Ioan 2
2
1A thrennydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea, ac yr oedd mam yr Iesu yno. 2Gwahoddwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas. 3A phan ballodd gwin, medd mam yr Iesu wrtho, “Nid oes ganddynt win.” 4Ac medd yr Iesu wrthi, “Beth sydd rhyngof â thi, wreigdda? Nid yw f’awr i wedi dyfod eto.” 5Medd ei fam wrth y gwasanaethyddion, “Beth bynnag a ddywedo wrthych, gwnewch.” 6Ac yr oedd yno chwe dyfrlestr maen wedi eu gosod yn ôl defod glanhad yr Iddewon, yn dal dau neu dri ffurcyn bob un. 7Medd yr Iesu wrthynt, “Llenwch y dyfrlestri â dwfr,” a llanwasant hwy hyd yr ymyl. 8Ac medd ef wrthynt, “Tynnwch allan yn awr a dygwch i lywydd y wledd”; dygasant hwythau. 9Pan brofodd llywydd y wledd y dwfr a aethai’n win, — ni wyddai ef o ba le yr oedd, ond gwyddai’r gwasanaethyddion a fu’n tynnu’r dwfr — y mae llywydd y wledd yn galw y priodfab, 10ac medd ef wrtho: “Bydd pawb yn rhoddi’r gwin da i ddechreu, yna pan fônt feddw, y gwin gwaelach. Tithau, cedwaist y gwin da hyd yn awr.” 11Hyn a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea yn ddechreu’r arwyddion, ac amlygodd ei ogoniant, a chredodd ei ddisgyblion ynddo.
12Wedi hyn, aeth i lawr i Gapernaum, ef a’i fam a’i frodyr a’i ddisgyblion, ac arosasant yno ychydig ddyddiau. 13Ac yr oedd pasg yr Iddewon yn agos, ac aeth yr Iesu i fyny i Gaersalem. 14A chafodd yn y cysegr y gwerthwyr ychen a defaid a cholomennod a’r newidwyr arian yn eistedd, 15ac wedi gwneuthur fflangell o reffynnau, bwriodd hwy oll allan o’r cysegr, y defaid a’r ychen, ac am y newidwyr, tywalltodd eu mân arian a dymchwelodd eu byrddau, 16ac wrth y gwerthwyr colomennod dywedodd, “Ewch â’r pethau yna allan, na wnewch dŷ fy nhad yn dŷ marchnad.” 17Cofiodd ei ddisgyblion fod adnod: “Eiddigedd dy dŷ di a’m hysa i.” 18Felly atebodd yr Iddewon a dywedasant wrtho: “Pa arwydd yr wyt yn ei ddangos i ni gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn?” 19Atebodd Iesu a dywedodd wrthynt: “Chwelwch y deml hon, ac mewn tridiau atgyfodaf hi.” 20Meddai’r Iddewon felly: “Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu’r deml hon, a thithau, a atgyfodi di hi mewn tridiau?” 21Ond sôn yr oedd yntau am deml ei gorff. 22Felly pan atgyfododd o feirw, cofiodd ei ddisgyblion iddo ddywedyd hyn, a chredasant yr Ysgrythur a’r gair a ddywedodd yr Iesu.
23A thra oedd yng Nghaersalem ar y pasg ar yr ŵyl, credodd llawer yn ei enw, wrth weled ei arwyddion a wnâi. 24Ond yr Iesu, nis ymddiriedai ei hun iddynt, am ei fod ef yn adnabod pawb, 25ac nad oedd angen arno i neb dystio am ddyn, oherwydd gwyddai ei hunan beth oedd mewn dyn.
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945