YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 72

72
I Solomon.
1O Dduw, rho dy farnedigaeth i'r brenin,
a'th gyfiawnder i fab y brenin.
2Bydded iddo farnu dy bobl yn gyfiawn,
a'th rai anghenus yn gywir.
3Doed y mynyddoedd â heddwch i'r bobl,
a'r bryniau â chyfiawnder.
4Bydded iddo amddiffyn achos tlodion y bobl,
a gwaredu'r rhai anghenus,
a dryllio'r gorthrymwr.
5Bydded iddo fyw#72:5 Felly Fersiynau. Hebraeg, Ofnant di. tra bo haul
a chyhyd â'r lleuad, o genhedlaeth i genhedlaeth.
6Bydded fel glaw yn disgyn ar gnwd,
ac fel cawodydd yn dyfrhau'r#72:6 Felly Fersiynau. Hebraeg, yn ddiferyn. ddaear.
7Bydded cyfiawnder#72:7 Felly rhai llawysgrifau a Fersiynau. TM, Bydded y cyfiawn. yn llwyddo yn ei ddyddiau,
a heddwch yn ffynnu tra bo lleuad.
8Bydded iddo lywodraethu o fôr i fôr,
ac o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.
9Bydded i'w wrthwynebwyr#72:9 Tebygol. Hebraeg, Bydded i drigolion yr anialwch. blygu o'i flaen,
ac i'w elynion lyfu'r llwch.
10Bydded i frenhinoedd Tarsis a'r ynysoedd
ddod ag anrhegion iddo,
ac i frenhinoedd Sheba a Seba
gyflwyno eu teyrnged.
11Bydded i'r holl frenhinoedd ymostwng o'i flaen,
ac i'r holl genhedloedd ei wasanaethu.
12Oherwydd y mae'n gwaredu'r anghenus pan lefa,
a'r tlawd pan yw heb gynorthwywr.
13Y mae'n tosturio wrth y gwan a'r anghenus,
ac yn gwaredu bywyd y tlodion.
14Y mae'n achub eu bywyd rhag trais a gorthrwm,
ac y mae eu gwaed yn werthfawr yn ei olwg.
15Hir oes fo iddo,
a rhodder iddo aur o Sheba;
aed gweddi i fyny ar ei ran yn wastad,
a chaffed ei fendithio bob amser.
16Bydded digonedd o ŷd yn y wlad,
yn tyfu hyd at bennau'r mynyddoedd;
a bydded ei gnwd yn cynyddu fel Lebanon,
a'i rawn#72:16 Tebygol. Hebraeg, o ddinas. fel gwellt y maes.
17Bydded ei enw'n aros hyd byth,
ac yn para cyhyd â'r haul;
a'r holl genhedloedd yn cael bendith ynddo
ac yn ei alw'n fendigedig.
18Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD#72:18 Felly llawysgrifau a Fersiynau. TM, ARGLWYDD Dduw., Duw Israel;
ef yn unig sy'n gwneud rhyfeddodau.
19Bendigedig fyddo'i enw gogoneddus hyd byth,
a bydded yr holl ddaear yn llawn o'i ogoniant.
Amen ac Amen.
20Diwedd gweddïau Dafydd fab Jesse.

Currently Selected:

Y Salmau 72: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Videos for Y Salmau 72