Y Salmau 31

31
SALM XXXI
In te Domine Speraui.
Dafydd gwedi diangc o beryglon, yn dangos beth oedd ei fyfyrdod ef a’i ffydd pan oedd gaethaf arno: parod ddaioni Duw i’r sawl a’i hofnant. Cyngor i’r ffyddloniaid i ymddiried yn Nuw eu hymwaredydd.
1Mi a ’mddiriedais ynod Ner,
fel na’m gwaradwydder bythoedd:
Duw o’th gyfiownder gwared fi,
a chlyw fy nghri hyd nefoedd.
2Gogwydd dy glust attaf ar frys,
o’th nefol lys i wared,
3A bydd ym’ yn graig gadarn siwr,
yn dŷ a thwr i’m gwared.
4Sef fy nghraig wyd, a’m castell cryf,
wyf finnau hyf o’th fowredd.
Er mwyn dy enw tywys fi,
ac arwain i drugaredd.
5A thynn fy fi o’r rhwyd i’r lann,
a roesan er fy maglu:
Cans fy holl nerth sydd ynot ti,
da gelli fy ngwaredu.
6Dodaf fy yspryd yn dy law,
ac âf gar llaw i orwedd,
Da y gwaredaist fi yn fyw:
(o Arglwydd Dduw’r gwirionedd)
7Llwyr y caseis y neb a fâg,
iw galon orwag aflwydd,
Ac mi a osodais yn llwyr faith
fy ngobaith yn yr Arglwydd.
8Mi a ’mhyfrydaf ynot ti,
canfuost fi mewn amser,
Ac adnabuost, wrth fy rhaid,
fy enaid mewn cyfyngder.
9Llawen fyddaf finnau am hyn,
i’m gelyn ni’m gwarcheaist:
Eithr fy nrhaed i yn eang rydd
da beunydd y sefydlaist.
10O dangos dy drugaredd Dduw,
cans cyfyng ydyw arnaf,
Fy llygaid, f’enaid, a’m bol sydd
yn dioddef cystydd gwaelaf.
11Fy mywyd ym’ gwir ofid oedd,
fy holl flynyddoedd, blinion,
12Fy nerth a ballodd o’m drwg cynt,
a’m esgyrn ydynt bydron.
13A gwatwor im’ gelynion wyf,
fy nghydblwyf a’m gwatworent:
Fy holl gym’dogion, a phob dyn,
gan ddychryn a’m gochelent.
14Fe a’m gollyngwyd ’i dros gof,
fal marw a fo esgeulus:
A hawdd yw hepgor y llestr hwn,
o byddi hwn drwgflasus.
15Cans clywais ogan llawer dyn
o’m dautu, dychryn oerloes:
Hwy a ’mgynghorent a’r bob twyn,
bwriadent ddwyn fy einioes.
16Ond yn fy ngobaith (Arglwydd byw)
y dwedais fy Nuw ydwyd,
Y mae f’amseroedd a’r dy law,
nid oes na braw nac arswyd.
17Dyred a gwared fi dy wâs,
oddiwrth fy nghâs a’m herlid.
18A dangos d’wyneb ym’ oth râd,
rhag brâd y rhai sy’m hymlid.
19O Arglwydd, na wradwydder fi
a rois fy ngweddi arnad:
Ond i’r annuwiol gwarth a wedd,
yn fud i’r bedd o lygriad.
20Cae gelwyddog wefusau y rhai’n
y sydd yn darstain crasder,
O ddiystyrwch, a thor tynn,
yn erbyn y cyfiawnder.
21O mor fawr yw dy râd di-drai,
a roist i’r rhai a’th ofnant!
Cai o flaen meibion dynion glod,
ac ynod ymddiriedant.
22Oddiwrth sythfeilchion (o’th flaen di)
y cuddi hwynt yn ddirgel:
Cuddi yn dda i’r babell dau
rhag senn tafodau uchel.
23Mi a fendigaf Dduw yn hawdd:
dangosawdd y’m ei gariad:
A gwnaeth ryfeddod dros ei was,
mewn cadarn ddinas gaead.
24Ofnais i gynt o’m gobaith drwg
fy nrhoi o’th olwg allan:
25Eithyr pan lefais arnat ti
y clywaist fi yn fuan.
26O cerwch Dduw ei holl sainct ef,
da y clyw lef ffyddloniaid:
Ac ef a dâl yn helaeth iawn,
i’r beilch anghyfiawn tanbaid.
27Cymerwch gysur yn Nuw Ion,
ef a rydd galon ynoch:
Ac os gobeithiwch ynddo ef,
ei law yn gref bydd drosoch.

Цяпер абрана:

Y Salmau 31: SC

Пазнака

Падзяліцца

Капіяваць

None

Хочаце, каб вашыя адзнакі былі захаваны на ўсіх вашых прыладах? Зарэгіструйцеся або ўвайдзіце