YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 51

51
SALM LI.
M. B. C.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd, pan ddaeth Nathan y prophwyd ato, wedi iddo fyned i mewn at Bathseba.
1-2Duw! trugarhâ yn ol
D’ anfeidrol drugarowgrwydd,
Maddeu f’ anwiredd i, a’m bai,
O’th dosturiaethau, Arglwydd.
3Cydnabod ’rwy’r awr hon,
Fy Nuw, a’m cyfion ynad,
Fy mhechod o dy flaen yn rhwydd —
Mae yn fy ngŵydd yn wastad.
4Yn d’ erbyn di dy hun
Y pechais i yn ffiaidd;
Ac y gwnaethum y mawr ddrwg
Hwn yn dy olwg sanctaidd.
Fel cyfiawnhäer di,
Pan y lleferi ’n wastad;
Ac byddit bur pan roddech farn,
Fel uniawn gadarn ynad.
Rhan II.
M. B. C.
5Mewn llygredigaeth du
Y lluniwyd fi o’r cyntaf —
Mewn pechod (hyn sy wir di nam)
Beichiogodd fy mam arnaf.
6Tydi a geri ’r gwir
Mewn calon gywir isel;
A phur ddoethineb i mi dod
I’w ’nhabod yn y dirgel.
7Glanhâ fi âg isop, Naf,
A glân a fyddaf mwyach:
O’m golchi, deuaf wedi hyn
Na’r eira gwyn yn ganach.
8Pâr i mi glywed hedd,
Gorfoledd, a llawenydd;
Fel llawenycho’r esgyrn gwan
A ddrylliwyd dan dy gerydd.
10O! crea galon lân,
Dod anian gymmeradwy,
Ac adnewydda ysbryd iawn
Ac enaid uniawn ynwy’.
11Na fwrw fi o’th ŵydd
Mewn soriant, Arglwydd grasol;
Na chymmer chwaith dy Ysbryd Glân
Oddi wrthyf, druan marwol!
Rhan III.
8.7.
12Rho im’ etto o orfoledd
Pur dy iachawdwriaeth fawr;
A’th haelionus Ysbryd cynnal
Fi rhag i mi syrthio i lawr.
13Yna dysgaf yn effeithiol
I rai anwir ffyrdd dy ras,
Pechaduriaid dröir atat
Oddi ar lwybrau pechod cas.
14Duw fy iachawdwriaeth, gwared
Fi oddi wrth euogrwydd gwaed;
Yna ’m tafod gân yn llafar
Foliant dy gyfiawnder mâd.
15Arglwydd, agor fy ngwefusau,
Dattod hwy o’u rhwymau tỳn;
Felly ’m genau a fynega
Dy rinweddau wedi hyn.
16Canys ni chwennychi aberth,
Onid ê mi a’i dygwn ef,
Na phoeth‐offrwm chwaith ni fyni,
Ni foddlonant hwy y nef.
17Ebyrth Duw yw ysbryd drylliog
Cystuddiedig dan ei friw:
Calon ddrylliog edifeiriol
Ni ddirmygi di, O Dduw!
18Gwna ddaioni, O Dduw! i Seion,
Yn d’ ewyllysgarwch clau;
Adeilada furiau Salem,
Gwna hwy ’n gedyrn i barhau.
19Boddlawn fyddi i gyfiawn ebyrth,
Ac i’n poeth‐offrymau ni;
Yna yr offrymwn fustych
Breision, ar dy allor di.
Nodiadau.
Rhydd teitl y salm hon i ni amser ac achlysur ei chyfansoddiad. Myn Calmet, a rhai ereill, mai wedi amser Dafydd y cyfansoddwyd hi, am yr ymddengys y deisyfiadau dros Ierusalem yn adn. 18 a 19 yn fwy priodol i amgylchiadau y ddinas yn amser y caethiwed yn Babilon, nag i amser Dafydd. Beth bynag am hyny, y mae holl ymadroddion ereill y salm yn dwyn tystiolaeth i gywirdeb y teitl. Tybia rhai fod yr adnodau hyny wedi eu rhoddi i mewn gan ryw gopïydd wedi amser Dafydd; gan nad oes, meddant, un cyssylltiad rhyngddynt â’r hyn sydd o’u blaen. A chymmeryd yr ymadrodd “Adeilada furiau Ierusalem,” yn yr ystyr llythyrenol, y mae felly; ond a’i gymmeryd mewn ystyr ffugrol, y mae y cyssylltiad yn eglur. Terfyna y Salmydd bron bob un o’i weddïau drosto ei hun â deisyfiadau dros Seion a holl Israel Duw; ac ymddengys hyny yn briodol iawn ar ddiwedd y salm hon yn arbenigol. Yr oedd Dafydd yn ofni rhag y buasai i Dduw, o herwydd ei bechod ef, gefnu ar Seion, a gadael dinas Ierusalem yn agored i’w gelynion, trwy dynu ei amddiffyn oddi wrthi; ac am hyny, taer ymbilia ar i’r Arglwydd barhau ei bresennoldeb bendithiol yn ei gyssegr, a’i nawdd i’r ddinas — yr hyn a olygir wrth yr ymadrodd “adeilada (neu cadarnhâ) furiau Ierusalem.”
