Salmau 9
9
SALM 9
Duw’n obaith i’r gorthrymedig
Gwalchmai 74.74.D
1-3Diolchaf, Arglwydd, am dy holl
Ryfeddodau.
Try fy ngwrthwynebwyr oll
Yn eu holau;
Ond â mi fe fuost ti’n
Gwbl uniawn.
Eistedd ar dy orsedd fry’n
Farnwr cyfiawn.
4-8Cosbaist y drygionus rai,
A’r cenhedloedd;
Difa’u henw a dileu
Eu dinasoedd.
A hyd byth, ar orsedd fawr
Dy uchelder,
Berni bobloedd daear lawr
Mewn cyfiawnder.
9-12Bydded Duw yn noddfa i’r
Gorthrymedig.
Bydd y sawl a’i cais yn wir
Yn gadwedig.
Canwch fawl i’r Arglwydd Dduw.
Ef, Duw Seion,
Yw’r dialydd gwaed a glyw
Waedd ei weision.
13-16Cod fi, Dduw, o byrth y bedd,
O’m helbulon,
Fel y molaf di mewn hedd
Ym mhyrth Seion.
Maglwyd y rhai drwg yn nwyd
Eu dichellion;
Daliodd Duw hwy’n sownd yn rhwyd
Eu cynllwynion.
17-20Nid am byth y troir yn ôl
Gri’r anghenus,
Ond dychweled i Sheol
Y drygionus.
Dyro d’arswyd, Dduw, yn chwim
Yn eu calon,
Fel y gwelont nad ŷnt ddim
Ond meidrolion.
المحددات الحالية:
Salmau 9: SCN
تمييز النص
شارك
نسخ
هل تريد حفظ أبرز أعمالك على جميع أجهزتك؟ قم بالتسجيل أو تسجيل الدخول
© Gwynn ap Gwilym 2008