YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 50

50
SALM L.
8.7. D.
Salm Asaph.
1Duw y Duwiau, sef Iehofah,
A lefarodd:— galwodd ef
Ar y ddaear, o gyfodiad
Hyd fachludiad haul y nef;
2Allan o berffeithrwydd tegwch
Seion y llewyrchodd ef;
3Fflamau tân o’i flaen a ysa,
Ac o’i amgylch tymmestl gref.
4Geilw ar y nef oddi uchod,
Clyw y ddaear hithau ’i lef,
Pan y daw fel hyn i roddi
Cyfiawn farn i’w bobl ef:
5“Cesglwch ataf fi fy seintiau,
’Rhai trwy aberth wnaent â mi
Ammod sicr nad anghofir
Tra fo’m gorsedd yn ei bri.”
6Ei gyfiawnder a fynega
’R nefoedd, canys Duw ei hun
Sydd yn Farnwr Mawr Goruchaf —
Cyfiawn yw ei ffyrdd bob un:
7“Clywch, fy mhobl, a llefaraf;
Israel, gwrandaw — i’th erbyn di
Y dadleuaf: ystyr dithau,
Can’s dy Dduw di ydwyf fi.”
8Nid am boeth‐offrymau breision,
Nac am hedd‐aberthau llon —
Y’th geryddaf: am nad oeddynt
Hwy yn wastad ger fy mron;
9Ni chymmeraf ych o’th feudy,
Bychod o’th gorlanau chwaith,
10Canys eiddof holl fwystfilod
Coedydd gwylltion daear faith.
Rhan II.
8.7.
Anifeiliaid ar fynyddoedd
Fil — fy eiddo ydynt oll;
11Adar gwylltion anial diroedd
Adwaen, bob yr un heb goll;
12Os bydd arnaf newyn rywbryd
Ni fynegaf hyny i ti,
Can’s y ddaear a’i chyflawnder
Mawr, sydd oll yn eiddo i mi.
13A fwytâf fi gig y teirw?
Ai gwaed bychod yfaf fi?
14Tâl i Dduw dy addunedau
Drwy aberthau mawl, gwna di;
15Galw arnaf yn dy drallod,
A gwaredaf di o’r tân;
Yna ti a’m gogoneddi ’n
Llawen mewn diolchus gân.
16Wrth yr annuw Duw a dd’wedodd,
Beth y sydd a wnelot ti
A fy neddfau? pa’m cymmeri
Yn d’ enau fy nghyfammod i,
17Gan gasau o honot addysg,
Ac y tefli ’m geiriau i’th ôl,
Gyda dirmyg calon halog,
Yn dy anystyriaeth ffol?
18Ti â’r lleidr a gyttunaist,
Oeddit ti ag e’r un fryd;
Gyda ’r godinebwyr gwnaethost
Di dy gyfran yn y byd;
19I ddrygioni ’th safn ollyngaist,
A chydblethu dichell câs
Wna dy dafod prysur beunydd,
Yn nghymdeithas gwŷr diras.
20Eistedd wnaethost, a llefaru
Am dy frawd yn frwnt ar gam;
Rhoddaist enllib yn fradwrus
Do, yn erbyn mab dy fam:
21Hyn a wnaethost — mi a dewais —
Tybiaist tithau, ’n ffol a dall,
Mod i megys ti dy hunan —
Argyhoeddaf di o’th wall.
Trefnaf oll o flaen dy lygaid,
Ti gai weled, er dy wae,
Ddyfnder mawr dy holl drueni,
A’th euogrwydd fel y mae;
22Chwi, ’rhai ydych yn anghofio
Duw, deallwch hyn mewn pryd,
Rhag im’ yn fy llid eich rhwygo,
Heb waredydd yn y byd.
23Ond yr hwn abertho foliant,
Ef a’m gogonedda i;
Minnau a’i dyrchafaf yntau
I anrhydedd mawr, a bri:
’R hwn osodo ’i ffordd yn uniawn,
Gan gyfeirio ’i lwybrau i fyw
’N ol fy neddfau, mi ddangosaf
Iddo iachawdwriaeth Duw.
Nodiadau.