Sŵn ymdywalltiad calon ddrylliog, ac ysbryd cystuddiedig, mewn cyfaddefiad gonest o’i bechod — y mwyaf ysgeler a gwaradwyddus o holl bechodau ei oes — ac mewn edifeirwch dwfn a dwys o’i herwydd, ac erfyniau taerion am faddeuant o hono, a’i adferiad yn ol i ffafr Duw, ydym yn glywed drwy y salm. Cydnabydda ei bechod yn ei fawr ddrwg a’i adgasrwydd, heb geisio dodi un esgusawd drosto. Cyfiawnhâ y farn a gyhoeddasai Duw trwy enau Nathan yn gerydd llym arno am ei bechod, pan y dywed “Fel y’th gyfiawnhaer pan leferych, ac y byddit bur pan farnech.” Taer ymbilia drachefn a thrachefn ar i Dduw faddeu ei bechod, a’i lwyr lanhau oddi wrtho — “Golch fi yn llwyr‐ddwys...Glanhâ fi âg isop,” & c., mewn cyfeiriad at ddefodau puredigaeth y gwahanglwyfus: Lef. xiv. Cydnebydd lygredigaeth gwreiddiol ei natur:— “Mewn anwiredd y’m lluniwyd,” & c. — y daethai i’r byd yn ei berthynas â’r Adda cyntaf, a’r camwedd hwnw, mewn cyflwr amddifad o’r dylanwadau dwyfol a fforffetiodd Adda iddo ei hun a’i holl hâd, fel eu tad a’u cynnrychiolydd, y rhai oeddynt yn angenrheidiol er sicrhau creadur rhesymol a moesol mewn ystâd o burdeb a diniweidrwydd. Athrawiaeth wrthodedig iawn yw hon gan lawer a broffesant ffydd yn Ngair Duw, er mor eglur y delir hi allan yn y Gair hwnw. Gweddïa Dafydd hefyd am sancteiddiad ei natur — “Calon lân . . . ysbryd uniawn;” ac am brofiad adnewyddol o orfoledd yr iachawdwriaeth, o’r hwn yr oedd ei enaid wedi bod yn amddifad er’s misoedd lawer bellach. Gorweddasai megys yn dawel dan euogrwydd ei bechod, am naw mis o leiaf, hyd nes y gwanodd cleddyf Duw yn llaw Nathan drwy ei enaid; ac effaith y gwaniad hwnw ydyw ymdywalltiad dyfroedd heilltion edifeirwch, ac ymbiliau “megys o ddyfnderoedd dirfawr” sydd yn y salm.
Gweddïa hefyd na byddai i’r Arglwydd ei “fwrw ymaith oddi ger ei fron, a chymmeryd ei Ysbryd Sanctaidd oddi wrtho.” Yr ysbrydoliaeth ddwyfol, mi dybygwn, a olygai; yr hon y cawsai efe y ffafr arbenig a’r anrhydedd goruchel o fod yn gyfranog o honi fel cyfrwng dadguddiad rhanau o Air Duw i’r eglwys. “Yna,” meddai, “y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir, a phechaduriaid a dröir atat.” Awyddai ei enaid yn adnewyddol, ac yn gryfach nag erioed o’r blaen, am fod yn ddefnyddiol dros Dduw fel offeryn i droi eneidiau ato. Nid oedd dim a’i boddlonai ond llawn adferiad yn ol i’r ffafr ddwyfol a gollasai am dymmor trwy ei bechod, a chael ei gadw rhag llaw rhag syrthio byth mwy i’r cyffelyb bechod.
Y mae adferiad Dafydd yn amlwg iawn o ras penarglwyddiaethol Duw. Tra y gadawyd ef iddo ei hun, arosodd yn ddistaw yn a than euogrwydd ei bechod; a gadawyd ef felly am hen ddigon o amser i ddangos a phrofi na ddaethai byth o hono ei hun i edifarhau o’i blegid. “Am i ti beri i elynion yr Arglwydd gablu,” ebe Nathan wrtho; ac y maent wedi bod yn cablu felly drwy yr oesau hyd y dydd hwn. Y mae anffyddwyr erioed a byth yn gwledda ar ei bechod ef gyda Bathseba — ond nid oes a fynont â’i edifeirwch yn y salm hon. Ond nid oes un salm nac un gyfran o’r Gair Sanctaidd wedi bod yn fwy bendithiol i galonau drylliog ac ysbrydoedd cystuddiedig pechaduriaid edifeiriol na hi. Ynddi hi, yn wir, y mae Dafydd o hyd yn dysgu ffyrdd grasol Duw i rai anwir, ac yn eu harwain at Dduw. Felly yma hefyd, “Lle yr amlhaodd pechod y rhagor amlhaodd gras.”

Currently Selected:

Salmau 51: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 51