YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 73

73
SALM LXXIII.
M. H.
Salm Asaph.
1-2I Israel da yw Duw erioed:
A minnau braidd na lithrai ’m troed —
Na thripiodd fy ngherddediad twn,
Drwy ammheu y gwirionedd hwn.
3Can’s cenfigenais yn ddi‐bwyll
Wrth wel’d yr ynfyd yn ei dwyll,
A’r dyn annuwiol drwg ei fryd
Yn llwyddo ’n llawen yn y byd.
4Oddi wrth drallodion maent yn rhydd,
A’u cryfder hwy yn heini sydd:
5Blinderau a chystuddiau llym,
Fel dynion ereill, ni chânt ddim.
6Am hyn cadwynodd balchder hwy,
A thrawsder wisg am danynt mwy;
7Eu llygaid gloewon allan sai’,
Gan fel mae ’u brasder yn tewhau.
8Llygredig ydyw eu holl fryd,
Chwedleua am drawsder maent o hyd
9Hwy â’u geneuau gablant Dduw,
Trwy ’r ddaear rhed eu tafod byw.
11Dywedant, “Pa fodd gŵyr Duw ’r nef?
A oes gwybodaeth ganddo ef?”
12Wel, dyma ’r gwŷr annuwiol fryd
Sydd yn llwyddiannus yn y byd!
Rhan II.
7.6.
13Diau mai hollol ofer
Fu ’m llafur, er glanhau
Fy nghalon rhag ei llygru
Gan bob meddyliau gau;
Yn ofer bu fy nhrafferth
I olchi ’m dwylaw ’n wŷn,
Mewn diniweidrwydd hefyd,
Ni thycia ’r oll o hyn.
14Ar hyd y dydd y’m maeddwyd;
Rhyw gerydd blin a gawn
Bob boreu byth o newydd,
I’m gwneyd yn athrist iawn;
15Ond os fel hyn y d’wedaf,
Gan holi o hyd pa ham?
’R wy’n gwel’d gwnawn â chenhedlaeth
Dy bobl di fawr gam.
16Ac etto, pan y ceisiwn
I ddeall hyny ’n llawn,
Y cwestiwn oedd ry galed
I mi o lawer iawn;
17Hyd onid aethum eilwaith
I gyssegr Duw, fel cynt,
Ac yno y deallais
Beth fydd eu diwedd hwynt.
18Gosodaist hwynt, O Arglwydd!
Ar ryw lithrigfa serth,
A thi a’u cwympi ’n fuan
I ddistryw yn dy nerth;
19Disymmwth iawn yr aethant
I anghyfannedd coll;
Pallasant a darfuant
Gan ofn a dychryn oll.
20Fel breuddwyd gwâg yn cilio
Pan y dihuno dyn,
’R un modd pan ddeffrych, Arglwydd,
Dirmygi ’u gwedd bob un;
21Fel yna y gofidiodd
Fy nghalon dan fy mron,
Fe’m pigwyd yn fy ysbryd,
Fe’m baeddwyd gan y don.
Rhan III.
7.6.
22Yr wyf yn awr yn gweled
Mor ynfyd oeddwn i,
Anifail, Arglwydd, oeddwn,
’R wy’n addef, o’th flaen di;
23Ond gyda thi ’r wy’n wastad,
Ymaflaist yn fy llaw,
24A’th gynghor y’m harweini
I dir y bywyd draw.
25Pwy yn y nef sydd genyf,
O Arglwydd! ond tydi?
Neb arall ar y ddaear
Ni ewyllysiais i;
26Fy nghnawd a’m calon ballodd:
Ond nerth fy nghalon wiw,
A’m rhan dragwyddol hefyd
Yn unig yw fy Nuw.
27Pawb ymbellhânt oddi wrthyt,
Dyfethir hwynt: a’r rhai
Buteiniant oll, gan fyned
Ar ol y duwiau gau.
28Nesau at Dduw, yn ddiau,
Sydd dda i mi: a’m gwaith
Fydd rhoi fy ngobaith ynddo,
A thraethu ’i ryfedd waith.
Nodiadau.
