Salmau 8
8
SALM 8
Ardderchowgrwydd Duw
Llangloffan 76.76.D
1-2O Arglwydd, mor ardderchog
Dy enw drwy’r holl fyd.
Gosodaist dy ogoniant
Goruwch y nef i gyd.
Ond codaist fawl babanod,
Plant sugno bychain, gwan,
I’th warchod rhag d’elynion
A’u trechu yn y man.
3-4Pan welaf waith dy fysedd
Wrth edrych tua’r ne’:
Yr haul a’r sêr a’r lleuad,
A roddaist yn eu lle,
“Pwy ydwyf fi,” gofynnaf,
“A phwy yw dynol ryw,
I ti ofalu amdanom,
A’n cofio, f’Arglwydd Dduw?”
5-6Ac eto, ti a’n gwnaethost
Ychydig bach islaw
Y duwiau; rhoist awdurdod
I ni dros waith dy law.
Coronaist ni â mawredd,
A gosod dan ein traed,
Er ein mwynhad a’n defnydd
Y cyfan oll a wnaed:
7-9Yr ychen yn y meysydd,
Y defaid oll a’r myllt,
A’r anifeiliaid rheibus,
Y pysg a’r adar gwyllt,
A phopeth sy’n tramwyo
Trwy’r dyfroedd oll i gyd,
O Arglwydd, mor ardderchog
Dy enw drwy’r holl fyd.
المحددات الحالية:
Salmau 8: SCN
تمييز النص
شارك
نسخ
هل تريد حفظ أبرز أعمالك على جميع أجهزتك؟ قم بالتسجيل أو تسجيل الدخول
© Gwynn ap Gwilym 2008