YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 51

51
SALM 51
Gweddi o edifeirwch
Love Divine 87.87
1-2Bydd drugarog wrthyf, Arglwydd,
Yn ôl dy ffyddlondeb drud;
Golch fi’n lân o’m holl euogrwydd,
A glanha fi o’m beiau i gyd.
3-4Gwn fy mod i wedi pechu,
Arglwydd, yn dy erbyn di.
Cyfiawn wyt yn fy nedfrydu,
Cywir yn fy marnu i.
5-6aFe’m cenhedlwyd mewn drygioni,
Ganwyd fi i ddrygau’r byd;
Ond gwirionedd a ddymuni
Oddi mewn i mi o hyd.
6b-7Felly, dysg i mi ddoethineb;
Pura ag isop fi yn lân;
Golch fi nes bod imi burdeb
Gwynnach nag yw’r eira mân.
8-9Llanw fi, a ddrylliaist gynnau,
 gorfoledd llon yn awr.
Cuddia d’wyneb rhag fy meiau,
A dileu ’mhechodau mawr.
10-11Crea ynof galon lanwaith,
Ysbryd cadarn rho i mi;
A phaid byth â’m bwrw ymaith,
Na nacáu im d’ysbryd di.
12-13Rho im eto orfoleddu
Yn d’achubiaeth; rho i mi
Ysbryd ufudd, a chaf ddysgu
I droseddwyr dy ffyrdd di.
14-15Os gwaredi fi rhag angau,
Traethaf dy gyfiawnder glân.
Arglwydd, agor fy ngwefusau,
A moliannaf di ar gân.
16-17Cans yr aberth sy’n dderbyniol
Iti, ysbryd drylliog yw.
Calon ddrylliog, edifeiriol,
Ni ddirmygi di, O Dduw.
18-19Gwna ddaioni eto i Seion;
Cod Jerwsalem i’w bri,
A chei dderbyn eto’n fodlon
Ein hoffrymau cywir ni.

Currently Selected:

Salmau 51: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 51