Yma dechreua y trydydd llyfr, neu ddosbarth, o’r Salmau, yn ol y rhaniad Hebreaidd — yn cynnwys dwy ar bymtheg o salmau; a salmau cwynfanus a thrallodus iawn gan mwyaf. Priodolir hwynt oll ond un i Asaph. Cawsom un salm i Asaph, sef Salm l., yn y dosbarth blaenorol. Yr oedd Asaph yn ben cerddor yn amser Dafydd. Rhoddai Dafydd y salm a gawn yn 2 Cron. xvi. yn llaw yr Asaph hwnw, i foliannu yr Arglwydd. I’r Asaph hwn y priodolir y salmau hyn fel eu hawdwr gan lawer. Ond yr oedd Asaph arall, a elwir ‘Asaph y gweledydd,’ yn byw yn amser Hezeciah (2 Cron. xx. 30, ac Esa. xxxvi. 3); ac ymddengys i mi yn llawer mwy tebygol mai hwnw, ac nid yr Asaph cyntaf, yn nyddiau Dafydd, oedd awdwr y salmau hyn. Ni phrofodd dinas Ierusalem, a Seion, a’r cyssegr, ddim o’r anrhaith a’r trallodion a ddisgrifir yn rhai o’r salmau hyn, yn nyddiau Dafydd; ond digwyddodd trychinebau cyffelyb yn amser Ioas, Amasiah, ac Ahaz, brenhinoedd Iudah.
Rhyw brudd fyfyrdod meddwl trwmfrydig, ond duwiolfrydig, yw y salm hon, ar fater y bu amryw o’r dynion sanctaidd yn yr Ysgrythyr yn petruso yn ei gylch; ac y mae llawer o ddynion da yn petruso felly hyd y dydd hwn. Cynnwysir y dyrys bwngc yn y ffaith y digwydda yn fynych, fod y dynion goreu yn dioddef y trallodion dyfnaf yn y bywyd hwn, tra y mae y cymmeriadau gwaethaf yn llwyddo yn y byd, ac yn mwynhau esmwythder, iechyd, a chysuron bywyd yn bob cyflawnder. A’r cwestiwn ydyw, Pa fodd y mae hyn yn gysson â doethineb a chyfiawnder Duw, a gwirionedd ei addewidion i’w bobl? Bu Iob, a Dafydd ei hun, Ieremiah, a Habaccuc, ac ereill o’r prophwydi, fel yr Asaph hwn, “braidd a thripio, a llithro” gyda’r pwngc hwn: Ier. xv. 28; xii. 1; Hab. i. 4.
Disgrifia y Salmydd y frwydr galed iawn a fuasai rhwng ffydd ac anghrediniaeth yn ei enaid ynghylch y mater dyrus hwn:— anghrediniaeth oedd yn trechu yn mhob cynnyg, hyd onid “aeth efe i gyssegr Duw:” yno y torodd goleuni ar y pwngc. Deallodd yn y goleuni hwnw beth fyddai diwedd llwyddiant y rhai ynfyd ac annuwiol yr oedd efe yn cenfigenu wrthynt — y troai eu holl lwyddiant yn fagl a dinystr bythol iddynt; ac y rhoddai holl gystuddiau a gorthrymderau pobl Dduw iddynt hwythau heddychol ffrwyth cyfiawnder yn y diwedd — bod yr holl geryddon “bob boreu, a’r baeddu ar hyd y dydd,” yn cydweithio er eu daioni.
Dychwelai adref o’r cyssegr â’i ffydd wedi ei hadgyfnerthu, a’i anghrediniaeth wedi ei faeddu, a chân newydd yn ei enau. Aethai i’r cyssegr y tro hwnw dan riddfan ac ocheneidio: dychwelai oddi yno dan lawenhau a moliannu. Geilw yn ol am byth yr hyn a ddywedasai pan o dan draed ei anghrediniaeth — “Diau mai yn ofer y glanhëais fy nghalon,” & c. (adn. 13) — wedi iddo yn y cyssegr gael ei draed drachefn yn ddiysgog ar graig gwirionedd tystiolaeth yr adnod gyntaf:— “Yn ddiau, da yw Duw i Israel,” & c. Yn awr, medd efe, “Minnau, nesau at Dduw sydd dda i mi.” Y mae y dystiolaeth yn yr adnod flaenaf o’r salm yn brofiad personol, presennol, ganddo yn ei enaid yn yr adnod olaf.
Y mae profiad Asaph yn y salm hon wedi ei wireddu yn gymmhwys fel yr adroddir ef ynddi yn mhrofiad llaweroedd o saint Duw yn mhob oes. Yn y goleuni a geir yn y cyssegr — yn y dadguddiad a rydd gair ac addewidion Duw yn unig y gellir iawn ddeall goruchwyliaethau Duw tuag at blant dynion, a’i blant ei hun, yn y byd a’r bywyd hwn.

Currently Selected:

Salmau 73: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 73