Y Salmau 74
74
Mascîl. I Asaff.
1Pam, Dduw, y bwriaist ni ymaith am byth?
Pam y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?
2Cofia dy gynulleidfa a brynaist gynt,
y llwyth a waredaist yn etifeddiaeth iti,
a Mynydd Seion lle'r oeddit yn trigo.
3Cyfeiria dy draed at yr adfeilion bythol;
dinistriodd y gelyn bopeth yn y cysegr.
4Rhuodd dy elynion yng nghanol dy gysegr,
a gosod eu harwyddion eu hunain yn arwyddion yno.
5Y maent wedi malurio#74:5 Tebygol. Hebraeg, wedi ymddangos., fel coedwigwyr
yn chwifio'u bwyeill mewn llwyn o goed.
6Rhwygasant yr holl waith cerfiedig
a'i falu â bwyeill a morthwylion.
7Rhoesant dy gysegr ar dân,
a halogi'n llwyr breswylfod dy enw.
8Dywedasant ynddynt eu hunain, “Difodwn hwy i gyd”;
llosgasant holl gysegrau Duw trwy'r tir.
9Ni welwn arwyddion i ni, nid oes proffwyd mwyach;
ac nid oes yn ein plith un a ŵyr am ba hyd.
10Am ba hyd, O Dduw, y gwawdia'r gwrthwynebwr?
A yw'r gelyn i ddifrïo dy enw am byth?
11Pam yr wyt yn atal dy law,
ac yn cuddio dy ddeheulaw yn dy fynwes#74:11 Tebygol. Hebraeg, a'th ddeheulaw o'th fynwes, difa!?
12Ond ti, O Dduw, yw fy mrenin erioed,
yn gweithio iachawdwriaeth ar y ddaear.
13Ti, â'th nerth, a rannodd y môr,
torraist bennau'r dreigiau yn y dyfroedd.
14Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan,
a'i roi'n fwyd i fwystfilod y môr#74:14 Tebygol. Hebraeg, i bobl yn yr anialwch..
15Ti a agorodd ffynhonnau ac afonydd, a sychu'r dyfroedd di-baid.
16Eiddot ti yw dydd a nos,
ti a sefydlodd oleuni a haul.
17Ti a osododd holl derfynau daear,
ti a drefnodd haf a gaeaf.
18Cofia, O ARGLWYDD, fel y mae'r gelyn yn gwawdio,
a phobl ynfyd yn difrïo dy enw.
19Paid â rhoi dy golomen i'r bwystfilod,
nac anghofio bywyd dy drueiniaid am byth.
20Rho sylw i'th gyfamod,
oherwydd y mae cuddfannau'r ddaear yn llawn
ac yn gartref i drais.
21Paid â gadael i'r gorthrymedig droi ymaith yn ddryslyd;
bydded i'r tlawd a'r anghenus glodfori dy enw.
22Cyfod, O Dduw, i ddadlau dy achos;
cofia fel y mae'r ynfyd yn dy wawdio'n wastad.
23Paid ag anghofio crechwen dy elynion,
a chrochlefain cynyddol dy wrthwynebwyr.
Currently Selected:
Y Salmau 74: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004