Athro, mae ar ben arnon ni. Dwyt ti ddim yn hidio?” Deffrôdd Iesu, ceryddodd y gwynt, a dwedodd wrth y môr, “Bydd ddistaw! Bydd dawel!” Gostegodd y gwynt, a bu tawelwch mawr. Gofynnodd Iesu, “Pam mae ofn arnoch chi? Pam fod gennych gyn lleied o ffydd?” Daeth ofn mawr arnyn nhw, a dwedson nhw wrth ei gilydd, “Pa fath ddyn ydy hwn? Mae hyd yn oed y gwynt a'r môr yn ufuddhau iddo”.

Funda Marc 4