YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 50

50
SALM 50
Gwir addoliad
Pen-yr-yrfa 76.76.D
1-4Fe alwodd Duw y duwiau
Breswylwyr yr holl fyd.
O Seion y llewyrcha,
Fe ddaw, ac ni bydd fud.
Bydd tymestl fawr o’i gwmpas,
O’i flaen fe ysa tân,
A geilw ar nef a daear
I dystio i’w eiriau glân.
5-6Fe ddywed, “Casglwch ataf
Fy holl ffyddloniaid i,
Y rhai a wnaeth trwy aberth
Gyfamod gyda mi.
A’r nefoedd a gyhoedda’i
Gyfiawnder yn gytûn,
Cans nid oes barnwr arall,
Dim ond ein Duw ei hun.
7-10O gwrando, Israel, tystiaf
Yn d’erbyn. Fi yw Duw.
Ceryddu dy aberthau
Ni fedraf yn fy myw.
Ond ni chymeraf fustach
Na bychod geifr o’th dŷ,
A minnau’n berchen popeth
Sy’n pori ar fryniau lu.
11-14aMi adwaen yr ymlusgiaid
A’r adar oll i gyd.
Pe clemiwn, ni chaet wybod,
Cans eiddof fi’r holl fyd.
Cig teirw a gwaed bychod,
Nid ydynt ddim i mi.
Yr hyn a fynnaf gennyt
Yw dy addoliad di.
14b-16Am hynny, tâl, O Israel,
Dy addunedau i Dduw.
Os gelwi yn nydd cyfyngder,
Fe’th gadwaf di yn fyw.
Ond wrth bob un drygionu
Dywedaf: Sut wyt ti
Yn meiddio sôn am ddeddfau
Fy nglân gyfamod i?
17-21bRwyt yn casáu disgyblaeth,
Yn bwrw ’ngeiriau o’th ôl,
Yn cadw cwmni i ladron
A godinebwyr ffôl;
Dy dafod drwg, enllibus
Yn nyddu twyll mor chwim;
A thybiaist ti na faliwn,
Am na ddywedais ddim.
21c-23Ystyriwch hyn yn fanwl,
Chwi sy’n anghofio Duw,
Rhag imi droi a’ch darnio,
Heb neb i’ch cadw’n fyw.
Y sawl sy’n diolch imi
A dilyn ffordd y nef
Yw’r sawl sy’n f’anrhydeddu,
Ac fe’i hachubaf ef.”

Currently Selected:

Salmau 50: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 50