YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 73

73
LLYFR 3
Salm. I Asaff.
1Yn sicr, da yw Duw i'r uniawn#73:1 Tebygol. Hebraeg, da yw Duw i Israel.,
a'r Arglwydd i'r rhai pur o galon.
2Yr oedd fy nhraed bron â baglu,
a bu ond y dim i'm gwadnau lithro,
3am fy mod yn cenfigennu wrth y trahaus
ac yn eiddigeddus o lwyddiant y drygionus.
4Oherwydd nid oes ganddynt hwy ofidiau;
y mae eu cyrff yn iach#73:4 Tebygol. Hebraeg, ofidiau i'w marwolaeth; y mae eu cyrff yn raenus. a graenus.
5Nid ydynt hwy mewn helynt fel pobl eraill,
ac nid ydynt hwy'n cael eu poenydio fel eraill.
6Am hynny, y mae balchder yn gadwyn am eu gyddfau,
a thrais yn wisg amdanynt.
7Y mae eu llygaid yn disgleirio o fraster,
a'u calonnau'n gorlifo o ffolineb.
8Y maent yn gwawdio ac yn siarad yn ddichellgar,
yn sôn yn ffroenuchel am ormes.
9Gosodant eu genau yn erbyn y nefoedd,
ac y mae eu tafod yn tramwyo'r ddaear.
10Am hynny, y mae'r bobl yn troi atynt#73:10 Tebygol. Hebraeg, ei bobl yn dychwelyd yma.,
ac ni chânt unrhyw fai ynddynt.#73:10 Tebygol. Hebraeg, a sychir digon o ddyfroedd ganddynt.
11Dywedant, “Sut y mae Duw'n gwybod?
A oes gwybodaeth gan y Goruchaf?”
12Edrych, dyma hwy y rhai drygionus—
bob amser mewn esmwythyd ac yn casglu cyfoeth.
13Yn gwbl ofer y cedwais fy nghalon yn lân,
a golchi fy nwylo am fy mod yn ddieuog;
14ar hyd y dydd yr wyf wedi fy mhoenydio,
ac fe'm cosbir bob bore.
15Pe buaswn wedi dweud, “Fel hyn y siaradaf”,
buaswn wedi bradychu cenhedlaeth dy blant.
16Ond pan geisiais ddeall hyn,
yr oedd yn rhy anodd i mi,
17nes imi fynd i gysegr Duw;
yno y gwelais eu diwedd.
18Yn sicr, yr wyt yn eu gosod ar fannau llithrig,
ac yn gwneud iddynt syrthio i ddistryw.
19Fe ânt i ddinistr ar amrantiad,
fe'u cipir yn llwyr gan ddychrynfeydd.
20Fel breuddwyd ar ôl ymysgwyd, y maent wedi mynd#73:20 Tebygol. Hebraeg, deffro, fy arglwydd.;
wrth ddeffro#73:20 Tebygol. Hebraeg, yn y ddinas. fe'u diystyrir fel hunllef.
21Pan oedd fy nghalon yn chwerw
a'm coluddion wedi eu trywanu,
22yr oeddwn yn ddwl a diddeall,
ac yn ymddwyn fel anifail tuag atat.
23Er hynny, yr wyf gyda thi bob amser;
yr wyt yn cydio yn fy neheulaw.
24Yr wyt yn fy arwain â'th gyngor,
ac yna'n fy nerbyn mewn gogoniant.
25Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond ti?
Ac nid wyf yn dymuno ond tydi ar y ddaear.
26Er i'm calon a'm cnawd ballu,
eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth.
27Yn wir, fe ddifethir y rhai sy'n bell oddi wrthyt,
a byddi'n dinistrio'r rhai sy'n anffyddlon i ti.
28Ond da i mi yw bod yn agos at Dduw;
yr wyf wedi gwneud yr Arglwydd DDUW yn gysgod i mi,
er mwyn imi fynegi dy ryfeddodau.

Currently Selected:

Y Salmau 73: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Videos for Y Salmau 73