Y mae y Salmydd newydd — awdwr arall, fe dybia rhai — yn ein cyfarfod yma, sef Asaph; yr hwn oedd un o brif gantorion y cyssegr yn amser Dafydd. Ond y mae tebygolrwydd cryf iawn mai Dafydd oedd awdwr y salm, ac iddo ei chyflwyno i Asaph, a’r dosbarth cantorion a flaenorai efe, i’w chanu ar amserau yn ngwasanaeth yr addoliad cyhoeddus yn y cyssegr.
Salm o addysg ac athrawiaeth ymarferol ydyw drwyddi, yn gosod allan fawredd a mawrhydi Duw fel llywodraethwr a barnwr yr holl ddaear, ei ogoniant yn ei Seion ac yn ei saint, yn dysgu ac yn cyfarwyddo pa fath addolwyr ac addoliad sydd yn dderbyniol a chymmeradwy ganddo, yn rhybuddio, yn ceryddu, ac yn bygwth addolwyr cnawdol a rhagrithiol, & c.
Egyr y salm hon, fel y salm o’r blaen, yn fawreddus ac ofnadwy:— Duw y duwiau yn dyfod allan i farn, ac yn galw ar y ddaear, o godiad hyd fachludiad haul, i ymddangos ger ei fron yn llys y farn sydd i gael ei chyhoeddi. Ar ei bobl Israel, yn neillduol, y mae y farn hon i gael ei gweinyddu, a hyny yn benaf dim o herwydd eu bod wedi myned yn gnawdol, defodol, a ffurfiol yn eu cyflawniadau crefyddol. Yr oeddynt yn ofalus i ddwyn eu haberthau a’u poeth‐offrymau i’r allor, ac i gyflawni y seremonïau a’r defodau cnawdol; ond yn llwyr esgeuluso “pethau trymaf y gyfraith — barn, a thrugaredd, a chariad Duw.” Dengys athrawiaeth y salm hon yr hyn sydd o’r pwys mwyaf i holl addolwyr Duw ei ystyried a’i gredu; sef, pa mor wrthodedig a ffiaidd gan yr Arglwydd yw addoliad cnawdol a defodol yn unig, heb ynddo ddim mewnol ac ysbrydol: nad ydyw yn ddim amgen na’r sarhâd gwaethaf ar Dduw. Y mae crynodeb o athrawiaeth y salm yn y geiriau hyny a ddywedodd y Gwaredwr wrth y wraig o Samaria:— “Ysbryd yw Duw, a rhaid i’r rhai a’i haddolant ef addoli mewn ysbryd a gwirionedd;” Ioan iv. 24. Geilw y Barnwr Mawr ar ei bobl yma i droi eu haberthau cnawdol yn aberthau ysbrydol o fawl a diolch, gan eu dysgu mai “â’r cyfryw ebyrth y rhyngir ei fodd ef.” “Yr hwn a abertho foliant a’m gogonedda i.”
Ceryddir a bygythir y rhai a gymmerant arnynt y swydd o ddysgu crefydd i’r bobl, ond yn byw yn annuwiol a halogedig eu hunain, yn llym ac ofnadwy iawn. Y mae y cwbl yn dangos y myn Duw ei sancteiddio yn y rhai oll a nesânt ato.
Cawsom achlysuron o’r blaen i sylwi fel y mae yr athrawiaeth ynghylch natur gwir addoli ac addoliad a rydd y salm hon yn cael ei dal allan o hyd yn yr Ysgrythyrau — yn yr Hen Destament yn gystal ag yn y Newydd — yn dangos y gofal mawr a gymmer yr ysbrydoliaeth ddwyfol i gadw dynion rhag camsynio a chyfeiliorni ar y mater pwysicaf hwn; er hyny, nid oes un cyfeiliornad mwy cyffredin yn mysg dynion sydd â Gair Duw yn eu dwylaw yn mhob oes a gwlad.

Currently Selected:

Salmau 50: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 50