YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 65

65
SALM 65
Moliant dyledus i Dduw
Regent Square 87.87.87
1-3Moliant sy’n ddyledus iti,
Dduw yn Seion, ac i ti,
Sydd yn gwrando gweddi, y telir
Yr adduned. Deuwn ni
Atat i gyffesu’n pechod
Llethol, a maddeui di.
4Gwyn ei fyd bawb a ddewisi
Ac a ddygi’n agos iawn
Iddo fyw yn dy gynteddau.
O digoner ninnau’n llawn
Yn dy dŷ, dy deml sanctaidd,
Â’th ddaioni ac â’th ddawn.
5Mewn gweithredoedd tra ofnadwy
Yr atebi di i ni.
Ti yw Duw ein hiachawdwriaeth.
Daear gron a’i chyrion hi
A phellafoedd eitha’r moroedd
Sy’n ymddiried ynot ti.
6-7Fe osodi di’r mynyddoedd
Yn eu lle â nerth dy law.
Yr wyt wedi dy wregysu
Gyda chryfder. Rhoddi daw
Ar ru’r moroedd, terfysg pobloedd,
Ac fe bair d’arwyddion fraw.
8-9aGwnaethost ti i holl drigolion
Byd yn gyfan lawenhau.
Fe ymwelaist ti â’r ddaear,
A’i ffrwythloni a’i dyfrhau.
Mae dy afon yn llawn dyfroedd;
Rhoddaist ŷd i ni’i fwynhau.
9b-11aRwyt yn trefnu ar gyfer daear:
Gwastatáu ei chefnau hir,
Dyfrhau’i rhychau; yna’i mwydo’n
Dyner â chawodydd ir.
Yna, i goroni’r flwyddyn,
Fe fendithi gnwd y tir.
11b-13Mae dy lwybrau di’n diferu
Braster dros borfeydd y byd.
Gwisgi’r bryniau â llawenydd,
A’r dyffrynnoedd gydag ŷd.
Cuddi’r dolydd oll â defaid.
Canu y mae y bobl i gyd.

Currently Selected:

Salmau 65: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in