Y Salmau 32
32
SALM XXXII
Beati quorum.
Dedwyddwch y sawl y maddeuwyd eu pechodau: cyfaddef ei bechodau y mae, a chael maddeuant: cyngor i’r annuwiol i wellau, ac i’r duwiol i orfoleddu.
1Y sawl sy deilwng, gwyn ei fyd,
drwy fadde’i gyd ei drosedd,
Ac y cysgodwyd ei holl fai,
a’i bechod, a’i anwiredd.
2A’r dyn (a gwnfyd Duw a’i llwydd)
ni chyfri’r Arglwydd iddo
Mo’i gamweddau: yw hwn ni châd
dim twyll dichellfrâd yntho.
3Minnau, tra celwn i fy mai,
yn hen yr ai ’mhibellion:
A thrwy fy rhuad i bob dydd,
cystuddio y bydd fy nghalon.
4Dy law dithau, y dydd a’r nos,
sydd drom drwy achos arnaf:
Troi ireidd-dra fy esgyrn mer
fel sychder y gorphennaf.
5Yna y trois innau ar gais,
addefais fy anwiredd:
6Tyst yn fy erbyn fy hun fum,
maddeuaist y’m fy nghamwedd,
7Amserol weddiau am hyn,
a rydd pob glanddyn arnad:
Rhag ofn mewn ffrydau dyfroedd maith,
na chaer mo’r daith hyd attad.
8Rhyw loches gadarn wyd i mi,
rhag ing i’m cedwi’n ffyddlon:
Amgylchyni fy fi ar led,
â cherdd ymwared gyson.
9Dithau (o ddyn) dysg geni fi
y ffordd y rhodi’n wastad,
Mi a’th gynghoraf di rhag drwg,
y mae fy ngolwg arnad.
10Fel y march neu y ful na fydd,
y rhai y sydd heb ddeall:
Mae yn rhaid genfa neu ffrwyn den,
i ddal eu pen yn wastad:
11Caiff annuwolion, a wnant gam,
fawr ofid am eu traha:
A ffyddloniaid Duw, da y gwedd,
trugaredd a’i cylchyna.
12Chwithau’r cyfion yn dirion ewch,
a llawenhewch yn hylwydd:
A phob calon sydd union syth,
clodforwch fyth yr Arglwydd.
Цяпер абрана:
Y Salmau 32: SC
Пазнака
Падзяліцца
Капіяваць
Хочаце, каб вашыя адзнакі былі захаваны на ўсіх вашых прыладах? Зарэгіструйцеся або ўвайдзіце
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017