YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 72

72
SALM LXXII.
7.4.
Salm i Solomon.
1Dod i’r Brenin, O fy Nuw!
Ei lawn hawliau,
Ac i fab y Brenin gwiw,
’Th gyfiawnderau;
2Llywodraethu ’th bobl wna
Mewn cyfiawnder,
I’th drueiniaid rhydd farn dda,
Mewn unionder.
3Y mynyddoedd ddygant hedd
Rhad yn llawnder,
Hwythau ’r bryniau yr un wedd,
Drwy gyfiawnder;
4Rhydd i’r gorthrymedig farn,
Y tlawd wareda;
Y gorthrymydd, gorn a charn,
Ef a’i dryllia.
5Tra fo haul a lleuad wen
Yn y nefoedd,
Cydnabyddant ef yn ben
Yn oes oesoedd;
6Ei ddylanwad fydd fel gwlaw
O’r wybrenydd;
Fel cawodydd maethlon daw
Ar y meusydd.
7Y cyfiawn, yn ei ddyddiau ef,
A flodeua;
Tra fo lleuad yn y nef,
Hedd a ffyna;
8Efe o fôr i fôr a fydd
Frenin hawddgar,
Ac o’r afon hyd drigfeydd
Eitha’r ddaear.
Rhan II.
9.8.
9O’i flaen ef ymgryma trigolion
Yr anial pellenig i gyd;
I lawr at ei draed daw ’i elynion,
A llyfant y llwch yno ’nghyd;
10Brenhinoedd beilch Tarsis a’r ’nysoedd
A ddeuant yn isel i’w wydd;
Brenhinoedd pell Sheba a Seba
A ddygant eu rhoddion yn rhwydd.
11Ië, fe ddaw ’r holl frenhinoedd,
Ymgrymu a wnant ger ei fron;
Ymgasglu a wna ’r holl genhedloedd
I’w gydwasanaethu yn llon;
12Can’s gweryd ’r anghenog pan waeddo,
Y truan a’r tlawd yr un wedd,
A’r hwn na bo noddwr neb iddo,
Fe ddyry i hwnw wir hedd.
13Fe arbed, fe achub y rheidus,
Fe gyfyd, a gweryd y gwan,
Fe amddiffyn eneidiau truenus
14Rhag trawsder a thwyll yn mhob man;
Eu gwaed yn ei olwg fydd gwerthfawr,
15Byw hefyd byth byth fydd efe,
Fe ddygir aur Seba ’n swm dirfawr,
Yn anrheg o fodd iddo fe.
Rhan III.
8.7.
Hwy weddïant drosto ’n wastad;
Beunydd y clodforir ef,
Gan genhedloedd ar y ddaear,
Yn mhob ieithoedd dan y nef.
16Fry, ar benau y mynyddoedd,
Bydd dyrneidiau llawn o ŷd;
Y ffrwyth ysgwyd megys Liban,
A blodeua ’r bobl i gyd.
17Bydd ei enw yn dragywydd,
Pery tra fo haul y nef;
Ymfendithia ’r bobl ynddo,
Gwynfydedig galwant ef.
18Bendigedig fyddo ’r Arglwydd,
Arglwydd Dduw ei Israel yw;
’R hwn yn unig sydd yn gwneuthur
Rhyfeddodau — ef sydd Dduw.
19Bendigedig byth fo ’i enw
Yn y nefoedd fry uwch ben;
A’r holl ddaear o’i ogoniant
Fyddo ’n llawn. Amen, Amen.
20Gorphen gweddïau Dafydd, mab Iesse.
Nodiadau.
Gweddïodd Dafydd, mab Iesse, lawer mwy nag un dyn arall yn ei oes yn ddiau; ac y mae genym fwy o’i weddïau ef nag o weddïau un arall o ddynion sanctaidd yr Ysgrythyrau. Ond yma y mae gorphen ar ei weddïau. Cawn amryw o weddïau a chaniadau o’i eiddo etto yn y salmau dilynol; ond hon yw yr olaf o’i weddïau yn y dosbarth hwn: ac nid hyny yn unig, ni a dybiwn mai hon yw gweddi olaf ei fywyd. Yr oedd yn gweddïo hon yn ymyl angeu, ac yn ymyl y nefoedd; ac y mae yn orlawn drwyddi o ysbryd y nefoedd. Y mae efe yma wedi colli ei olwg ar ei holl elynion a’i holl drallodau, ac megys yn “nofio mewn cariad a hedd,” ac yn cofleidio yr holl fyd a’r holl genhedloedd yn mynwes ei serch a’i ddymuniadau goreu.
“Salm i Solomon” yw y teitl sydd i hon; ond, “Wele, fwy na Solomon yma.” Gosodiad Solomon i eistedd ar ei orseddfaingc gan Sadoc yr offeiriad, a Nathan y prophwyd, a Benaiah, mab Iehoiadah, un o gedyrn ei lu, a hyny drwy ei orchymyn, ac yn ol ei gyfarwyddyd ef ei hun, oedd yr achlysur yn ddiau, ar yr hwn y gweddïodd y Salmydd ei weddi olaf hon. Yr oedd efe ar ei glaf wely ar y pryd, a bu farw cyn pen nemawr o ddyddiau wedi hyny.
Gesyd allan yn ei weddi brophwydoliaethol hon gyflawnder y llwyddiant a’r dedwyddwch tymmorol a fwynhâai Israel o dan deyrnasiad heddychol Solomon, a gweinyddiaeth gyfiawn ei lywodraeth; yr hyn a gysgodai y llwyddiant a’r dedwyddwch ysbrydol, llawer mwy a gwerthfawrocach, a ddygai llywodraeth rasol y Messïah i’r byd yn nyddiau yr efengyl, yn yr hwn y cydgyfranogai yr holl genhedloedd. Cyflawnwyd yr addewid i’r tadau, Abraham, Isaac, ac Iacob, yn ei bendithion tymmorol, i’r genedl dan deyrnasiad Solomon, i’w helaethrwydd penaf; ond yr oedd i’r addewid hono ystyr uwch, helaethach, a gogoneddusach: “Ac yn dy hâd di y bendithir yr holl genhedloedd,” meddai Duw wrth Abraham. Ni chyflawnwyd hyny yn Solomon; ond y mae i, ac yn cael ei gyflawni yn Nghrist drwy’r efengyl: ac yn y rhagolwg ar hyny, y mae Dafydd ar derfyniad ei weddi hon yn bendithio Duw gydag awyddfryd a gwres angerddol, gan ddyblu ei foliant, a deisyfu am brysuriad dyfodiad yr amser dedwydd i ben, pan y bydd yr holl ddaear wedi ei llenwi â gwybodaeth gogoniant yr Arglwydd: a dybla ei “Amen” wrth ei ddeisyfiad olaf — yr hyn a ddengys fod ei holl enaid yn dywalltedig yn y dymuniad.
Y mae efe tua diwedd y salm wedi colli pob golwg ar Solomon, a’i ogoniant ef a’i frenhiniaeth, yn yr olwg ar ogoniant mwy rhagorol y Messïah a’i frenhiniaeth; ac yn defnyddio ymadroddion i osod allan ogoniant yr olaf, a’i lywodraeth, nad oeddynt ond mewn ystyr cyfyng iawn, os o gwbl, yn briodol i’w cymmhwyso at y blaenaf; megys “Ei enw fydd yn dragywydd: ei enw a bery tra byddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a’i galwant yn wynfydedig!” “Wele fwy na Solomon yma!”

Currently Selected:

Salmau 72: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 72